Côr o Ynys Môn yn ennill cystadleuaeth y plant yn yr Eisteddfod Ryngwladol

Daw pencampwyr Côr Ieuenctid Eisteddfod Ryngwladol Llangollen o Ynys Môn.

Enillodd Côr Ieuenctid Môn y wobr gyntaf yn dilyn cystadleuaeth galed rhwng wyth côr o Gymru a Lloegr.

Wrth wylo gyda llawenydd fe gasglodd cyfarwyddwr cerddorol ac arweinydd y côr, Mari Lloyd Pritchard, y tlws rhyngwladol a siec am £500 gan Enid Evans, 94 oed, o Fryste, a roddodd y tlws a’r wobr ariannol er cof am ei brawd, H Wyn Davies MBE a’i wraig Muriel.

Mae Mrs Evans wedi bod yn mynychu Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ers 1947 a dim ond ychydig iawn ohonynt y mae wedi’u methu dros y 70 mlynedd ddiwethaf.

Dywedodd Mari Lloyd Pritchard, sy’n rhedeg ei chwmni rheoli’r celfyddydau ei hun, mai hwn oedd y tro cyntaf i’r côr gystadlu yn Llangollen ac roedd ennill y gystadleuaeth yn gyflawniad aruthrol.

Meddai: “Mae’r plant wedi gweithio mor galed ac rwyf mor hapus drostynt. Rydym yn ymarfer yn y capel yng Ngaerwen, gyda’r rhan fwyaf o’r aelodau yn byw ar Ynys Môn, ond mae un neu ddau sy’n byw ar y tir mawr.

“Rydym yn dathlu ein pen-blwydd yn 10 oed fel côr eleni, ac mae ennill yn Llangollen yn gwireddu breuddwyd. NI allwch ddweud gyda chystadlaethau, y cyfan y gallwch ei wneud yw rhoi eich cynnig gorau a gobeithio bod pawb yn cael diwrnod da. Roeddem yn gwybod ein bod wedi gwneud ein gorau ac ni allwch wneud mwy na hynny.”

Dywedodd Enid Evans ei bod wedi canu yn Eisteddfod gyntaf Llangollen ac er ei bod wedi byw ym Mryste am y 60 mlynedd ddiwethaf, mae’n dychwelyd i Langollen bob mis Gorffennaf pan fydd yn gallu.

Dywedodd Enid, a oedd yn athrawes cyn ymddeol: “Rwyf wrth fy modd yn mynychu’r Eisteddfod ac yn edrych ymlaen at glywed y corau plant yn arbennig. Roedd y gystadleuaeth eleni yn un wych ac roedd Côr Ieuenctid Môr yn enillwyr haeddiannol.

“Rwy’n noddi’r wobr oherwydd roedd fy annwyl frawd, H Wyn Davies, a’i wraig Muriel, yn gefnogwyr brwd o’r Eisteddfod am flynyddoedd lawer.”

Côr Ieuenctid Môn yn perfformio ar lwyfan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen

Côr Ieuenctid Môn yn perfformio ar lwyfan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen

Derbyniodd perfformiad Côr Ieuenctid Môn ganmoliaeth gan y cyfansoddwr Brenhinol, Paul Mealor, a oedd yn un o feirniaid y gystadleuaeth.

Meddai: “Roedd yn gystadleuaeth galed iawn ac roedd rhai corau plant gwych yn cystadlu. Fodd bynnag, roedd egni ac ynganiad da Côr Ieuenctid Môn yn amlwg. Roedd y gerddoriaeth a’r canu yn dod yn ddwfn o’u heneidiau.”