Diwrnod y Plant
Dydd Mawrth 02 Gorffennaf
Ymwelwch ag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yr haf hwn gyda’ch ysgol ar gyfer eich gwibdaith diwedd tymor blynyddol.
Mae’n ddiwrnod pleserus i’r plant a gwibdaith addysgiadol sy’n cwrdd â llawer o ofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol; gan gysylltu ymwybyddiaeth o ddinasyddiaeth fyd-eang a diwylliant â phrofiad cadarnhaol a chofiadwy.
Mi fydd cyngherddau newydd cyffrous y flwyddyn yma gyda’r addewid am gyflwyniadau addysgiadol a deniadol gyda naws yr Eisteddfod yn parhau.
Mae’r diwrnod yn cynnwys:
- Cyngerdd y Plant yn y Pafiliwn Ryngwladol Brenhinol.
- Amrywaeth o berfformiadau trwy’r dydd ar ein llwyfannau tu allan.
- Mynediad llawn i’r maes diogel gyda stondinau amrywiol.
- Gweithdai gyda sgiliau amrywiol i gynnwys cerdd a dawns.
- Mannau o dan do rhag ofn tywydd gwlyb.
Hyn oll am £6 y disgybl yn unig (gydag 1 athro am ddim i bob 6 plentyn).
Ffurflen archebu Diwrnod y Plant 2024
Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â’r swyddfa ar 01978 862 001.
Mae’r un costau yn berthnasol i ysgolion sy’n dymuno mynychu ar dydd Mercher 3, dydd Iau 4 (Diwrnod Ieuenctid) a dydd Gwener 5 Gorffennaf.
Mae croeso rhyngwladol cynnes yn llawn lliw a cherddoriaeth yn eich disgwyl…
Cyfarwyddiadau ar gyfer Partïon Ysgolion:
Dilynwch newyddion yr Eisteddfod ar Facebook neu Twitter ac ar YouTube.
Cronfa Ewch i Weld – Gall ysgolion o Gymru wneud cais am hyd at £1,000 ar unrhyw adeg o’r flwyddyn a byddant yn cael penderfyniad o fewn chwech i wyth wythnos. Gallech dderbyn dyfarniad hyd at 90% o gostau eich taith i Langollen. I wneud cais ewch i https://arts.wales/cy/ariannu/gwneud-cais/dysgu-creadigol/ewch-i-weld