Bydd côr plant a swynodd gynulleidfa fyd-eang o bron i biliwn o bobl pan wnaethant berfformio cân enwog ‘Imagine’ gan John Lennon, yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012, yn ymfddangos yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yr haf yma.
Ymunodd Côr Ieuenctid Ffilharmonig Lerpwl gyda chantorion ifanc eraill o’r ddinas i berfformio fersiwn hudol o anthem heddwch 1971 y cyn aelod o’r Beatles, ‘Imagine’ yn y seremoni i gloi’r Gemau.
A chafodd eu hymddangosiad yn y digwyddiad ysblennydd ei ddarlledu ar draws y byd a chael ei weld gan dros 900 miliwn o bobl.
Bydd y côr unwaith eto yn perfformio ar lwyfan y byd pan fyddant yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Côr Plant Hŷn yn 70ain Eisteddfod Llangollen ar ddydd Iau 7 Gorffennaf.
Yn ôl swyddog Ensembles Ieuenctid Ffilharmonig Lerpwl, Vicky Ciaputa, bydd y grŵp fydd yn ymddangos yn yr ŵyl ddiwylliannol eiconig gyda’r mwyaf erioed i gamu i’r llwyfan mewn blynyddoedd diweddar ac mae pob un o’r 48 o gantorion ifanc yn edrych ymlaen at eu hymddangosiad.
Meddai: “Mae’r côr wedi bod yn dod draw i Langollen i gystadlu yn yr Eisteddfod ers nifer o flynyddoedd ac mae bob amser yn wefr go iawn bod yno ac mae’r achlysur yn un arbennig iawn iddyn nhw.”
Mae Côr Ieuenctid Ffilharmonig Lerpwl ar gyfer pobl ifanc 13-19 oed yn Lerpwl a’r ardal gyfagos, ac mae’n perfformio drwy gydol y flwyddyn yn Neuadd Ffilharmonig Lerpwl ac ar draws Gogledd-orllewin Lloegr.
Mae’r côr yn canu’n rheolaidd gyda Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl a’r Côr Ffilharmonig mewn cyngherddau proffil uchel a digwyddiadau arbennig.
Mae eu repertoire yn cwmpasu amrywiaeth eang o arddulliau cerddorol, gan gynnwys clasurol, jazz, gwerin, a cherddoriaeth y byd, gyda chomisiynau newydd yn cael eu cyfansoddi’n arbennig ar eu cyfer yn rheolaidd.
Bedair blynedd yn ôl cafwyd munudau bythgofiadwy adeg eu hymddangosiad yng Ngemau Olympaidd Llundain, pryd gwisgodd y bobl ifanc, ynghyd ag aelodau o Gôr Canu Lerpwl, grysau-T gwyn Imagine trawiadol.
Cafwyd cymeradwyaeth fyddarol yn y stadiwm enfawr pan ddangoswyd y ffilm wreiddiol enwog o John Lennon yn canu Imagine’ ar Gorffennaf 22, 1971, a ailgynhyrchwyd gan ei wraig Yoko Ono, ar sgrin enfawr.
Wrth i’r perfformiad orffen ffurfiodd dawnswyr yn cario 101 darnau o gerflun wyneb Lennon yng nghanol baner Jac yr Undeb.
Daeth ymddangosiad proffil uchel arall i’r Côr Ieuenctid Ffilharmonig yn 2013 adeg perfformiad yn y BBC Proms yn Neuadd Royal Albert ar y cyd â Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl yn The Big Proms Bear Hunt gan Michael Rosen.
Yn 2014, ymddangosodd y côr gyda’r Ffilharmonig eto yng nghyngerdd goffa Hillsborough yn Eglwys Gadeiriol Anglicanaidd Lerpwl, gan berfformio ‘Offeren Fechan’ James MacMillan, hefyd gyda Cherddorfa a Chôr Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod, Eilir Owen Griffiths, sydd ei hun yn arweinydd corawl a chyfansoddwr o fri: “Mae Côr Ieuenctid Ffilharmonig Lerpwl yn un o’r corau gorau yn eu maes ac mae ganddynt gysylltiad hir â Llangollen.
“Rydym bob tro’n falch o’u croesawu ac yn enwedig gan fod yna gyswllt mor gryf rhwng Gogledd Cymru a dinas Lerpwl lle mae yna bresenoldeb Cymreig cryf o hyd.”
