I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Piano [dydd Iau 29 Mawrth] mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi cyhoeddi rhaglen ar gyfer perfformiad hir ddisgwyliedig ei Chyfarwyddwr Cerdd, Vicky Yannoula, â’r pianydd Peter Jablonski.
Gan ffurfio rhan o’r Casgliad Clasurol ar ddydd Mercher 4ydd Gorffennaf, fe fydd y pianyddion Vicky a Peter yn camu ar lwyfan y Pafiliwn Rhyngwladol i berfformio gweithiau enwog a theimladwy sydd wedi ei hysbrydoli gan bŵer cyfareddol y piano.
Disgwylir i’r perfformiad arbennig gychwyn gyda rhai o ddarnau fwyaf eiconig The Nutcracker Suite gan Tchaikovsky. Bydd y gynulleidfa yn mwynhau’r ‘Overture’, wedi ei drefnu gan Nicolas Economou, cyn cael eu harwain ar daith hudolus i ‘Land of Sweets’.
Fe fydden nhw wedyn yn clywed Danse de la Fée Dragée (Dawns y Dylwythen Deg Biws), Danse Russe Trépak (dawnswyr Rwsiaidd yn dathlu fferins), Danse Arab (dawnswyr Arabaidd yn dathlu coffi), Danse Chinoise (dawnswyr Tseineiadd yn dathlu te), a Danse des Mirlitons (dawnswyr Ffrengig yn dathlu marzipan), cyn cael eu diddanu gyda pherfformiad egniol o Valse des Fleurs (Walts y Blodau).
Yna, fe fydd Yannoula a Jablonski yn perfformio Fêtes o Nocturnes gan Debussy (wedi ei drefnu gan Ravel) a Paganini Variations gan Lutoslawski.
Yn dilyn y dathliad arbennig hwn o’r piano, bydd newid naws a bydd y sylw yn disgyn ar gantorion sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Cystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine, sy’n anelu at hybu gyrfaoedd perfformwyr ifanc. Fe fydd y cantorion talentog yn diddanu’r gynulleidfa gyda pherfformiadau lleisiol penigamp, wrth iddyn nhw gystadlu am y teitl mawreddog a chyfran o’r wobr ariannol o £10,000, sy’n cael ei gefnogi gan Barc Pendine a Ymddiriedolaeth Bryn Terfel am yr ail flwyddyn yn olynol.
Dywedodd Vicky Yannoula, Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen: “Mae cael dathlu fy Eisteddfod Ryngwladol gyntaf a chael perfformio yn y pafiliwn hefo’r pianydd hynod dalentog Peter Jablonski yn wefr ac yn fraint.
“Disgwylir i gyngerdd Y Casgliad Clasurol fod yn ddathliad hudolus o’r llais a’r piano, ac mae’n addas felly ein bod wedi dewis Diwrnod Rhyngwladol y Piano i ddatgelu ychydig o raglen y noson.
“Bob blwyddyn, caiff Diwrnod Rhyngwladol y Piano ei ddathlu ar yr 88fed diwrnod o’r flwyddyn – gan adlewyrchu nifer yr allweddellau du a gwyn ar yr offeryn. Mae’n ffordd berffaith o hybu prosiectau yn ymwneud â’r piano ac i ddathlu canrifoedd o chwarae a gwrando a’r yr offeryn angerddol hwn.
“Mae’r repertoire yn cynnwys ystod eang o ddarnau enwog sy’n cyd-fynd â dathliadau’r ŵyl a’i balchder o ddiwylliannau rhyngwladol. Rydym yn gobeithio bydd y gyngerdd yn sbarduno angerdd pobl am y piano gan wir ysbrydoli’r gynulleidfa”.
Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eleni’n rhedeg o ddydd Mawrth 3ydd Gorffennaf i ddydd Sul 8fed Gorffennaf. Yn ogystal â chyfres o gyngherddau nos sy’n cynnwys artistiaid fel Alfie Boe, Van Morrison, Kaiser Chiefs, The Hoosiers a Toploader, bydd perfformiadau byw gan gystadleuwyr, bandiau newydd, cerddorion a pherfformwyr stryd o bedwar ban byd. Bydd amryw o weithgareddau i ddiddanu plant, stondinau bwyd, a chrefftau lleol yno hefyd.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â’r ŵyl neu i archebu tocynnau, cliciwch yma neu cysylltwch a’r Swyddfa Docynnau ar 01978 862001. Am y wybodaeh ddiweddaraf, dilynwch ni ar Twitter @llangollen_Eist neu hoffwch ein tudalen Facebook, Llangollen International Musical Eisteddfod.