Dewis Joseph, canwr ifanc ysbrydoledig, i berfformio gyda Syr Bryn Terfel

Mae canwr ifanc “ysbrydoledig”, a oresgynnodd gyflwr prin ar yr aren, wedi llwyddo i gael y rhan ddelfrydol o gael ei ddewis i berfformio gyda’r seren opera Syr Bryn Terfel.

Bydd Joseph Elwy Jones, sy’n 11 oed, yn perfformio ar lwyfan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen fel y bugail mewn cynhyrchiad sy’n llawn enwogion cerddorol o glasur opera Puccini, Tosca.

Caiff y gyngerdd, ar ddydd Mawrth 4 Gorffennaf, ei noddi gan sefydliad gofal Parc Pendine sydd wrth ei fodd gyda’r celfyddydau. Mae’r gyngerdd hefyd yn cynnwys dau seren opera byd-enwog, y soprano Kristine Opolais a’r tenor Kristian Benedikt.

Dyma fydd un o uchafbwyntiau’r wythnos pan fydd yr ŵyl eiconig yn dathlu ei phen-blwydd yn 70 oed.

Enillodd Joseff, sydd o Licswm yn Sir y Fflint, y rhan ar ôl clyweliad heriol yn erbyn llu o gantorion Cymreig ifanc – diolch i’r gwersi ychwanegol oddi wrth bennaeth ei ysgol, Ysgol Gwenffrwd yn Nhreffynnon.

Cafodd ddiagnosis o Syndrom Neffrotig yn 2013 ond fe cafodd ei iachau ar ôl derbyn triniaeth, a oedd yn cynnwys steroid, ac nid yw’r salwch wedi dod yn ôl ers hynny.

Mae Joseph, sy’n chwarae pêl-droed a gitâr, bellach wedi gwella’n llwyr ac yn barod amdani – ac mae’n edrych ymlaen yn fawr at gyfarfod a chanu gyda’i arwr, Syr Bryn Terfel.

Pictured is Joseph Elwy Jones, 11, who has won the coveted role of the Shepherd Boy in Tosca at the Llangollen Eisteddfod.

Dywedodd Mario Kreft MBE, perchennog Parc Pendine: “Mae Joseph, nid yn unig yn ganwr ifanc hynod o dalentog, ond hefyd yn ysbrydoliaeth gan ei fod wedi goresgyn y problemau iechyd yn benderfynol ac yn ddewr.

“Fel sefydliad gofal, mae stori Joseph yn gyfarwydd iawn i ni ac mae’n wych ei fod yn llawn bywyd unwaith eto – ac wedi ei fendithio â llais hynod o arbennig.

“Bydd cael y cyfle i rannu llwyfan gyda’r ardderchog Syr Bryn Terfel a gweddill y cast byd enwog yn brofiad bythgofiadwy i Joseph ac yn achlysur cofiadwy iawn i’r gynulleidfa.”

Roedd Joseph wrth ei fodd pan glywodd ei fod wedi ei ddewis i chwarae rhan y bugail.

Dywedodd: “Ar ôl y clyweliad roedd rhaid i mi aros tua wythnos, oedd yn teimlo’n amser hir, a’r hiraf yr aeth yr amser y mwyaf roeddwn i’n meddwl nad oeddwn i wedi cael y rhan. Wedyn, roeddwn i yn yr ysgol a daeth Miss Owen, y pennaeth, i mewn i’r dosbarth a dweud y newyddion da wrtha’i. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i ddweud!

“Cefais sioc ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gyfarfod â Syr Bryn Terfel. Byddaf i’n nerfus, ond byddaf yn iawn pan fydd y gerddoriaeth yn dechrau. Rwy’n mynd â llwyth o bapur gyda mi oherwydd mae fy ffrindiau i gyd wedi gofyn i mi gael llofnod Syr Bryn.

Ychwanegodd: “Rwy’n caru cerddoriaeth, ond rwyf hefyd yn hoffi pethau eraill fel pysgota a phêl-droed. Hoffwn fod yn gerddor proffesiynol ar ôl gadael yr ysgol, ond hoffwn hefyd weithio yn y byd meddygol.”

Yn ôl ei fam, Abigail, sy’n athrawes yn Ysgol Llywelyn yn y Rhyl, roedd y teulu i gyd yn hynod o falch.

Mario and Gill Kreft with Joseph Elwy Jones, 11, who has won the coveted role of the Shepherd Boy in Tosca at the Llangollen Eisteddfod.

