Côr o Galifornia yn sicrhau llwyddiant mewn gŵyl gerddorol ryngwladol enwog

Llwyddodd The Bob Cole Conservatory Chamber Choir i ennill Tlws Pavarotti yng nghystadleuaeth Côr y Byd yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Ymhlith y rhai a ddaeth o fewn trwch blewyn i’r brig roedd Côr Glanaethwy, a lwyddodd i gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Britain’s Got Talent.

Llwyddodd yr enillwyr i guro corau o Estonia, y Weriniaeth Tsiec, Ynysoedd y Philipinau, Lloegr, y Ffindir a chorau eraill o Galifornia, The Sunday Night Singers a’r Quire of Voyces.

Yn ôl y beirniaid, cafwyd perfformiad gwych gan y côr buddugol, o dan arweiniad cyfarwyddwr astudiaethau corawl, lleisiol ac opera, Jonathan Talberg.

Dywedodd Eilir Owen Griffiths, cyfarwyddwr cerddorol yr Eisteddfod mai’r Bob Cole Conservatory Chamber Choir oedd y perfformwyr “eithriadol” mewn cystadleuaeth galed am goron y côr rhyngwladol gorau.

Dywedodd: “Roeddent yn canu o’r galon gydag angerdd ac roeddent yn dechnegol wych yr un pryd. Roedd eu perfformiad yn bwerus iawn ac roeddent yn enillwyr haeddiannol.

“Fodd bynnag, roedd y safon yn uchel iawn, ac roedd y corau eraill, yn arbennig enillwyr y categori agored, Côr Glanaethwy, yn wych ac roedd eu rhaglen arloesol a phwerus wir yn gwneud i ni feddwl.

Ychwanegodd: “Fel cyfarwyddwr cerddorol yr ŵyl, roeddwn wrth fy modd gyda safon y gwaith corawl a welsom gan y cystadleuwyr drwy gydol yr wythnos o gystadlu caled.

“Roedd Côr Siambr Ysgol Gerddoriaeth Bob Cole yn enillwyr haeddiannol teitl Côr y Byd ac rwy’n gobeithio y bydd y côr yn dychwelyd i lwyfan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eto yn y dyfodol.”

Ni allai Jonathan Talberg guddio ei hapusrwydd wrth dderbyn tlws trawiadol Côr y Byd gan lywydd yr ŵyl, Terry Waite CBE.

Dywedodd: “Rwyf wedi breuddwydio am y foment hon ar hyd fy mywyd. Rwyf wedi treulio fy mywyd yn gweithio ar gerddoriaeth gorawl ac mae ennill teitl Côr y Byd yn hollol wych. Am deimlad! I mi, mae fel ennill y Super Bowl, ond efallai ychydig bach yn fwy cyffrous na hynny hyd yn oed.

“Rydym wedi mwynhau wythnos fendigedig. Mae’r ŵyl hon yn rhagorol, y bobl, y lleoliad, y blodau ac ethos y gwledydd, yn arbennig y bobl ifanc, yn dod at ei gilydd mewn ysbryd o heddwch ac agosatrwydd, mae’n rhywbeth aruthrol i’w brofi.”

Roedd aelodau’r côr, Pauline Tamale, 26, a Michaela Blanchard, 21, yn emosiynol ond yn hapus iawn ar ôl ennill teitl Côr y Byd.

Dywedodd Pauline, o Deyrnas Tonga: “Rwyf yn astudio perfformiad cerddorol ym Mhrifysgol Talaith California a dyma fy nhymor cyntaf, felly dim ond ers yn ddiweddar yr wyf wedi ymuno â’r côr.

“Rydym wedi cael profiad anhygoel yn Llangollen. Mae gweld pobl yn dod at ei gilydd o bob rhan o’r byd i rannu eu cerddoriaeth yn rhywbeth na fyddaf fyth yn ei anghofio. Rydym wedi gwneud cymaint o ffrindiau newydd.

The Bob Cole Conservatory Chamber Choir

The Bob Cole Conservatory Chamber Choir

“Mae ennill y gystadleuaeth yn wych. Rydym yn gweithio mor galed ac mae ein cyfarwyddwr a’n harweinydd, Mr Talberg yn anhygoel. Diolch Cymru a diolch Llangollen!”

Ychwanegodd Michaela Blanchard, o Long Beach, California: “Rydym wedi cael profiad mor anhygoel. Ar y ffordd i Langollen roedd y ffordd yn mynd drwy ychydig o goed ac wrth ddod allan o’r coed fe welsom y dref hardd hon ac roedd pawb yn gegrwth. Roedd pob un ohonom wedi ein syfrdanu!

“Mae cael y cyfle i gwrdd â phobl o bob rhan o’r byd a gwneud ffrindiau newydd wedi bod yn wych ac mae ennill teitl Côr y Byd yn anhygoel.

“Mae’r lleoliad cyfan, yn arbennig y llwyfan a’r blodau wedi bod yn wych. Fodd bynnag, y bobl sy’n gwneud yr ŵyl hon yn un mor arbennig.”

CAPSIYNAU

Côr Siambr Ysgol Gerddoriaeth Bob Cole yn dathlu gyda’r tlws Côr y Byd.

Côr Siambr Ysgol Gerddoriaeth Bob Cole, gyda’r arweinydd Jonathan Talberg yn y canol gyda Michaela Blanchard ar y chwith a Pauline Tamale ar y dde.

Côr Siambr Ysgol Gerddoriaeth Bob Cole yn perfformio.

Rhai o aelodau benywaidd Côr Siambr Ysgol Gerddoriaeth Bob Cole yn dathlu.