Tomen o geisiadau yn cyrraedd Eisteddfod Ryngwladol cyn y dyddiad cau, yn sgil hwb ariannol gan Barc Pendine
Mae cystadleuaeth ryngwladol i ganfod cantorion ifanc gorau’r byd wedi derbyn llif o enwau ar ôl i roddion gan gymdeithas ofal arloesol a’r seren opera Bryn Terfel olygu bod y wobr wedi codi i £10,000.
Datgelodd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 70ain eleni, bod cynnydd mawr wedi bod yn nifer y bobl sydd wedi cofrestru yn sgil yr hwb ariannol gan Barc Pendine a Sefydliad Bryn Terfel.
Bydd y cantorion yn cystadlu am y brif wobr, sef Gwobr Pendine a siec o £6,000, gyda dau neu ddwy gystadleuydd arall yn derbyn £2,000 yr un.
Mae Parc Pendine, sy’n gefnogwyr hirdymor o’r Eisteddfod ac yn rhoi pwyslais mawr ar y celfyddydau, wedi addo £5,000 i’r gystadleuaeth gyda £3,000 yn dod gan sefydliad Syr Bryn Terfel a £2,000 gan yr Eisteddfod.
O ganlyniad, mae’r wobr yn dros chwe gwaith y £1,500 a gynigwyd yn y blynyddoedd a fu ac mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd hyn yn gwthio safon y gystadleuaeth yn uwch nag erioed.
Bwriad y gystadleuaeth yw arddangos a meithrin talentau ifanc gan roi hwb a chefnogaeth ariannol i’r enillwyr i barhau i ddatblygu eu gyrfaoedd.
Yn ogystal â’r gefnogaeth ariannol hael a Gwobr Pendine, fe fydd yr enillydd hefyd yn cael cyfle i berfformio yn un o gyngherddau’r Eisteddfod yn y dyfodol, gyda’u talent yn cael ei osod ochr yn ochr â pherfformwyr rhyngwladol eraill.
Mae rhai o enillwyr y gorffennol yn cynnwys Meinir Wyn Roberts, fydd yn ymddangos fel unawdydd gwadd yng nghyngerdd agoriadol yr Eisteddfod yn 70ain, Elsa Roux Chamoux ac Eirlys Myfanwy Davies, wnaeth berfformio gyda Syr Bryn Terfel a Joseph Calleja yn yr Eisteddfod Ryngwladol y llynedd.
Gall unrhyw un o dan 28 oed gofrestru i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Llais y Dyfodol, gan mai’r bwriad yw datblygu gyrfa unawdwyr ifanc. Fe fydd y cofrestru’n dod i ben ar 3ydd Mawrth eleni ac fe all y rhai sydd am roi tro arni gofrestru trwy wefan yr Eisteddfod <http://eisteddfodcompetitions.co.uk/>.
Dywedodd cyfarwyddwr cerddorol yr Eisteddfod, Eilir Owen Griffiths: “Mae’r hwb ariannol hael gan Barc Pendine a Sefydliad Bryn Terfel yn bendant wedi cael effaith fawr ar nifer y bobl sy’n cofrestru – mae’r enwau yn llifo i mewn a’r safon yn arbennig o dda.
“O’r enwau rydym wedi eu derbyn yn barod, mi allwn ni sicrhau y bydd y gynulleidfa yn cael gwledd ac y bydd hi’n gystadleuaeth agos iawn eleni.
“Mae hi dal yn bosib cofrestru ac rydym yn annog unrhyw unawdydd ifanc fyddai’n falch o’r cyfle i gystadlu i gyflwyno eu henwau erbyn dydd Gwener 3ydd Mawrth, fel nad ydyn nhw’n colli’r cyfle gwych yma.
Dywedodd perchennog Parc Pendine, Mario Kreft MBE: “Rydym wrth ein bodd yn cael noddi cystadleuaeth Llais y Dyfodol, yn arbennig gan fod cerddoriaeth a’r celfyddydau yn rhan holl bwysig o raglenni sy’n gwella safon bywyd ein preswylwyr yn ein cartrefi yn Wrecsam a Chaernarfon.
“Ein bwriad wrth gefnogi’r ŵyl a chynnig Gwobr Pendine yw helpu trawsnewid y gystadleuaeth yn un cwbl ryngwladol a denu’r cantorion gorau o bedwar ban byd.
“Mae’n gwbl addas hefyd bod Sefydliad Bryn Terfel yn noddi’r gystadleuaeth gan fod yr Eisteddfod wedi rhoi llwyfan gwerthfawr iddo cyn i’w yrfa flaguro, a’i fod o’n awyddus i gantorion talentog fedru gwneud yr un peth”.
Fe fydd y gystadleuaeth yn ymestyn ar draws dau ddiwrnod o’r ŵyl, sy’n cychwyn ar ddydd Llun 3ydd Gorffennaf.
Yn y rownd gyntaf ar 5ed Gorffennaf, gofynnir i’r cantorion gyflwyno hyd at 8 munud o gerddoriaeth mewn arddull Oratorio, Opera, Lieder neu Gân – i’w canu yn yr iaith wreiddiol.
Ar gyfer y rownd derfynol, bydd y cystadleuwyr dewisedig yn ymddangos ar brif lwyfan yr Eisteddfod yng nghyngerdd Dathliad Rhyngwladol ar nos Iau 6ed Gorffennaf. Bydd gofyn iddyn nhw gyflwyno deuddeg munud o gerddoriaeth.
Fe fydd ticedi ar gyfer y gyngerdd, fydd hefyd yn rhoi llwyfan i gystadleuwyr rhyngwladol eraill a’r gwestai arbennig Academi Principality Only Boys Aloud, ar gael o <https://international-eisteddfod.co.uk/> neu drwy ffonio 01978 862001.
Cafodd y cyhoeddiad am gyfraniad ariannol hael Parc Pendine ei wneud yn wreiddiol gan Ken Skates, ysgrifennydd cabinet Llywodraeth Cymru tros Economi a Seilwaith a’r Aelod Cynulliad tros Dde Clwyd.
Dywedodd yr AC, sy’n gyfrifol am dwristiaeth a diwylliant: “Mae’n fuddsoddiad gwych ac yn rhodd anhygoel o hael gan gyflogwr cyfrifol a da sy’n uchel iawn ei barch.
“Yng Nghymru, rwy’n credu bod angen i ni gael yr hyn rwy’n ei alw yn ‘agwedd Martini’ tuag at y celfyddydau a gwneud yn siŵr eu bod ar gael unrhyw bryd, unrhyw fan ac mewn unrhyw le.
“Mae Pendine yn helpu i gyflawni hyn mewn lleoliad gofal cymdeithasol, ac rwy’n dathlu eu llwyddiant.”