Cyhoeddi dau enillydd i Wobr Heddwch Rhyngwladol

Mae corff sy’n rhoi pwyslais ar leddfu dioddefaint a menter arall sy’n annog pobl i ildio’u harfau ill dau wedi ennill Gwobr Heddwch Rotary International.

Cafodd y corff British Ironworks o Groesoswallt a Médecins Sans Frontières eu cyd-wobrwyo yng nghyngerdd agoriadol dathliadau 70ain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar ddydd Llun 3ydd Gorffennaf.

Fe wnaeth British Ironworks ennyn canmoliaeth am brosiect Save a Life, Surrender Your Knife, wnaeth gyrraedd pen llanw pan grëwyd yr Heneb Genedlaethol yn erbyn Trais ac Ymddygiad Ymosodol – sef cerflun siâp angel wedi’i wneud allan o arfau gafodd eu hildio mewn 43 swyddfa heddlu ar draws y wlad. Cafodd Médecins Sans Frontières hefyd ei gymeradwyo am ei bolisi témoignage – sef ymdrech i annog pobl i godi llais er mwyn lleddfu dioddefaint a gwarchod bywyd dynol.

Cafodd y ddau enillydd eu henwebu ynghyd â Sefydliad Heddwch Tim Parry Johnathan Ball a Chyngor Ffoaduriaid Cymru.

Penderfynodd y beirniaid Konnie Huq, sy’n gyflwynydd teledu a llysgennad y Groes Goch; Richard Hazlehurst o Ganolfan Heddwch Bradford a Llywydd yr Eisteddfod Ryngwladol, Terry Waite CBE wobrwyo’r ddau gorff ar ôl trafodaethau hir.

Wrth drafod y penderfyniad, dywedodd Terry Waite CBE: “Byddai’n anodd meddwl am ymgeiswyr mwy teilwng ar gyfer y wobr. Roedd pob un o’r pedwar sefydliad yn llwyr ymgorffori ethos yr Eisteddfod Ryngwladol o heddwch, ewyllys da, a dealltwriaeth a byddai’r beirniaid yn hoffi talu teyrnged i bob un. Roedd dewis enillydd yn benderfyniad anodd iawn.

“Mae polisi témoignage Médecins Sans Frontières yn helpu i leihau rhwystrau, lleddfu dioddefaint a lledaenu’r neges heddwch ar draws y byd, tra bod menter greadigol a thrawiadol British Ironworks wedi arddangos cyfle i ddelio â’r broblem gyllyll ym Mhrydain.

“Mae’r ddau yn fentrau eithaf newydd a’r gobaith yw y bydd y wobr yn darparu platfform i hybu’r gwaith ymhellach gan hefyd annog eraill i ddatblygu gwaith yn y maes.”

Dywedodd Richard Hazlehurst: “Mae beirniaid o hyd yn dweud ei bod hi wedi bod yn anodd penderfynu gan fod y safon mor uchel. Dw i nawr yn gwybod pam eu bod nhw’n dweud hynny am mai dyma’n union oedd yr achos gyda’r wobr yma. Mae’r pedwar ymgeisydd yn gwneud gwaith mor wahanol, sydd yr un mor werthfawr.

“Mae yna ddywediad o fewn fy nheulu wnaeth ddeillio o drasiedi teuluol bron i hanner can mlynedd yn ôl: ‘Pam na wnaeth rywun wneud rhywbeth?’. Roedd yn gwestiwn gafodd ei holi gan rywun wnaeth fethu gwneud rhywbeth. Ond mae’r ddau enillydd – Médecins Sans Frontières a British Ironworks – yn bendant yn ‘gwneud rhywbeth’.”

