Kate Aldrich yn cael ei gweld fel “Carmen ei chenhedlaeth”
Mae firws wedi gorfodi Katherine Jenkins i dynnu nôl o gyngerdd yng Ngogledd Cymru ar gyngor meddygol ond mae’r trefnwyr wedi sicrhau seren opera “o safon ryngwladol” i gymryd ei lle.
Roedd y gantores Cymraeg glasurol yn “hynod siomedig” ar ôl cael ei tharo gan firws cas ond bellach bydd y mezzo soprano Americanaidd enwog, Kate Aldrich, yn camu ar lwyfan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn ei lle.
Datgelwyd bod un o gantorion mwyaf y byd, sef y seren opera Bryn Terfel, a fydd yn ymddangos mewn cyngerdd yn yr ŵyl ar y nos Iau, wedi gwneud eu gorau glas ynghyd a’i gynrychiolydd, Matthew Todd, o asiantaeth Harlequin, i helpu’r Eisteddfod.
Maent wedi gweithio’n agos gyda chyfarwyddwr cerdd yr Eisteddfod, Eilir Owen Griffiths, i’w gynghori ar ganfod artist addas i gymryd lle Katherine gan sicrhau gwasanaethau Aldrich.
O ganlyniad, bydd y diva Americanaidd yn serennu ochr yn
ochr â’i chyd-Americanwr, y tenor nodedig Noah Stewart, mewn fersiwn cyngerdd arbennig o opera Carmen gan Bizet ar noson agoriadol yr ŵyl eiconig ar ddydd Mawrth, 5 Gorffennaf.
Daeth i enwogrwydd rhyngwladol yn 2002 drwy serennu yng nghynhyrchiad Zeffirelli o Aida gan fynd ymlaen i ennill Gwobr CulturArte yng Nghystadleuaeth Opera Ryngwladol Operalia. Yn 2006 enillodd Wobr Alfred Radok a’r Wobr Thalia yn y Weriniaeth Tsiec.
Mae beirniaid cerddorol wedi disgrifio Aldrich fel “Carmen ei chenhedlaeth” ac mae wedi perfformio’r opera boblogaidd gyda’r tenor Almaenig gwych, Jonas Kaufmann, yn y Metropolitan Opera yn Efrog Newydd.
Dywedodd cadeirydd yr ŵyl Dr Rhys Davies: “Mae gen i gydymdeimlad gwirioneddol gyda Katherine oherwydd rwy’n gwybod gymaint roedd y rôl hon yn ei olygu iddi hi. Mae’n wirioneddol ddrwg gennym, ond ni fydd Katherine yn gallu perfformio Carmen.
“Ar y llaw arall, rydym wedi bod yn anhygoel o ffodus i allu sicrhau’r gantores opera o’r radd flaenaf yn ei lle.
“Mae Kate Aldrich yn un o sêr opera mwyaf disglair y byd ac mae ei pherfformiad fel Carmen wedi derbyn canmoliaeth eang, mae hi eisoes yn gyfarwydd iawn â’r rhan ac wedi ei pherfformio i glod enfawr yn nhai opera gorau’r byd. Mae’r ffaith ei bod hi’n dod i Langollen i berfformio yn gyffrous iawn ac mae’r gynulleidfa yn mynd i gael gwledd. “
Yn ôl ei rheolwyr roedd Katherine yn “hynod siomedig” nad yw’n gallu perfformio yn Llangollen.
Meddai Katherine: “Rwyf wedi bod yn edrych ymlaen ac wedi bod yn paratoi ar gyfer dychwelyd i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ers misoedd lawer, nid yn unig am ei fod yn un o fy hoff leoliadau ond hefyd oherwydd ei fod yn gyfle i berfformio fy hoff ran. Rwyf wedi siomi’n fawr fod y salwch yma wedi fy nharo ar yr adeg yma ar ganol y cyfnod ymarfer mwyaf allweddol.
“O dan yr amgylchiadau, roeddwn wrth fy modd ac yn ddiolchgar i glywed bod Kate Aldrich ar gael i gamu i’r adwy ac rwy’n sicr y bydd hi’n creu noson arbennig a gwych i bawb. Rwyf ond yn difaru nad wyf yn gallu bod yno.”
Dywedodd Kate Aldrich ei bod yn edrych ymlaen yn fawr at ei hymweliad cyntaf erioed â Llangollen.
Meddai: “Hoffwn anfon fy nghydymdeimlad i Katherine ynghyd â’m dymuniadau gorau am wellhad buan.
“Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn ddigwyddiad eiconig ac rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar i ddilyn yn ôl troed cewri operatig y gorffennol fel Luciano Pavarotti sydd wedi perfformio ar yn y pafiliwn.
“Carmen yw un o fy hoff rannau ac rwyf wedi clywed fod y gynulleidfa yn Llangollen yn wybodus a gwerthfawrogol iawn, felly rwy’n edrych ymlaen at noson arbennig a chanu gyda Noa a’r cantorion dawnus eraill yn yr ensemble.”
Mae’r cyngerdd yn cael ei noddi gan sefydliad gofal Parc Pendine, sydd â chanolfannau yn Wrecsam a Chaernarfon ac sydd ag ymlyniad mawr tuag at y celfyddydau.
Dywedodd perchennog Parc Pendine Mario Kreft MBE: “Yn naturiol roeddem yn edrych ymlaen at weld Katherine Jenkins, ond o ystyried y sefyllfa, rwy’n meddwl fod yr Eisteddfod wedi gwneud yn wych i sicrhau gwasanaeth cantores hynod dalentog o safon Kate Aldrich sydd heb amheuaeth yn un o ddehonglwyr gorau’r byd o Carmen. Mae’n argoeli i fod yn noson wych.”
Er yn siomedig nad yw Katherine Jenkins yn gallu bod yno, roedd Eilir Owen Griffiths, cyfarwyddwr cerdd yr ŵyl, yn teimlo yr un mor gyffrous wrth feddwl am glywed fersiwn Kate Aldrich o Carmen.
Meddai Eilir: “Rwy’n hynod ddiolchgar i Bryn Terfel a Matthew Todd o asiantaeth Harlequin, sy’n ei gynrychioli, am eu holl gymorth wrth drefnu i Kate ddod i Langollen.
“Rwy’n gwybod bod Bryn a Matthew wedi siarad gyda’u cysylltiadau, gan gynnwys rhai o’r enwau mwyaf yn y byd opera, cyn argymell Kate fel y person perffaith i’r rôl.
“Mae hi’n gantores mezzo soprano arbennig o ddawnus ac rwy’n siŵr y bydd y cyngerdd ar y noson agoriadol yn rhoi cychwyn teilwng i’r wythnos gyfan.
“Mae gennym hefyd rai artistiaid gwych a fydd yn ymuno â Kate a Noah Stewart ar y llwyfan. Bydd y bariton Adam Gilbert yn chwarae rhan El Dancairo gyda Lukask Karauda fel Escamillo.
“Hefyd yn cymryd rhan bydd y mezzo-soprano Cymraeg Caryl Hughes, o Aberdaron yn chwarae rhan Mercedes a’r tenor Trystan Griffiths, sy’n hanu o Glunderwen, Sir Benfro, yn chwarae El Remenado.
“Bydd cerddorfa Opera Genedlaethol Cymru, dan arweiniad Anthony Inglis, a lleisiau Cȏr Cytgan Clwyd o Ruthun yn ychwanegu at yr hyn a fydd yn noson hudolus o gerddoriaeth a drama.”