‘Eisteddfod fechan’ ar ffurf gŵyl stryd i’w chynnal yng nghanol dinas Gaer mewn partneriaeth a chwmni St Mary’s Creative Space
Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a St Mary’s Creative Space am ddod ynghyd unwaith eto i gyflwyno fersiwn fechan o ŵyl eiconig Llangollen ar strydoedd Gaer.
Fe fydd y digwyddiad pedwar diwrnod yn agor gyda ‘Eisteddfod fechan’ ar ffurf gŵyl stryd ar 3ydd Gorffennaf, 12yp lle bydd arddangosfa liwgar o gerddoriaeth a dawns gan berfformwyr o bob cwr o’r byd.
Gan adeiladu ar lwyddiant y llynedd, fe fydd tri chyngerdd hefyd yn cael eu cynnal yn St Mary’s Creative Space ar y 4ydd, 5ed a’r 6ed o Orffennaf – gyda’r rhaglen lawn yn cael ei chyhoeddi’n fuan.
Bydd y cyngherddau yn rhoi cyfle i gystadleuwyr yr Eisteddfod Ryngwladol berfformio gyda thalentau lleol Gaer – gan roi siawns iddyn nhw ddod ynghyd i brofi mwynhad cerddoriaeth yn un o leoliadau mwyaf atmosfferig y ddinas.
Gan gyd-fynd a’r ŵyl sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 70ain, mae’r bartneriaeth – sy’n cael ei noddi gan gwmni cyfreithwyr Russell & Russell – hefyd wedi ennyn cefnogaeth Theatre in the Quarter, sy’n adnabyddus am uno cymunedau.
Dywedodd Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod Ryngwladol: “Unwaith eto, mae medru dod a mwynhad a chyfoeth talent yr Eisteddfod i Gaer yn gyfle bendigedig, yn enwedig wrth i ni ddathlu 70 mlynedd o’r ŵyl.
“Mae’r cynlluniau cyffrous ar gyfer yr ‘Eisteddfod fechan’ bron a’u gorffen ac fe fyddwn ni’n cyhoeddi’r manylion llawn yn fuan iawn”.
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Artistig Theatre in the Quarter, Matt Baker: “Y llynedd, cefais fwynhad pur yn gweld egni ac amrywiaeth y perfformwyr rhyngwladol.
“Fe wnaethon nhw lenwi ein theatr fechan, cwrdd ag artistiaid lleol a rhoi gwledd i’r gynulleidfa cyn gwneud eu ffordd i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Roedd o’n brofiad anhygoel i bawb a’u gwelodd.
“Alla i ddim aros i weld y perfformwyr penigamp yn St Mary’s Creative Space eleni, ac yna’n meddiannu strydoedd Gaer.
Am fwy o wybodaeth ac i brynu ticedi i’r ‘Eisteddfod fechan’, ewch i: <http://stmaryscreativespace.co.uk>