Ychwanegodd y cyflwynydd teledu Konnie Huq: “Mae polisi témoignage Médecins Sans Frontières (MSF UK) yn fenter unigryw lle mae mawr angen amdano. Fel corff diduedd, mae codi llais pan mae eraill yn gwrthod yn mynd i dynnu sylw at sawl sefyllfa sydd angen eu cyfryngu a’u datrys. Mae gan effaith y gwaith hwn bosibiliadau eang a does dim amheuaeth y bydd yn cyfrannu ymhellach at heddwch cenedlaethol. Mae prosiect heddwch Angel Heddwch y British Ironworks yn fenter syml ond effeithiol i leihau niferoedd cyllid ar y stryd”.

Wrth feirniadu, roedd y panel yn ystyried effaith y prosiectau ar y cyhoedd, hirhoedledd y sefydliadau ac effaith ei waith.

Yn dilyn cyhoeddi enillwyr y wobr ar lwyfan y Pafiliwn Cenedlaethol Brenhinol, dwedodd Paul McMaster, Cadeirydd MSF UK: “Rwyf wrth fy modd yn derbyn y wobr  ar ran MSF UK, ein gweithwyr a’n gwirfoddolwyr ar draws y byd.

“Sefydlwyd y corff gan ddoctoriaid a newyddiadurwyr. Rydym yn darparu gofal sy’n achub bywydau mewn rhyfeloedd ac argyfyngau, ond rydym hefyd yn trafod yr hyn ydan ni’n ei weld. Mae siarad am y sefyllfaoedd erchyll hyn yn rhan hanfodol o’n gwaith ac rydym yn falch iawn bod hynny’n cael ei gydnabod.

“Fel gyda gweddill ein gwaith, cefnogaeth y cyhoedd sy’n ein galluogi i fynd i ganol y dioddefaint a gwthio am newid yn sgil hynny. Diolch i’r Rotary International ac i’r Eisteddfod Ryngwladol am ein dewis ni fel cyd-enillwyr gyda British Ironworks. Rydym yn gobeithio y bydd y wobr yn gymorth i godi ein proffil ac yn ein galluogi i godi llais ymhellach.”

Dywedodd Clive Knowles, Cadeirydd Canolfan y British Ironworks: “Mae’n fraint o’r mwyaf i dderbyn Gwobr Heddwch y Rotary International ynghyd â sefydliad mor  enwog a Médecins Sans Frontières.

“Cam nesaf ein prosiect fydd gwneud yn siwr fod yr heneb yn cyflawni ei dynged ac yn cael ei osod yn Sgwâr Trafalgar. Rydym ni wedi lansio deiseb sy’n galw am hyn ac yn annog gymaint o bobl ag sy’n bosib i’w arwyddo er mwyn creu canolbwynt wrth i’r mudiad godi ymwybyddiaeth am y troseddau cyllyll sydd bellach yn broblem enfawr ar ein strydoedd.

“Dim ond gyda chefnogaeth y cyhoedd gall neges yr Heneb Genedlaethol yn Erbyn Trais ag Ymddygiad Ymosodol gyrraedd y bobl gywir. Fe fydd ennill y wobr hon yn codi ymwybyddiaeth am ein bwriad ac rydym yn diolch i Rotary International ac i’r Eisteddfod Ryngwladol am ein dewis ni fel cyd-enillwyr.”

Wedi’r cyhoeddia y llynedd mai Eisteddfod Llangollen oedd enillydd cyntaf Gwobr Heddwch Rotary International, fe fydd yr ŵyl yn cael ei defnyddio fel platfform i gyflwyno’r wobr o hyn ymlaen. Y bwriad yw sicrhau statws rhyngwladol i’r anrhydedd a’i datblygu i fod yn wobr uchel ei bri.

Dwedodd Molly Youd, o Rotary International: “Hoffwn longyfarch Médecins Sans Frontières a British Ironworks am ennill y Wobr Heddwch. Mae’r ddau sefydliad wedi cael effaith sylweddol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac maent yn ymgorffori ysbryd y wobr yn berffaith”.

Am fwy o wybodaeth am Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a Gwobr Heddwch y Rotati International, cliciwch yma, ac am fwy o wybodaeth ynglŷn â Rotary, ewch i: www.rotary-ribi.org