Y chwilio am ymgeiswyr i gystadleuaeth Llais y Dyfodol yn poethi ar ôl hwb fawr i’r wobr ariannol.
Fe fydd pedwar ar hugain o gantorion ifanc gorau’r byd yn heidio i ogledd Cymru i gystadlu am wobr ryngwladol newydd.
Disgwylir i’r cystadleuwyr deithio yr holl ffordd o’r Swistir, y Philippines, yr Unol Daleithiau a Tseina i fynd benben am deitl Llais Rhyngwladol y Dyfodol yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar 6 Gorffennaf.
Daw nifer uchel yr ymgeiswyr o ganlyniad o hwb ariannol i’r wobr gan gorff gofal Parc Pendine, sy’n ymfalchïo yn y celfyddydau, a Sefydliad Syr Bryn Terfel.
Yn sgil y gefnogaeth, fe fydd y cantorion yn y rownd derfynol yn cystadlu am wobr newydd, sef Tarian Pendine a siec gwerth £6,000. Fe fydd yr ail a’r trydydd safle yn derbyn £2,000 yr un.
Mae Parc Pendine wedi addo cyfrannu £5,000 i gystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol, gyda £3,000 yn dod gan Sefydliad Bryn Terfel a £2,000 gan yr Eisteddfod.
O ganlyniad, mae’r wobr ariannol chwe gwaith yn fwy na’r £1,500 a roddwyd fel gwobr dros y blynyddoedd diwethaf – gyda’r bwriad o godi enw da y gystadleuaeth i’r entrychion.
Pwrpas y gystadleuaeth flynyddol yw arddangos a meithrin talentau ifanc trwy ddarparu’r enillydd gyda hwb ariannol i ddatblygu eu gyrfaoedd addawol.
Mae’n un o uchafbwyntiau wythnos Eisteddfod Llangollen, sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 70ain eleni.
Cynhelir rownd gynderfynol y gystadleuaeth mewn digwyddiad rhad ac am ddim yn Neuadd y Dref, Llangollen am 10yb. Yn beirniadu’r cantorion ifanc fydd y soprano enwog Elin Manahan Thomas a’r cyflwynydd BBC Gareth Jones.
Fe fydd pob ymgeisydd yn cyflwyno hyd at wyth munud o gerddoriaeth yn yr iaith wreiddiol ac yna bydd y beirniaid yn dewis tri chanwr i fynd yn eu blaen i lwyfan y Pafiliwn Rhyngwladol. Mewn cyngerdd gyda’r nos, fe fydden nhw’n perfformio gwerth deuddeg munud o gerddoriaeth yr un.
Mae Parc Pendine hefyd yn noddi perfformiad o’r opera ragorol Tosca, lle bydd Syr Bryn Terfel, Kristine Opolais a Kristian Benedikt yn serennu yn yr ŵyl ar 4 Gorffennaf.
Dywedodd perchennog Parc Pendine, Mario Kreft: “Ein bwriad wrth gefnogi Llais Rhyngwladol y Dyfodol a darparu gwobr Pendine yw cyfrannu at droi’r digwyddiad hwn yn gystadleuaeth gwir ryngwladol a denu’r cantorion ifanc gorau o bedwar ban byd.
“Mae’n hynod o addas bod Sefydliad Syr Bryn Terfel hefyd yn gefnogol, gan i’r Eisteddfod roi hwb anferth iddo wrth gychwyn ei yrfa anhygoel. Mae o rŵan yn awyddus i feithrin cantorion talentog ifanc sy’n dilyn ei olion traed.
“Rwy’n credu’n gryf yn y swyddogaeth bwysig mae cerddoriaeth a’r celfyddydau yn ei chwarae mewn gofal cymdeithasol ac fel rhan o’n rhaglen gyfoethogi ar gyfer pobl sy’n byw a dementia, rydym yn gwahodd cerddorion o gerddorfa’r Hallé ac Opera Cenedlaethol Cymru i fod yn rhan o’n gweithdai a hyfforddiant staff.
“Unwaith eto’r flwyddyn yma, fe fyddwn ni’n arddangos gwerth y celfyddydau mewn gofal cymdeithasol ac yn trefnu cyfres o weithgareddau ar gae’r ŵyl – gan gynnwys gweithdai dementia a gweithdai sy’n pontio’r cenedlaethau.
“Mae ein gwreiddiau yn ddwfn yn y cymunedau lle rydym yn gweithio, ac mae ethos yr Eisteddfod yn cyd-fynd gydag ein bwriad o hybu’r celfyddydau fel modd o gyfoethogi bywydau pobl ar hyd y cenhedloedd.”
Yn ôl cyfarwyddwr cerddorol yr ŵyl, Eilir Owen Griffiths: “Mae meithrin a hybu talent ifanc wrth wraidd yr Eisteddfod ac mae cystadleuaeth Llais y Dyfodol wedi lansio gyrfa sawl unawdydd ifanc.
“Mae safon yr ymgeiswyr o hyd yn uchel, ond gyda chyfraniadau hael gan Barc Pendine a Sefydliad Syr Bryn Terfel, mae’r wobr ariannol newydd wedi denu mwy o ymgeiswyr safonol nag erioed. Fe fydd gan y beirniaid dasg anodd iawn o’u blaenau eleni!”
Ychwanegodd Syr Bryn Terfel: “Mae Sefydliad Syr Bryn Terfel wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi datblygiad perfformwyr ifanc.
“Mae amcanion y sefydliad a’r Eisteddfod yn cyd-fynd yn llwyr, ac rydym yn falch o fedru cyfrannu at y wobr ariannol wrth ddathlu 70ain mlynedd yr Eisteddfod.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â rownd gynderfynol Llais Rhyngwladol y Dyfodol ac i sicrhau lle yn y Dathliad Rhyngwladol, cliciwch yma.