Fe gafwyd perfformiad rhagorol gan Gôr Plant y Truro Prep School wrth gystadlu mewn gŵyl gerddoriaeth ryngwladol nodedig.
Dan arweiniad yr arweinydd Angela Renshaw, cymerodd y côr ran yng nghystadleuaeth y Côr Plant Iau yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.
Ac er na wnaethon nhw i gipio’r brif wobr mi wnaeth y plant yn ardderchog mewn cystadleuaeth anodd iawn gan gystadlu yn erbyn corau o bob cwr o Gymru a Lloegr.
Dywedodd Eilir Owen Griffiths, cyfarwyddwr cerdd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen: “Mae safon y cystadleuwyr yn Llangollen bob amser yn uchel ond eleni roedd yn rhyfeddol gyda rhai perfformiadau cwbl syfrdanol.
“Roedd y beirniaid, fel y gynulleidfa fawr, wedi mwynhau perfformiad Côr Plant y Truro Prep School yn arw ac rwyf wir yn gobeithio y gallwn groesawu’r côr yn ôl i Ogledd Cymru yn 2017.”