Ychwanegodd Viki Ciaputa: “Roedd cael ein dewis i ganu ar ddiwedd Gemau Olympaidd Llundain 2012 yn uchafbwynt arbennig gan ei fod yn fraint go iawn i’r côr gynrychioli dinas Lerpwl a Gogledd-orllewin Lloegr mewn digwyddiad mor anhygoel.
“Mae Lerpwl wedi cael ei dewis fel Dinas Cerdd Unesco a heb os bydd llawer o ddigwyddiadau yn cael eu trefnu i ddathlu hynny, ac rydym yn gobeithio cymryd rhan mewn amryw o’r cyngherddau yma.
“Mae’r côr hefyd wedi perfformio ddwywaith yn ddiweddar gyda Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, mewn perfformiadau o Carmina Burana ym mis Chwefror a Dioddefaint Sant Mathew ym mis Mawrth. (Mawrth 23)
“Mi wnaethon nhw hefyd gynnal eu Dathliad Corawl blynyddol gyda Chôr Hyfforddi Ffilharmonig Lerpwl a Melody Makers yn Neuadd Ffilharmonig Lerpwl, gyda’r artist gwerin nodedig, Maz O’Connor. (Mawrth 20)
“Mae’r ymddangosiadau wedi helpu i baratoi’r côr ar gyfer Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, lle maent bellach yn cael eu cydnabod fel un o’r prif gorau ac yn wir yn 2014 enillodd ein Harweinydd Artistig, Simon Emery, y wobr am yr Arweinydd Mwyaf Ysbrydoledig.
“Gan fod aelodau o’r côr yn dod o amryw o ysgolion gwahanol o sawl ardal, gan gynnwys nid yn unig yn Lerpwl, ond hefyd o leoedd fel Swydd Gaer, Manceinion a hyd yn oed Gogledd Cymru, nid ydynt yn cyfarfod mor aml â hynny.
“Ond mae Llangollen yn rhoi cyfle gwych i’r bobl ifanc yma sydd ag angerdd am gerddoriaeth i ddod at ei gilydd, archwilio syniadau newydd a chyfarfod â phobl o’r un anian mewn awyrgylch gyfeillgar tu hwnt.
“Mae pawb yn edrych ymlaen at ymweld â Llangollen unwaith eto a byddwn yn dod draw â 48 o gantorion, sef un o’n corau mwyaf erioed.”
Mae tocynnau ar gyfer cyngherddau’r Eisteddfod eleni, fydd yn cychwyn ar ddydd Mawrth, 5 Gorffennaf, eisoes yn gwerthu’n dda, yn enwedig y tocynnau ar gyfer y noson agoriadol pryd bydd y seren ddawnus Katherine Jenkins yn cychwyn ei rhaglen trwy ganu Carmen gan Bizet.
Dydd Mercher fydd Diwrnod Rhyngwladol y Plant a bydd yn cynnwys cystadlaethau corawl a dawns a hefyd cystadleuaeth newydd yr unawd dan 16 oed a bydd y cyngerdd gyda’r nos yn rhoi llwyfan i Leisiau Theatr Gerdd a seren y West End Kerry Ellis.
Bydd y digymar Bryn Terfel yn serennu yng Nghyngerdd Gala y 70ain Eisteddfod ar y nos Iau. Gyda’r tenor o Malta Joseph Calleja tra bydd gweithgareddau dydd Iau yn cynnwys coroni Côr Plant y Byd.
Bydd dydd Gwener yn dathlu Rhythmau’r Byd ac yn wledd o gerddoriaeth a dawns gan y goreuon o gystadleuwyr rhyngwladol yr Eisteddfod gan gyrraedd uchafbwynt gyda chystadleuaeth Pencampwyr Dawns y Byd gyda’r hwyr.
Bydd y cyngerdd yn agor gyda Swae Carnifal y Caribî, yn cael ei ddilyn gan y neges Heddwch Ryngwladol yn cael ei thraddodi gan Theatr yr Ifanc, Rhosllannerchrugog.
Mewn newid i’r amserlen bydd dydd Gwener hefyd yn gweld Gorymdaith y Cenhedloedd, dan arweiniad Llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite a fydd yn symud o’i ddydd Mawrth arferol oherwydd bod disgwyl torfeydd mwy a rhagor o gystadleuwyr i ddod i’r Eisteddfod.
Neilltuir dydd Sadwrn i’r prif gorau a bydd yn cloi gyda chystadleuaeth Côr y Byd am Dlws Pavarotti, cyn i’r Eisteddfod ymlacio’n llwyr yn y Llanfest ar y dydd Sul cyn y cyngerdd terfynol cofiadwy.