Bydd dau ddigwyddiad ar yr un diwrnod y mis nesaf yn tynnu sylw at y traddodiad cyfoethog o wirfoddoli yn Llangollen, y dref ymwelwyr eiconig.
Tra bydd clybiau Rotari ac Olwyn Fewnol y dref yn cynnal eu ffair haf flynyddol mewn lleoliad prydferth sef Plas Newydd, ar brynhawn Sadwrn 11 Mehefin, bydd digwyddiad hefyd yn Neuadd y Dref i ddathlu mai eleni fydd y 70fed tro i’r Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol gael ei llwyfannu yn Llangollen.
Dywedodd Mike Law o’r Rotari bod y ffair haf a’r Eisteddfod yn debyg i’w gilydd yn yr ystyr bod y ddwy’n dibynnu’n drwm ar wirfoddolwyr i fedru parhau’n llwyddiant.
Eglurodd Mike: “Bydd llawer o bobl o’r ardal, gan cynnwys fi fy hun, yn helpu efo’r ddau ddigwyddiad blynyddol mawr yma. Mae hynny’n dangos yr ysbryd gwych o wirfoddoli sy’n bodoli yn y dref, felly mae’n anhygoel cael y ddau ddigwyddiad ar yr un diwrnod.”
Mae’r Ffair Haf yn gallu honni bod bron yr un oed â’r Eisteddfod – gan iddi fod yn digwydd yn rheolaidd yn y dref am o leiaf y 50 mlynedd diwethaf.
Unwaith eto mae Clwb y Rotari wedi ymuno efo merched yr Olwyn Fewnol i gynnal y digwyddiad ym Mhlas Newydd, trwy drefniant gyda pherchennog yr ystad hanesyddol honno, sef Cyngor Sir Ddinbych. Mae Cadeirydd y Cyngor, Cynghorydd Ann Davies, ar ben y rhestr o westeion arbennig, ynghyd â Maer Llangollen, Cynghorydd Mike Adams.
Eleni, bydd Clwb Rotari Dyffryn Dyfrdwy, sydd newydd gael ei ffurfio, yn helpu gyda’r gwaith trefnu a chodi arian.
Mae’r Ffair Haf yn cael ei rhedeg fel rhan o’r rhaglen o wasanaeth i’r gymuned gan y tri chlwb, fel digwyddiad i’r dref, yn ogystal â bod yn un o’u digwyddiadau pwysicaf i godi arian. Bydd y gwaith paratoi’n cymryd rhan helaeth o’r flwyddyn.
Eleni bydd y Ffair Haf yn dechrau am 2yp, gan gynnig holl atyniadau ffair haf draddodiadol tref, ac efo pwyslais ar gyfraniad lleol a chymryd rhan mewn gweithgareddau.
Bydd Band Arian Llangollen yn darparu cerddoriaeth trwy’r prynhawn, a bydd hefyd Pwnsh a Jwdi a chonsuriwr i ddiddanu pobl, yn ogystal ag ymddangosiad gan westai arbennig, masgot Clwb Pêl-droed Wrecsam.
Bydd cystadleuaeth gelf i blant, ar gyfer ysgolion lleol, a llu o stondinau a gemau i geisio ennill gwobrau.
Bydd yr atyniadau eraill yn cynnwys sleid bownsio, raffl fawr efo gwobr gyntaf o £100, stondinau gan wahanol gymdeithasau a chyrff, stondinau melysion a hufen iâ, stondin flodau, a phaned o de efo lluniaeth a theisennau wedi’u gwneud gartref.
Nid fydd angen talu i ddod i mewn i dir Plas Newydd, ond does dim lle i barcio ar y cae, heblaw am ar gyfer rhai ceir wedi’u trefnu.
Dywedodd Mike Law o’r tîm Rotari sydd wedi helpu i drefnu’r ffair haf: “Os cawn ni brynhawn o dywydd braf rydan ni’n gobeithio cael hyd at 700 o bobl i ddod yno yn ystod y prynhawn.
“Bydd hefyd ddigon o amser i bobl alw yn Neuadd y Dref ar gyfer y digwyddiad arbennig sy’n cael ei gynnal gan dîm gwirfoddoli’r Eisteddfod. Mae fy ngwraig Enid a minnau wedi bod yn aelodau o hwnnw ers llawer o flynyddoedd.
“Mi wnaethon ni ddechrau rhoi llety i gystadleuwyr tramor pan oedden ni’n byw yn Rhiwabon, cyn symud i Langollen.
“Dros y blynyddoedd, rydw i wedi bod yn helpu tu ôl i’r llenni ac Enid wedi bod yn aelod o’r pwyllgor cerdd a llwyfannu, ac yn gadeirydd arno hyd at ddwy flynedd yn ôl.”
Enw’r digwyddiad yn Neuadd y Dref ar 11 Mehefin yw Llangollen 1947 ac mae’n digwydd ar yr un diwrnod y cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf un, 70 mlynedd yn ôl – oedd tua mis yn gynharach yr adeg honno nag y mae hi’r blynyddoedd hyn.
Yn ystod y blynyddoedd cynnar, byddai’r Eisteddfod yn digwydd ar y cae chwarae ger Ysgol Dinas Brân ond roedd Seremoni’r Agoriad Swyddogol a’r cyngerdd yn Neuadd y Dref, ar 11 Mehefin 1947.
Dywedodd Rheolwr Gweithrediadau newydd yr Eisteddfod, Sian Eagar: “Mae hwn yn ddigwyddiad galw i mewn, o 10.30yb hyd tua 4yp, lle gall pobl ddod i mewn, cael coffi a chyfarfod tîm yr Eisteddfod, yn cynnwys llawer o’r gwirfoddolwyr, pobl y byddai’n amhosibl rhedeg yr Eisteddfod hebddynt.
“Byddwn yn dangos ffilmiau prin o’n harchifau, yn cynnwys darnau o flynyddoedd cynharaf yr Eisteddfod. Hefyd mae ein gwirfoddolwyr ni wedi dod â rhai eitemau hynod ddiddorol i mewn, a rhaglenni o’r ŵyl dros y blynyddoedd o’r gwahanol wledydd sydd wedi bod yn cymryd rhan.
“Bydd hefyd fanylion ar gael am y rhaglen ar gyfer Eisteddfod eleni, a chyfle i ennill tocynnau cyngerdd min nos yn gwbl ddi-dâl. Byddwn hefyd yn darparu gwybodaeth am wirfoddoli efo ni.
“Mae’n werth cofio bod un arall o ddigwyddiadau pwysig blynyddol Llangollen, sef y Ffair Haf, yn digwydd yn agos at Neuadd y Dref ac ar yr un diwrnod. Bydd llawer o’r bobl sy’n gwirfoddoli i ni hefyd yn gweithio i’r ŵyl honno, ac rydan ni’n gobeithio bydd gymaint ag y bo modd o bobl yn dod draw i fwynhau’r ddau ddigwyddiad gwych yma.”