Côr o Henffordd yn creu argraff mewn gŵyl gerddorol

Fe gafwyd perfformiad rhagorol gan Gôr Iau Eglwys Gadeiriol Henffordd wrth gystadlu mewn gŵyl gerddoriaeth ryngwladol nodedig.

Dan arweiniad yr arweinydd Rachael Toolan, cymerodd y côr ran yng nghystadleuaeth y Côr Plant Iau yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Ac er na wnaethon nhw i gipio’r brif wobr mi wnaeth y plant yn ardderchog mewn cystadleuaeth anodd iawn gan gystadlu yn erbyn corau o bob cwr o Gymru a Lloegr.

Dywedodd Eilir Owen Griffiths, cyfarwyddwr cerdd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen: “Mae safon y cystadleuwyr yn Llangollen bob amser yn uchel ond eleni roedd yn rhyfeddol gyda rhai perfformiadau cwbl syfrdanol.

“Roedd y beirniaid, fel y gynulleidfa fawr, wedi mwynhau perfformiad Côr Iau Eglwys Gadeiriol Henffordd yn arw ac rwyf wir yn gobeithio y gallwn groesawu’r côr yn ôl i Ogledd Cymru yn 2017.”