Datgelu rhaglen lawn Llanfest

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi datgelu enwau’r holl artistiaid cyffrous fydd yn diddanu ar lwyfannau awyr agored Llanfest eleni (dydd Sul 8fed Gorffennaf, 2yh).

Y grŵp indie-pop Saesneg enwog, Kaiser Chiefs sydd ar frig y rhestr gyda’r band pop-roc, Hoosiers a’r grŵp eiconig o’r 90au, Toploader yn eu cefnogi.

Dros y blynyddoedd, mae Llanfest wedi ennill ei le fel un o’r gwyliau cerdd gorau i glywed bandiau newydd ar y llwyfannau allanol, cyn i’r prif fandiau chwarae yn ddiweddarach. Eleni, fe fydd ymwelwyr yn cael mwynhau tri llwyfan allanol – bob un yn arddangos talentau o’r byd roc, pop ac indie, gan gynnwys:

The Cavern Club, Lerpwl – fe fydd clwb cerddoriaeth enwocaf y byd yn cynnal ei lwyfan pop-yp cyntaf yn Llanfest, a bydd y cerddorion preswyl safonol yn perfformio caneuon gan yr artistiaid byd-enwog sydd wedi diddanu yn y Cavern Club dros y blynyddoedd.

Jack Found – fel un sydd wedi datblygu steil unigryw drwy gyfuno egni bywiog a llais rhyfeddol, mae Jack ar fin cyhoeddi ei albwm gyntaf. Mae ei sengl “Sundown” o 2017 yn arddangos y sain nodweddiadol sydd ganddo, ac wedi cael ei chwarae droeon ar y radio ac ar Good Morning Television.

Billy Bibby and The Wry Smiles – dyma bedwarawd roc cyffrous sy’n hanu o ogledd Cymru a Chaer. Ers chwarae eu gig lawn gyntaf ym mis Tachwedd 2015, mae’r band wedi chwarae mewn dros 100 o gigiau a gwyliau cerdd mewn mwy na 50 o ddinasoedd ledled Prydain – gan hefyd gyhoeddi EP a phedwar sengl.

Camens – yn ddiweddar, mae’r band indie/roc yma o Swydd Stafford wedi dal sylw BBC6 Music ac fe fydden nhw’n perfformio caneuon gan gynnwys “Boys will Stray”.

Destination – ffurfiwyd Destination yn 2014 ac ers hynny mae’r band roc o Wrecsam sy’n dynwared artistiaid o’r 70/80au wedi bod yn chwarae ffefrynnau gan berfformwyr chwedlonol fel Van Halen, Iron Maiden, Bonjovi, Queen a Gary Moore.

Lucy Mayhew – a hithau ynghanol recordio ei EP cyntaf, mae Lucy o West-Kirby yn cynnig sŵn roc gwerinol fresh i’w gwrandawyr, a’n cael ei hysbrydoli gan artistiaid fel Eva Cassidy a Laura Marling.

Ben Roberts – dechreuodd y canwr gwerin/roc hwn o Lundain ysgrifennu cerddoriaeth yn ei arddegau, ar ôl cael ei ysbrydoli gan ei gariad tua at R&B, roc a soul clasurol. Yn sgil hyn, mae teimlad tragwyddol i’w ganeuon. Ar ôl recordio dwy sesiwn fyw ar gyfer BBC Introducing, fe aeth Ben ymlaen i gefnogi Newton Faulkner ar ei daith o Brydain yn 2016 ac, ers hynny, mae hefyd wedi cefnogi Gabrielle Aplin.

Luke Gallagher – mae’r canwr a’r cyfansoddwr yma o Wrecsam yn dychwelyd i Llanfest gyda’i gymysgedd o ganeuon Mod/60au/90au. Mae Gallagher eisoes wedi swyno cynulleidfaoedd o bob oed gyda’i dalent lleisiol arbennig a bydd yn cyhoeddi ei drydydd albwm eleni.

Mae’r Eisteddfod Ryngwladol wedi bod yn hybu heddwch ac ewyllys da trwy gerddoriaeth a pherfformiadau yn nhref brydferth Llangollen ers 70 mlynedd, gan roi platfform unigryw i berfformwyr o sawl diwylliant gwahanol arddangos eu talentau. Fel un o wyliau mwyaf amgen y byd, mae Eisteddfod Llangollen yn croesawu dros 4,000 o berfformwyr a hyd at 50,000 o ymwelwyr – gyda Llanfest yn dod ac wythnos o ddigwyddiadau i ben.

Dywedodd Cadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Dr Rhys Davies:

“Unwaith eto eleni, rydym ni’n cyflwyno cynulleidfaoedd newydd i genres cerdd gyfoes, gan gyfuno diwylliant a threftadaeth yr ŵyl gyda thalent fodern unigryw i greu’r diweddglo perffaith. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i roi llwyfan i fwy a mwy o artistiaid, ac at gynyddu’r gynulleidfa bresennol.

“Mae’n bleser pur cyhoeddi lein-yp mor ardderchog i lwyfannau awyr agored Llanfest. Rydym yn wyl ryngwladol, ond mae’n braf medru rhoi cyfle i dalent leol berfformio ar ein llwyfan byd enwog hefyd. Fe ddaw’r rhan fwyaf o’r artistiaid o Gymru neu ardaloedd cyfagos i Swydd Stafford, Glannau Dyfrdwy a Swydd Gaer ac mae hynny yn destament i’r dalent gerddorol sydd ar ein stepen drws.

“Rydym mor falch o fedru dod a’r dalent leol safonol yma ynghyd i rannu llwyfan hefo artistiaid byd enwog ac i gloi wythnos anhygoel o ddigwyddiadau.

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan Llanfest ac mae’r rhaglen lawn i’w chael oddi tanodd.

Mae tocynnau ar gyfer Llanfest ar gael yma.