Cyfle unwaith mewn oes i fachgen ifanc ymuno a sêr operatig rhyngwladol mewn perfformiad unigryw o Tosca yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen
Mae amser yn brin i fechgyn talentog sydd â lleisiau soprano gyflwyno cais am y cyfle i rannu llwyfan hefo Syr Bryn Terfel a sêr operatig eraill yn Eisteddfod Llangollen.
Bydd y cyfle unwaith mewn oes hwn yn golygu bod bachgen ifanc yn ymuno â chast Tosca i chwarae rhan ‘Y Bugail Ifanc’, gan ganu ochr yn ochr â chantorion byd enwog gan gynnwys y soprano Kristine Opolais, Syr Bryn Terfel a’r tenor pwerus Kristian Benedikt.
Bydd y gyngerdd ar nos Fawrth 4ydd Gorffennaf yn cael ei noddi gan y cwmni Barc Pendine, sy’n rhoi pwyslais mawr ar y celfyddydau, ac fe fydd yn gymorth i ddathlu pen-blwydd yr Eisteddfod yn 70ain.
Gofynnir i’r rhai sydd â diddordeb perfformio rhan ‘Y Bugail’ gyflwyno eu henwau i’r Eisteddfod erbyn Ebrill 8fed ac fe fydd y clyweliadau yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn 29ain Ebrill yn y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol.
Bydd gofyn i ymgeiswyr ganu dau ddarn – ‘I give you sighs’ o Act 3 Tosca a darn o’u dewis hwy.
Yn ôl y trefnwyr, fe fydd Tosca yn uchafbwynt i wythnos wych fydd hefyd yn gweld y canwr jazz anghygoel Gregory Porter a’r band roc byrlymus Manic Street Preachers.
Ac ar ddydd Iau’r Eisteddfod, fe fydd Parc Pendine a Syr Bryn Terfel yn dod at ei gilydd unwaith eto fel noddwyr cystadleuaeth Llais y Dyfodol i ddarganfod cantorion ifanc gorau’r byd a’u gwobrwyo gyda Tharian Pendine a siec gwerth £6,000.
Ond cyn hynny, Tosca fydd yn diddanu’r gynulleidfa gyda stori garu ddramatig sydd wedi ei phlethu â chwant, gwleidyddiaeth a llofruddiaeth.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cerddorol yr Eisteddfod, Eilir Owen Griffiths: “Dyma wobr anhygoel ac un all, o bosib, newid bywyd yr enillydd am weddill ei oes.
“Nid yw cyfle i berfformio hefo artistiaid o’r safon yma yn dod i’r fei yn aml, ac fe ddylid ei gofleidio hefo dwy law!
“Alla i ddim disgwyl i weld pa dalent newydd fydd yn cael ei ddarganfod yn y clyweliadau ac rwy’n sicr y bydd y canwr dewisedig yn gymorth i ddod a’r opera hyfryd yma yn fyw.”
“Ar y noson, fe fyddwn yn cyflwyno ystod o dalent ryngwladol benigamp mewn perfformiad unigryw o Tosca, fydd yn gweld Opolais a Terfel yn perfformio hefo’i gilydd am y tro cyntaf erioed.
“Bydd y ddeuawd arbennig hon yn cyfarfod eto ar ddiwedd y flwyddyn yn y Met yn Efrog Newydd ar gyfer cyflwyniad arall o Tosca, sy’n golygu mai cynulleidfa Llangollen fydd y cyntaf i glywed y cyfuniad profiadol cerddorol hwn yn canu hefo’i gilydd.
“Mae’r enwogion sy’n rhan o’r noson yn atgyfnerthu enw da’r Eisteddfod am gyflwyno perfformiadau o’r safon uchaf, fe fydd Tosca yn berfformiad heb ei ail”.
Yn ôl Mario Kreft MBE, perchennog Parc Pendine: “Mae cerddoriaeth a’r celfyddydau yn rhan ganolog o’n gwaith, felly mae ethos Eisteddfod Llangollen yn agos iawn at fy nghalon.
“Fe fydd y perfformiad hwn o Tosca yn wirioneddol unigryw gan, nid yn unig, gyflwyno talent byd enwog ond hefyd arddangos cenhedlaeth newydd o dalent operatig.
“Rwy’n hynod o gyffrous i weld beth a ddaw o’r clyweliadau ac rwy’n siŵr y bydd y perfformiad ar 4ydd Gorffennaf yn noson i’w chofio.”
Am fwy o wybodaeth neu am fanylion am sut i gofrestru ar gyfer y clyweliadau am rôl Y Bugail Ifanc, cliciwch yma