Diwrnod Ieuenctid
Dydd Iau 04 Gorffennaf 2024
Ymwelwch ag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yr haf hwn gyda’ch ysgol ar gyfer eich gwibdaith diwedd tymor blynyddol.
Mae’n ddiwrnod pleserus i’ch myfyrwyr a gwibdaith addysgiadol sy’n cwrdd â llawer o ofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol; gan gysylltu ymwybyddiaeth o ddinasyddiaeth fyd-eang a diwylliant â phrofiad cadarnhaol a chofiadwy.
Mi fydd cyngherddau newydd cyffrous y flwyddyn yma gyda’r addewid am gyflwyniadau addysgiadol a deniadol gyda naws yr Eisteddfod yn parhau.
Mae’r diwrnod yn cynnwys:
- Cofiwch fynd i’r Pafiliwn Ryngwladol Brehinol i weld gwledd o dalentau o bedwar ban y byd.
- Amrywaeth o berfformiadau trwy’r dydd ar ein llwyfannau tu allan.
- Mynediad llawn i’r maes diogel gyda stondinau amrywiol.
- Gweithdai gyda sgiliau amrywiol i gynnwys cerdd a dawns.
- Mannau o dan do rhag ofn tywydd gwlyb.
Hyn oll am £6 y disgybl yn unig (gydag 1 athro am ddim i bob 12 plentyn).
Ffurflen archebu Diwrnod Ieuenctid 2024
Rydym hefyd yn cynnig slotiau 15-20 munud i’ch disgyblion gamu ar un o’n llwyfannau awyr agored a pherfformio. Gall hyn fod yn unrhyw fath o berfformiad, canu, dawnsio, drama, offerynnol, corau, bandiau neu unrhyw dalent arall yr hoffai eich disgyblion ei arddangos! Cysylltwch â ni os hoffech i’ch ysgol gymryd rhan.
Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â’r swyddfa ar 01978 862 001.
Bydd croeso mawr rhyngwladol a lliwgar yn eich disgwyl…
Cyfarwyddiadau ar gyfer Partïon Ysgolion:
Dilynwch newyddion yr Eisteddfod ar Facebook neu Twitter ac ar YouTube.
Cronfa Ewch i Weld – Gall ysgolion o Gymru wneud cais am hyd at £1,000 ar unrhyw adeg o’r flwyddyn a byddant yn cael penderfyniad o fewn chwech i wyth wythnos. Gallech dderbyn dyfarniad hyd at 90% o gostau eich taith i Langollen. I wneud cais ewch i https://arts.wales/cy/ariannu/gwneud-cais/dysgu-creadigol/ewch-i-weld