Jools Holland a Gipsy Kings i serennu yng nghyngherddau Eisteddfod Ryngwladol

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi cyhoeddi lein-yp mawreddog cyngherddau 2019 yr ŵyl.

Fe fydd Is Lywydd ac un o ffefrynnau’r yr ŵyl, Jools Holland, yn diddanu cynulleidfa’r Pafiliwn Brenhinol gyda’i Gerddorfa Rhythm a Blues ar ddydd Llun, Gorffennaf 1af. Y seren jazz, blues a swing fydd yn lansio cyngherddau 2019 gyda noson fythgofiadwy o gerddoriaeth byw, a noddir yn hael gan Kronospan.

Bydd gweddill cyngherddau’r ŵyl wythnos o hyd yn rhoi llwyfan i rai o gerddorion fwyaf adnabyddus y byd, gan gynnwys y tenor Ffrengig-Mecsicanaidd, Rolando Villazón; y grŵp salsa, pop a flamenco, Gipsy Kings; a’r band gwerin Celtaidd enwog, MABON.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd Interim yr ŵyl, Edward-Rhys Harry: “Mae’r misoedd cyntaf yn fy rôl fel Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi bod yn hynod gyffrous ac emosiynol ac mae wedi bod yn bleser llwyr llunio rhaglen cyngherddau nos yr Eisteddfod am y tro cyntaf. Rydym yn teimlo eu bod yn adlewyrchu arbenigedd gerddorol ac amrywioldeb y digwyddiad gwych yma.

“Rydym yn falch bod y lein-yp eleni yn ymestyn dros genedlaethau a genres, gan groesi ffiniau oed, diwylliant a chredoau. Mae rhywbeth i bawb, a bydd hyd yn oed mwy o artistiaid yn cael eu hychwanegu at y rhaglen yn fuan yn y Flwyddyn Newydd pan gyhoeddir artistiaid Llanfest 2019”.

Mae rhaglen y cyngherddau nos hefyd yn cynnwys:

Dydd Mawrth 2il Gorffennaf – Gala Clasurol gyda Rolando Villazón a’i westeion
Noddir gan Barc Pendine

Bydd y tenor rhyngwladol adnabyddus, Rolando Villazón, yn dod â’i lais cyfareddol i Langollen am y tro cyntaf. Yn ymuno a Villazón, sy’n enwog am berfformiadau unigryw gyda thai opera mwyaf blaenllaw’r byd, fydd y soprano Gymreig, Rhian Lois, am noson a fydd yn wledd o gerddoriaeth glasurol o’r safon uchaf.

Dydd Mercher 3ydd Gorffennaf – Seintiau a Chantorion: Cerddoriaeth Cymru

Mae gan Gymru enw da ledled y byd am ei cherddoriaeth gorawl, a bydd y noson hon yn arddangos Gwlad y Gân ar ei gorau gyda’r cantorion penigamp Shân Cothi a Rhodri Prys Jones, ynghyd â Cherddorfa Sinfonietta Prydain. Bydd y gynulleidfa yn cael cyfle i gael dau brofiad cerddorol nodedig: perfformiad cyntaf gwaith newydd sbon ar gyfer tenor, corws a cherddorfa gan Dr Edward-Rhys Harry, a mawredd cantata rhyfeddol ‘Teilo Sant’ gan William Mathias CBE. Disgwylir y bydd y noson yn ddathliad dramatig o gerddoriaeth draddodiadol o Gymru, gydag alawon godidog a chorysau operatig pwerus.

Dydd Iau, 4ydd GorffennafDathliad Rhyngwladol gyda MABON Jamie Smith
Noddir gan Gyngor Sir Ddinbych a Westminster Stone

Bydd perfformwyr rhyngwladol yn dod ynghyd mewn carnifal bywiog o ddiwylliannau i arddangos y gorau o bob cwr o’r byd, wrth iddynt wau ei ffordd drwy’r gynulleidfa gyda baneri enfawr – oll mewn arddangosfa o undod a chyfeillgarwch rhyngwladol.

Caiff y gwerthoedd sylfaenol ac unigryw sydd wrth galon yr Eisteddfod Ryngwladol o rannu cerddoriaeth, dawns, heddwch a chyfeillgarwch eu dathlu a’u cofio, gyda chyflwyniad y Neges Heddwch deimladwy a’r Wobr Heddwch Rotari flynyddol.

Bydd y gwestai arbennig – band gwerin llwyddiannus Jamie Smith, MABON – yn llenwi’r lle gyda’u sain unigryw fydd yn siŵr o wneud i chi symud eich traed wrth iddyn nhw gyflwyno dehongliadau o alawon Celtaidd – gan gyfuno treftadaeth gyda’u sain gyfoes.

Dydd Gwener 5ed Gorffennaf – Gipsy Kings gydag Andre Reyes
Noddir gan Linguassist

Yn wreiddiol o dde Ffrainc, fe fydd y grŵp yn arddangos ei arddull egnïol gyda rhythmau Lladinaidd byrlymus yn Llangollen am y tro cyntaf erioed.

Mae eu cerddoriaeth yn gynnes, bywiog a hynod boblogaidd, gyda chaneuon fel ‘Bamboleo’ a ‘Volare’ wedi cyrraedd brig y siartiau. A bydd y gynulleidfa yn mwynhau cyfuniad unigryw o synau rwmba, flamenco a salsa ynghyd a cherddoriaeth bop gyfoes – perffaith i unrhyw un sy’n hoff o ddawnsio.

Dydd Sadwrn 6ed Gorffennaf – Côr y Byd
Noddir gan Aldi

Mewn cyngerdd teledu byw, bydd cystadlaethau’r Eisteddfod yn cyrraedd uchafbwynt cyffrous wrth i’r goreuon o blith corau o bedwar ban byd gystadlu am wobr nodedig Côr y Byd 2019 a thlws Pavarotti. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y categorïau dawns yn mynd benben am deitl Pencampwyr Dawns y Byd 2019, wrth iddynt gystadlu am Wobr Ddawnsio Lucille Armstrong. Bydd y noson hefyd yn cynnwys gwestai arbennig iawn a fydd yn cael ei gyhoeddi’n fuan.

Llanfest 2019

Daw’r ŵyl i derfyn ddydd Sul, 7fed Gorffennaf gyda Llanfest 2019, gyda’r artistiaid cyffrous a’r artistiaid cefnogol yn cael eu cyhoeddi yn fuan.

Bydd tocynnau ar gael i Ddeiliaid Tocyn Gŵyl a Ffrindiau’r Eisteddfod o 9 o’r gloch fore heddiw [dydd Mercher 28ain Tachwedd]. Yna, bydd gweddill y tocynnau yn mynd ar werth i’r cyhoedd am 9 y bore, dydd Mercher 12fed Rhagfyr ar www.llangollen.net neu drwy’r Swyddfa Docynnau.

Fe fydd unrhyw un sy’n prynu aelodaeth i Ffrindiau’r Eisteddfod yn ystod y pythefnos o gyfnod blaenoriaeth archebu hefyd yn gymwys am docynnau cynnar. Gellir gwneud hyn trwy gysylltu â’r swyddfa docynnau ar 01978 862001.