Ymddangos yn Llangollen yn “gwireddu breuddwyd” tenor poblogaidd

Bydd y tenor enwog Joseph Calleja yn gwireddu uchelgais y bu ganddo ers tro pan fydd yn ymddangos yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Nid yn unig y bydd yn dilyn ôl traed ei arwr, Luciano Pavarotti, ond bydd y canwr o Malta hefyd yn ymddangos gydag un o’i ffrindiau pennaf, y bas bariton byd enwog, Bryn Terfel.

Bydd Joseph a Bryn yn camu ar y llwyfan gyda’i gilydd ar gyfer y Cyngerdd Clasurol Mawreddog fydd yn dynodi’r 70ain Eisteddfod yn Llangollen ers sefydlu’r ŵyl eiconig yn 1947 i hyrwyddo heddwch a chytgord yn y byd.

Mae’r cyngerdd ar ddydd Iau, Gorffennaf 7, yn cael ei noddi gan y sefydliad gofal Parc Pendine sydd wrth eu boddau â’r celfyddydau. Bydd Parc Pendine hefyd yn cefnogi cyngerdd Katherine Jenkins a fydd yn agor wythnos yr ŵyl ar nos Fawrth, Gorffennaf 5.

 

Yn ôl Joseph, mae’n gwybod sut y bu i Luciano Pavarotti gael blas ar lwyddiant yng ngŵyl Llangollen 1955 fel aelod o Corale Rossini, côr meibion o Modena, Yr Eidal, a sut y dychwelodd mewn gorfoledd i Langollen yn 1995.

Ond yr hyn sy’n coroni’r cyfan i Calleja yw ei fod yn ymuno â’i hen ffrind, Bryn Terfel ar gyfer y Cyngerdd Clasurol Mawreddog, ac mae’n benderfynol y bydd hi’n noson hyfryd ac yn ddathliad o gerddoriaeth.

Dywedodd: “Rwy’n gwybod y cyfan am Pavarotti a sut yr oedd yn dweud mai yn Llangollen y cychwynnodd y cwbl iddo a pha mor bwysig oedd yr ŵyl iddo.

“Mae’n rhaid ei bod yn ardderchog iddo gael canu yn yr un côr â’i dad ac yna dychwelyd gymaint o flynyddoedd yn ddiweddarach fel seren fwyaf y byd i berfformio cyngerdd ar ei ben ei hun.

“Bydd dilyn ei ôl troed ac ymddangos ar yr un llwyfan yn gwireddu breuddwyd.

“Bydd perfformio gyda Bryn Terfel yn wych. Dyma fydd y tro cyntaf i mi berfformio mewn cyngerdd gyda bas bariton. Rwyf wedi gweithio gyda Bryn yng Ngŵyl y Faenol ym Mangor yn y gorffennol ond roedd hynny gyda nifer o berfformwyr gwadd eraill.

Bryn Terfel

Bryn Terfel

“Yn y cyngerdd hwn bydd Bryn, yr mezzo-soprano hyfryd ac addawol Eirlys Myfanwy Davies, a minnau. Mae hynny’n golygu na fyddaf yn un o nifer fawr o westeion, mae’r cwbl am y tri ohonom ni. Mi fydd hi wir yn noson anhygoel.”

Dywedodd Joseph ei fod ef a Bryn Terfel wedi dod yn ffrindiau da iawn ac yn rhannu’r un hoffter am fywyd, am deulu ac am win da.

Dywedodd: “Mae gennym ddeinameg a chysylltiad da iawn. Rydym yn bwydo oddi ar ein gilydd mewn ffordd artistig. Mae Bryn, fel fi, yn byw bywyd i’r eithaf. Mae’r ddau ohonom yn ddynion mawr, ond mewn gwirionedd, fo yw un o’r unig rai sy’n gwneud i mi edrych yn fach wrth i mi sefyll wrth ei ochr!

“Mae Bryn wedi dweud y cwbl wrthyf am Langollen, gan i mi ddweud wrtho fy mod yn gwybod y cyfan am Pavarotti a’i ymddangosiadau yn yr ŵyl a sut yr oedd wrth ei fodd yn ymddangos yng Ngogledd Cymru.

“Ond mae Bryn wedi egluro hanes yr ŵyl i mi a sut y cafodd ei sefydlu i hyrwyddo heddwch, harmoni a cherddoriaeth dda. Yn amlwg mae’n ŵyl arbennig ac rwyf yn awyddus iawn i ddysgu mwy a chael profi’r hyn mae’n ei ddweud wrthyf sydd yn awyrgylch cwbl unigryw.”

Ychwanegodd: “Rwyf yn credu fod gan Gymru a Malta lawer iawn yn gyffredin. Mae angerdd mawr iawn am wleidyddiaeth, chwaraeon, ac yn fwy na hynny, am gerddoriaeth.

Mae Joseph, sydd nawr yn 37 mlwydd oed, yn dal i fyw yn Malta, a’r llynedd cafodd ei ethol i Fwrdd Cyfarwyddwr Academi Ewropeaidd Theatr Gerddorol.

Cafodd ei ganfod, yn 16 mlwydd oed ifanc, gan y tenor Brian Cefai ac aeth ymlaen i ennill nifer o wobrau gan gynnwys cystadleuaeth Caruso ym Milan a chystadleuaeth Opera Rhyngwladol Placido Domingo yn 1999.

Ac yntau’n artist recordio sydd wedi cael ei enwebu am Grammy, cafodd ei enwi yn Artist y Flwyddyn gan Gramaphone yn 2012 ac yn ddiweddar rhyddhaodd ei bumed albwm unigol, Amore.

Wedi cael ei ddewis i wasanaethau fel llysgennad diwylliannol cyntaf Malta mae wedi ymuno â banc Valetta ym Malta i greu’r Sefydliad BOV Joseph Calleja sydd yn helpu plant a theuluoedd mewn angen.

Cred Eilir Owen Griffiths, cyfarwyddwr cerddorol Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen fod y Cyngerdd Clasurol Mawreddog yn mynd i fod yn un o uchafbwyntiau’r ŵyl eleni.

Dywedodd: “Byddai cael Bryn Terfel neu Joseph Calleja i berfformio yma fel cyngherddau unigol yn rhywbeth arbennig ond mae cael y ddau yn rhannu llwyfan, yn perfformio gyda’i gilydd, yn anhygoel.

“Bydd hon yn noson o gerddoriaeth a chân a fyddai’n cael ei llwyfannu mewn unrhyw dŷ opera mewn unrhyw brif ddinas fawr yn y byd. Felly mae gallu mwynhau cyngerdd mawr gyda dau o sêr byd-enwog mewn tref fechan yng Ngogledd Cymru fel Llangollen yn anhygoel.

Ychwanegodd: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y cyngerdd hwn ac, er nad wyf yn gwybod y rhaglen eto, rwyf wir yn gobeithio y daw fy mreuddwyd yn wir ac y bydd y ddau yn cloi’r cyngerdd gyda Deuawd y Pysgotwyr Perlau. Rwy’n meddwl y byddwn yn fy seithfed nef pe bai hynny’n digwydd.”