Bydd y chwedlonol bwgi wwgi Jools Holland yn dod yn ôl i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i ddathlu dod yn is-lywydd yr ŵyl eiconig.
Yn gyn bianydd Squeeze, arweinydd band, awdur, cyflwynydd teledu a radio, mae wrth ei fodd cael cynnig y swydd er anrhydedd yn ‘y digwyddiad gwbl ddisglair’.
Bydd Jools a’i Gerddorfa Rhythm & Blues yn cau’r llen ar yr Eisteddfod 70 oed yr haf nesaf gyda pharti codi’r to ddydd Sul, 10 Gorffennaf.
Bydd y tocynnau’n ar werth ddydd Llun, 14 Medi.
Mae’r cyngerdd, a fydd hefyd yn cynnwys y cantorion gwadd Ruby Turner a Louise Marshall, yn cael ei noddi gan The Village Bakery, cefnogwyr hir dymor yr ŵyl.
Meddai Robin Jones, y rheolwr cyfarwyddwr: “Rydym wrth ein bodd yn noddi Eisteddfod Llangollen unwaith eto y flwyddyn nesaf, yn enwedig gan y bydd yr ŵyl yn 70 oed.
“Allwn ni ddim byw yn ein croen nes cael clywed Jools a’i fand yn codi’r to. Bydd yn noson wirioneddol wych.”
Mae’r cynlluniau ar gyfer y digwyddiadau arbennig 2016 bron â’u gorffen. Bydd y gantores glasurol Katherine Jenkins hefyd yn y cyngerdd agoriadol ddydd Mawrth 5 Gorffennaf.
Bydd y seren boblogaidd sy’n pontio arddulliau canu yn perfformio addasiad ar gyfer cyngerdd o opera Carmen gan Georges Bizet mewn noson sy’n cael ei noddi gan y sefydliad gofal, Pendine Park.
Aeth Jools, a gafodd ei eni yn Llundain, ymlaen o chwarae mewn tafarndai yn nociau’r East End yn ei araddegau i arwain ei Gerddorfa Rhythm & Blues a gwerthu miliynau o recordiau.
Mae’i sioe gerddorol BBC2 Two, ‘Later…..with Jools Holland’ ar fin dechrau ar ei 47fed gyfres ac wedi cynnwys artistiaid o bob cyfnod amser, gwlad a genre trwy’r blynyddoedd.
Cafodd yr OBE yn 2003 am ei wasanaethau i’r diwydiant cerddoriaeth Prydeinig.
Addunedodd Jools ddychwelyd i Langollen ar ôl ei ymddangosiad cyntaf dair blynedd yn ôl.
Meddai: “Roeddwn wrth fy modd ac yn ei theimlo’n fraint pan ofynnwyd i mi fod yn is-lywydd yr ŵyl nodedig hon.
“Cawsom amser bendigedig wrth berfformio ddiwethaf yn Llangollen, sy’n dref fach dlws iawn. Roeddwn wrth fy modd gyda’r awyrgylch, y blodau, y gynulleidfa werthfawrogol a chyfarfod â phobl gwych. Bydd yn fraint bod yno.
“Sefydlwyd yr ŵyl er mwyn hyrwyddo heddwch a chytgord ymysg cenhedloedd y byd ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd ac rwy’n meddwl fod hynny’n fendigedig.
“Mae safon y cerddorion a dawnswyr ifanc sy’n teithio o dros y byd i gyd i ymddangos yn Llangollen yn dystiolaeth i’r sefydliadau a’r gwirfoddolwyr sy’n gwneud yr holl waith caled i roi’r ŵyl at ei gilydd.”
“Rydym yn fand mawr ond rydym yn unigryw oherwydd pan fydd pobl yn gofyn faint o bobl sydd yn y band, fydda i ddim yn gwybod! Mae yna tua 22!. Mae gennych yr holl gantorion, yr holl unawdwyr yn y band, Gilson Lavis ar y drymiau, felly mae ychydig fel petae ynddi adran rhythm sigl a swae gyda chwyth pres ynghlwm, fel cerddorfa Duke Ellington.
“Yn wir, gen i mae’r swydd orau yn y byd, Yn rhannol oherwydd y bobl rwy’n chwarae gyda nhw, ond hefyd oherwydd bod gan y band fywyd ei hunan. Rwy’n gallu edrych allan o’r piano a gweld cymaint y maen nhw’n mwynhau’u hunain a pha mor wych y maen nhw’n chwarae. Mae fel trên o gyffro!”
Mae cyfarwyddwr cerdd yr ŵyl, Eilir Owen Griffiths, wrth ei fodd ei fod wedi cael Jools Holland a’i Gerddorfa Rhythm & Blues i ail ymddangos yn Llangollen, yn enwedig ar ôl denu Katherine Jenkins yno am ei thrydydd ymddangosiad.
Meddai: “Nid yn unig mae Jools Holland yn chwaraewr yr allweddellau a’r piano ac yn ganwr ardderchog, mae hefyd yn ddyn sioe dawnus.
“Doedd ei berfformiad ddwy flynedd yn ôl wrth gloi wythnos yr ŵyl yn ddim llai na syfrdanol ac mi ofynnodd cymaint o bobl, cefnogwyr rheolaidd yr Eisteddfod, i ni ei wahodd yn ôl. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu gwneud hynny.
“Bydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen 2016 yn ddathliad arbennig gan mai hon fydd y 70ain ŵyl.
“Mae’n bwysig ein bod yn sicrhau fod yr enwau mwyaf yma yn perfformio yn ein cyngherddau gyda’r nos. Mae safon y cystadlaethau yn ystod y dydd yn dal i wella ac rydym eisiau gwneud yn siŵr y bydd y cyngherddau gyda’r nos mor gofiadwy â phosibl.
“Mae gennym dal enwau mawr i’w cyhoeddi ond gyda Jools Holland a Katherine Jenkins allwn ni ddim bod wedi dechrau gyda dwy seren fwy.
“Rydym yn mynd i gael nosweithiau cyntaf ac olaf bythgofiadwy o gerddoriaeth fendigedig a fydd yn aros yn hir yn y cof. Mae’n mynd i fod yn gyffrous iawn ac yn bersonol, rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn, iawn.”
Bydd Jools Holland yn ymddangos yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ddydd Sul, 10 Gorffennaf am 7:45pm. Bydd Katherine Jenkins yn ymddangos ddydd Mawrth, 5 Gorffennaf am 7:45pm.