Arian Teleheal a Sara Rowbotham yw enillwyr Gwobr Heddwch y Rotary

Arian Teleheal sy’n ennill y wobr ryngwladol tra bod y wobr genedlaethol yn cael ei chyflwyno i Sara Rowbotham am ei gwaith arbennig gyda Thîm Argyfwng Rochdale a’r GIG

Elusen sy’n gweithio gyda meddygon gwirfoddol o Brydain a’r UDA i gynghori cyd-weithwyr mewn ardaloedd rhyfelgar a gwledydd tlawd, gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, sydd wedi ennill Gwobr Heddwch Ryngwladol y Rotary.

Cafodd y wobr, sy’n cael ei noddi gan Typhoo Tea, ei chyflwyno i Dr Waheed Arian ac elusen Arian Teleheal yn ystod cyngerdd mawreddog y Dathliad Rhyngwladol yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar 5ed Gorffennaf.

Cafodd Dr Arian ei gydnabod am sefydlu’r elusen flaengar, Arian Teleheal, sy’n cysylltu meddygon ym Mhrydain, yr UDA a gwledydd eraill gyda’u cyd-weithwyr trwy gyfrwng ffonau symudol, Skype neu WhatsApp – gan alluogi trafodaethau ar y gofal gorau posib i gleifion.

Sefydlwyd Arian Teleheal yn 2015 gan Dr Arian, meddyg 34 oed o’r Gwasanaeth Iechyd, wnaeth ddatblygu’r syniad wrth weithio yn Ysbyty Prifysgol Aintree yn Lerpwl. Mae wedi recriwtio dros 100 o arbenigwyr meddygol ers lansio’r elusen, sydd wedi derbyn clod am arbed dwsinau o fywydau yn Afghanistan a Syria.

Y cam nesa fydd lansio cynlluniau peilot yn Uganda a De Affrica, mewn cydweithrediad ac Addysg Iechyd Lloegr. Mar bwriad hefyd i ehangu i wledydd eraill yn Affrica ag Asia.

Wedi ei eni a’i fagu yn Afghanistan, fe symudodd teulu Dr Arian i Bakistan, gan dreulio tair blynedd yn byw mewn gwersyll noddfa i ffoaduriaid. Yn 15 oed, fe ddaeth Dr Arian i Lundain ar ben ei hun, heb fedru yngan llawer o Saesneg. Ond bedair blynedd yn ddiweddarach, bu iddo dderbyn lle ym Mrifysgol Caergrawnt i astudio Meddygaeth. Ym mis Medi, derbyniodd wobr UNESCO am ei waith eithriadol.

Cafodd Gwobr Heddwch Genedlaethol y Rotary, sy’n cael ei noddi gan Westminsterstone, hefyd ei gyflwyno yn y seremoni – a’r cyn weithiwr cymdeithasol Sara Rowbotham ddaeth i’r brig y tro hwn, er iddi fethu bod yn bresennol. Cydnabuwyd ei gwaith gyda Thîm Ymyrraeth mewn Argyfwng Rochdale ar ran y GIG.

Fel gweithiwr iechyd rhyw rheng flaen ac arweinydd y tîm argyfwng, fe frwydrodd Sara i sicrhau bod lleisiau’r bobl ifanc, fregus yn ei gofal yn cael eu clywed. Bu ei gwaith yn allweddol wrth ddatguddio cyfres o droseddau rhyw difrifol yn erbyn plant yn Rochdale, gan helpu rhoi’r rhai oedd yn gyfrifol o flaen eu gwell.

Roedd cyflwyniad y wobr fawreddog yn ddathliad o dair blynedd o bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod Ryngwladol a’r Rotary, un o sefydliadau dyngarol mwyaf y byd. Mae’r wobr yn cydnabod unigolion neu gyrff sy’n gyfrifol am annog a lledaenu heddwch trwy eu gwaith.

Mae’r bartneriaeth yn adlewyrchiad o amcanion y ddau gorff, yn enwedig y rhai sydd wedi cael eu meithrin gan yr Eisteddfod Ryngwladol, gafodd ei sefydlu i hyrwyddo heddwch a harmoni rhwng y cenhedloedd.

Yn siarad ar ôl i’r Wobr Ryngwladol gael ei chyflwyno ar lwyfan y Pafiliwn Brenhinol Rhyngwladol, dywedodd Dr Arian: “Fe wnes i sefydlu Arian Teleheal er mwyn i bobl sy’n byw mewn amodau erchyll ar draws y byd gael elwa o ofal iechyd safonol trwy ddefnyddio technoleg bob dydd.  Ein bwriad yw helpu meddygon lleol i roi’r gofal gorau posib i’w cleifion.

