Mae gwobr ryngwladol Llais y Dyfodol wedi mynd i Ffrainc.
Am y tro cyntaf ers dechrau’r gystadleuaeth yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, mae’r fedal ryngwladol wedi gadael Cymru wrth iddi gael ei hennill gan y mezzo soprano Elsa Roux Chamoux, wnaeth synnu’r beirniaid gyda’i pherfformiad.
Mae Elsa, 22 oed, yn dod o Grenoble ac wedi bod gynt yn chwarae hoci rinc yn rhyngwladol dros Ffrainc a gôl geidwad mewn tîm enillodd bencampwriaeth byd. Roedd ei pherfformiad trawiadol ar y llwyfan yn Llangollen wedi hudo’r beirniaid a’r gynulleidfa lawn.
Ar ôl cael ei medal ryngwladol a siec am £1,500, dywedodd Elsa: “Mae hyn yn wirioneddol gyffrous i mi ac rydw i wir yn hapus iawn. Roedd yn syndod mawr am fod hon yn ŵyl mor anferth o fawr gyda pobl o gymaint o wledydd yn cystadlu.
“Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill ac roedd yn syndod mawr i mi. Rwy’n astudio rheolaeth busnes mewn prifysgol ac yn teithio i Diss yn Norfolk ddwywaith y mis i gael hyfforddiant llais oddi wrth Susan McCulloch, fy nhiwtor preifat.
“Mae’n rhaid i mi geisio parhau i wella a gweld lle bydd y canu’n mynd â fi. Ond rwyf yn wirioneddol hapus o fod wedi ennill cystadleuaeth mor bwysig. Roedd y safon yn uchel iawn.”
Y beirniaid ar gyfer y gystadleuaeth oedd y Foneddiges Anne Evans ac Anne Williams-King, ac yn eu barn hwy Elsa oedd y gorau un o bedwar perfformiwr talentog iawn ddaeth trwodd i’r rownd derfynol.
Dywedodd y Foneddiges Anne Evans: “Roedd yn agos iawn ac yn gystadleuaeth ffantastig. Ond roedd Elsa’n sefyll allan a does dim amheuaeth ei bod hi’n barod i lansio ei gyrfa broffesiynol.
“Fel pob canwr ifanc arall, mae angen iddi symud ymlaen yn araf a gofalus, ond does dim amheuaeth o gwbl y bydd hi’n un o’r sêr mawr.”
Ac ychwanegodd Anne Williams-King, sy’n rhedeg Stiwdio Opera Gogledd Cymru: “Roedd ganddi raglen mor ddiddorol ac amrywiol oedd yn dangos o ddifri’r raddfa a’r gallu sydd ganddi. Mae Elsa’n berfformwraig o safon, gyda dyfodol mawr o’i blaen.”
Roedd mam Elsa, Sylvie Roux Chamoux, wedi teithio i Langollen i gefnogi ei merch ieuengaf. Roedd Sylvie angen Cymorth Cyntaf ymhen dipyn, ar ôl cymeradwyo mor fywiog pan glywodd gyhoeddi enw ei merch fel yr enillydd.
Dywedodd: “Roedd gen i fodrwy ar un bys oedd wedi’i gwneud o wydr caled. Ond fe wnes i guro dwylo mor egnïol nes ei thorri wrth ei churo yn erbyn modrwy fetel ar fy llaw arall a’i malu’n ddarnau a thorri fy mys yn reit ddrwg.
“Tydi hynny ddim ots mewn gwirionedd, roeddwn i wedi cyffroi gymaint. Mae Elsa wedi bod mor aml dalentog ers erioed ac roeddwn i’n gwybod ei bod hi’n arbennig pan wnaeth hi ddechrau canu yn 12 oed. Mae ganddi chwaer a brawd hŷn hefyd.
“Rydw i’n wirioneddol hapus drosti ac yn gobeithio y bydd ennill y gystadleuaeth hon yn ddechrau iddi ar yrfa lwyddiannus.”