Grŵp o’r UDA yn cipio teitl ‘Côr y Byd’

Daeth wythnos wych o gystadlu i ben gyda brwydr gyffrous am deitlau ‘Côr y Byd’ a ‘Pencampwyr Dawns y Byd’

Fe ddaeth dathliadau pen-blwydd 70ain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i uchafbwynt cyffrous neithiwr [nos Sadwrn 8fed Gorffennaf] wrth i ddau grŵp rhyngwladol ennill prif gystadlaethau’r ŵyl.

Wedi rownd derfynol safonol iawn, côr The Aeolians o Brifysgol Oakwood gipiodd y teitl mawreddog Côr y Byd a’r grŵp dawns o Ogledd Iwerddon, Loughgiel Folk Dancers, gafodd eu coroni’n Bencampwyr Dawns y Byd.

Daeth bloedd fyddarol o’r gynulleidfa yn dilyn y cyhoeddiad mai Loughgiel oedd yn mynd a hi, wrth i’r dawnswyr ymgynnull ar y llwyfan mewn môr o ffrogiau coch i dderbyn tarian Lucille Armstrong.

Ond bu i’r pafiliwn ffrwydro pan gyhoeddodd cyfarwyddwr cerdd yr Eisteddfod Ryngwladol, Eilir Owen Griffiths, mai’r côr ifanc o’r Unol Daleithiau oedd Côr y Byd 2017.

Fe redodd aelodau The Aeolians o’u seti yn y gynulleidfa i’r llwyfan gan godi baneri America a thynnu hun-lun gyda Tharian Pavarotti a’r arweinydd talentog Max Johnson Ferdinand – gafodd hefyd ei wobrwyo â Gwobr yr Arweinydd Gorau.

Yn ddiweddarach yn y gyngerdd, a noddwyd gan GHP Legal, roedd rhai o dalentau corawl a dawns gorau’r byd wedi mynd benben am y gwobrau mawreddog, ac fe gafwyd ymddangosiad arbennig gan grŵp The Overtones.

Grŵp harmoni enwocaf Prydain, The Overtones, wnaeth agor y noson gan osod naws siriol ar gyfer gweddill y gyngerdd. Ymysg eu rhaglen oedd y clasuron Pretty Woman, Let’s Stay Together and How Sweet It Is, a lwyddodd i swyno’r gynulleidfa yn llwyr.

Ar ôl dechrau hyfryd i’r noson, fe gafwyd gwledd o berfformiadau gan enillwyr bob categori corawl – Cywair (Cymru) o’r categori cymysg; Grupo Vocal “Amitié” (Spaen) o’r categori côr merched; Côr Glanaethwy (Cymru) o’r categori agored; Men in Blaque (UDA) o’r categori côr meibion; a The Aeolians (UDA) o’r categori ieuenctid.

Ar ôl egwyl fer, tro’r tri grŵp dawns gyda’r sgôr uchaf o’r categorïau oedd hi i ddiddanu a chystadlu am Darian Lucille Armstrong.

Agorwyd y gystadleuaeth gyda pherfformiad hwyliog a thraddodiadol gan grŵp Corryvrechan o’r Alban, cyn i Ddawnswyr Gabhru Panjab De Bhangra o India lenwi’r llwyfan gyda bwrlwm wrth berfformio dawns liwgar sy’n gysylltiedig ag adeg y cynhaeaf. Ond y Loughgiel Folk Dancers wnaeth wir blesio’r beirniaid gyda’u perfformiad di-fai yn adlewyrchu curiad calon a gwaed yn rhedeg trwy’r corff.

Gyda dau deitl Pencampwyr Dawns y Byd (2014, 2015) eisoes wedi’i sicrhau, fe lwyddon nhw i greu hanes Eisteddfodol yn gynharach yn yr wythnos ar ôl derbyn y sgôr uchaf erioed o 100/100 yn y categori Dawns Llawr Agored.

Wedi i’r wyth perfformiad ddod i ben, fe ddychwelodd The Overtones i’r llwyfan mewn siacedi cinio gan roi amser i’r beirniaid drafod eu ffefrynnau. Fe wnaeth y pum canwr talentog ganmol safon y noson a dweud nad oedden nhw erioed wedi bod mewn ‘gŵyl fel hon o’r blaen’, cyn gofyn i’r gynulleidfa ymuno â nhw i ganu cân Frankie Valli, Can’t Take My Eyes Off You.

Yn dilyn cyhoeddi’r enillwyr, fe ddaeth y noson i ben gyda fersiwn draddodiadol o Auld Lang Syne i gloi’r cystadlu yn nathliadau 70ain yr Eisteddfod Ryngwladol.

Wrth siarad ar ôl y gyngerdd, sef ei gyngerdd olaf fel cyfarwyddwr cerdd yr Eisteddfod Ryngwladol, dywedodd Eilir Owen Griffiths: “Nawr dyna beth oedd cystadlu a dyna beth oedd adloniant! Roedd gan y beirniaid dasg aruthrol o anodd wrth ddewis yr enillwyr – roedd y gystadleuaeth gorawl yn anhygoel.

“Roedd y gystadleuaeth ddawns yn hollol wych hefyd. Allwn i ddim ond edmygu eu hegni, eu rheolaeth a’u dehongliad – fe wnaeth y symudiadau adrodd stori a dal sylw’r gynulleidfa yn llwyr.

“Roedd hi’n eithaf emosiynol gwylio pob un o’r perfformiadau – roeddwn i wedi fy synnu hefo’r ymroddiad, yr ysbryd a’r angerdd; y misoedd o waith caled sy’n cael ei neilltuo i baratoi at ddod i’r Eisteddfod Ryngwladol. Ond faswn i ddim wedi disgwyl unrhyw beth yn llai gan gystadleuwyr Llangollen.”

I archebu tocynnau ar gyfer Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen neu am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.