Dywedodd: “Mae e’n fachgen ifanc nodweddiadol, mae’n mwynhau chwarae pêl-droed i Dreffynnon ac mae ganddo bum gitâr. Mae’n falch o’i wreiddiau Cymreig ac mae wrth ei fodd â bandiau fel y Manic Street Preachers, a fydd hefyd yn perfformio yn Llangollen eleni. Mae hefyd yn aelod o grŵp lleol y Sgowtiaid ac mae wrth ei fodd yn yr awyr agored.”

“Mae ei chwaer, Sophia sy’n saith mlwydd oed, yn dysgu chwarae’r allweddellau ac mae gan ei dad, David, sy’n dysgu Saesneg yn Ysgol Uwchradd y Fflint, ddau git drymiau. Rydyn ni’n deulu eithaf cerddorol!

“Ond nid yw erioed wir wedi cael gwersi canu proffesiynol. Mae ei bennaeth yn Ysgol Gwenffrwd, Iola Owen, wedi ei helpu ef a llawer o blant eraill i baratoi ar gyfer cystadlaethau yn Eisteddfod yr Urdd.

“Mae hi’n anhygoel a phan gawson ni wybod ei fod wedi cael clyweliad gofynnais iddi a allai hi ei helpu i ddysgu’r darn. Gwyliodd berfformiadau ar YouTube i’w helpu, ond nid yw canu yn Eidaleg yn hawdd wrth gwrs.

“Treuliodd hi lawer o amser yn ei helpu, hyd yn oed am awr ar ddiwrnod hyfforddiant i athrawon.

“Pan ddywedwyd wrthyf fod Joseph wedi cael y rhan roeddwn i’n meddwl ei fod ond yn deg mai hi oedd yr un a fyddai’n dweud y newyddion wrtho. Anfonodd hi gerdyn hyfryd ato y diwrnod canlynol yn ei longyfarch.

“Mae’n eithaf addas mewn ffordd iddo gael ei ddewis i chwarae’r bugail yn Tosca oherwydd roedd ei hen daid, Victor Thomas, a oedd yn bennaeth ar bractis milfeddygol yng Nghaerwys, yn cadw defaid ar hyd ei oes.

“Rydyn ni fel teulu yn edrych ymlaen yn eiddgar i wylio Tosca yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, mae’n mynd i fod yn foment hudol a balch iawn i dad Joseph, ei chwaer Sophia ac i mi.”

Mae Ynyr Lewys Rogers, sy’n 12 oed o Ruthun, ac yn ddisgybl yn Ysgol Brynhyfryd yn y dref, wedi ei ddewis i fod yn ddirprwy i Joseph.

Mae Eisteddfod Llangollen wedi bod yn fan cychwyn i yrfaoedd nifer o gantorion gan gynnwys Syr Bryn Terfel ei hun pan oedd yn fas bariton ifanc, a’r enwog Luciano Pavarotti a wnaeth gystadlu yn yr ŵyl am y tro cyntaf yn 1955 gyda chôr ei dad o Modena yn yr Eidal.

Dywedodd Eilir Owen Griffiths, cyfarwyddwr cerdd yr ŵyl: “Mae cynyddu cyfleoedd i bobl ifanc ymwneud â cherddoriaeth yn achos sy’n agos iawn at fy nghalon, ac at galon y noddwyr, Parc Pendine – sydd hefyd yn hael iawn wedi treblu cronfa gwobr Llais y Dyfodol eleni.

“Mae’n hynod o gyffrous darganfod talent canu mor addawol â Joseph. Mae diniweidrwydd a phurdeb ei lais yn berffaith ar gyfer rhan angylaidd y ‘bugail.’ Mae’r cymeriad yn dod â golau i dywyllwch y darn ac mae llais Joseph yn ei wneud yn ymgeisydd perffaith i’r rhan.

“Roeddem wedi ein plesio yn fawr â safon y clyweliadau eleni ac roedd pawb a berfformiodd wedi paratoi yn dda ac yn broffesiynol. Roedd Joseph ymhlith y cantorion ifancaf a gafodd glyweliad, sy’n dangos mai rhif yn uni gyw oed. Mae ei angerdd am gerddoriaeth yn amlwg iawn ac mae ei berfformiad yn mynd i fod yn un cofiadwy dros ben.”

Am ragor o wybodaeth am Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ac i archebu tocynnau ewch i cliciwch yma.