“Trwy wneud hyn, rydym hefyd yn uno cymunedau fyddai byth, fel arfer, yn cwrdd. Gall feddyg y tu allan i’w gwaith fod yn helpu achub bywyd bachgen ifanc yn Kabul. Wnawn nhw fyth gwrdd, ond rhieni’r bachgen yn gwybod ei bod hi wedi helpu, sy’n creu cysylltiad parhaol rhwng y cymunedau hyn.

“Yn ogystal â’n cyngor clinigol, rydym yn cynyddu ein sesiynau addysgol ar gyfer meddygon tramor, gan gryfhau cysylltiadau hyd yn oed ymhellach. Mae ein meddygon gwirfoddol yn llawn haeddu’r Wobr Heddwch Rhyngwladol sy’n gydnabyddiaeth iddyn nhw ac i’r meddygon maen nhw’n eu helpu mewn gwledydd pell.”

Wedi iddi ennill y wobr genedlaethol gyfatebol, dywedodd Sara Rowbotham: “Hoffwn ddiolch i bawb yn y Rotary am fy anrhydeddu gyda’r wobr hon. Rwy’n falch iawn o wybod bod gymaint o bobl yn fy nghefnogi ac yn cydnabod anghenion pobl ifanc, fregus sydd wedi cael eu hynysu a’u tawelu am gyn hired. Mae’n fraint derbyn y wobr hon – diolch.”

Cafodd y panel dyfarnu ei gadeirio gan Richard Hazlehurst o Ganolfan Bradford Rotary Peace; ac yn ymuno âg efo oedd y beirniad Jean Best, sefydlwr The Peace Project a gafodd ei anrhydeddu gan y Cenhedloedd Unedig yn 2017.

Gan fod prosiectau heddwch yn dod mewn sawl ffurf, bu i’r panel ystyried effaith pob prosiect ar y cyhoedd, proffil a hirhoedledd bob corff neu unigolyn ac effaith eu gwaith.

Dywedodd Richard: “Roedd cymaint o’r enwebeion eleni yn dilyn thema syml sefydliad y Rotary, sef gwnewch dda yn y byd. Ond roedd cyfraniadau Dr Waheed Arian a Sara Rowbotham yn sefyll allan.

“Bu i Dr Waheed Arian arddangos penderfyniad eithriadol ar ei siwrne o wersyll ffoaduriaid i fod yn feddyg uchel ei barch. Fe wnaeth ei ddychymyg a’i weledigaeth arwain at greu cynllun lle mae meddygon a llawfeddygon mewn ardaloedd rhyfelgar yn medru cynnal trafodaethau gyda meddygon eraill ym Mhrydain tros y ffôn, Skype neu WhatsApp – gan arbed bywydau a gwella gofal i gleifion ar draws y byd.

“Bu i Sara Rowbotham hefyd arddangos dewrder aruthrol ac ymrwymiad yn ei brwydr i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc, fregus yn ei chymuned yn cael eu clywed.”

Ychwanegodd Llywydd yr Eisteddfod Ryngwladol, Terry Waite CBE: “Unwaith eto, cafwyd rhestr fer ardderchog ar gyfer y wobr bwysig hon, gan wneud tasg y beirniaid o ddewis dau enillydd yn un anodd iawn.

“Er hynny, roedd hi’n galonogol iawn gweld faint o bobol sy’n gweithio tuag at yr un amcan a’r Eisteddfod Ryngwladol a’r Rotary – sef lledaenu heddwch ac ewyllys da yn y byd sydd ohoni.”

Yn olaf, dywedodd Molly Youd, cyn lywodraethwr ardal y Rotary: “Fe wnaeth y seremoni wobrwyo eleni adeiladu ar lwyddiant y ddwy flynedd ddiwethaf. Roedd pob un o’r cyrff a enwebwyd yn haeddu cydnabyddiaeth am eu gwaith diflino i hybu heddwch a dealltwriaeth yma ym Mhrydain ac yn rhyngwladol, ein dau enillydd yn benodol.

“Mae thema yr Eisteddfod Ryngwladol o gyfeillgarwch rhyngwladol yn fwy perthnasol nag erioed ac rydym yn falch iawn bod ein partneriaeth gyda’r ŵyl wedi gadael i ni, unwaith eto, gydnabod y ddau unigolyn eithriadol yma sy’n gweithio tuag at wneud ein byd yn le gwell a mwy heddychlon ar lwyfan rhyngwladol.”

Am fwy o wybodaeth am Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a Gwobr Heddwch Ryngwladol y Rotary, ewch i www.Llangollen.net. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Rotary, ewch i: www.rotary-ribi.org