Ardal BIWS yr Eisteddfod Ryngwladol yr un gyntaf o’i bath yng Nghymru

Gŵyl ryngwladol o fri fydd y digwyddiad mawr cyntaf yng Nghymru i ddarparu gofod ymlacio diogel arbennig i bobl ag anghenion arbennig ac ychwanegol.
Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eleni yn ôl yn fyw eto i ddathlu ei 75 mlwyddiant dros bedwar diwrnod, gan ddechrau ar ddydd Iau, Gorffennaf 7, a bydd yn cynnwys ardal dawel bwrpasol yng nghanol Maes yr Eisteddfod. (rhagor…)

Seren y Sitar Anouskha Shankar yn cyd-fynd â neges heddwch yr ŵyl

Bydd sŵn cyfareddol y sitar yn creu cyffro mewn gŵyl ryngwladol pan fydd Anoushka Shankar, sydd wedi cael ei enwebu am saith gwobr Grammy, yn perfformio yng Nghymru am y tro cyntaf erioed.
Bydd Shankar yn cymryd rhan yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen am 8pm nos Wener, Gorffennaf 8, ac mae tocynnau ar werth yn awr wrth i’r digwyddiad baratoi i ddathlu ei 75 mlwyddiant. (rhagor…)

Moira, hen-nain 92 oed, yn chwilio am gystadleuwyr gŵyl heddwch 1947

Mae hen nain 92 oed sy’n hoff o gerddoriaeth yn arwain ymgyrch i ddod o hyd i bobl wnaeth gystadlu yn yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gyntaf erioed yn 1947.
Roedd yr athrawes wedi ymddeol, Moira Humphreys, yn aelod o Gôr Ieuenctid Coedpoeth a fu’n canu ar lwyfan yr ŵyl gyntaf un, a sefydlwyd i hybu heddwch yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.
Mae’r trefnwyr yn bwriadu cyflwyno medalau coffa i Moira a’i chyd-gystadleuwyr o’r eisteddfod gyntaf hanesyddol honno er mwyn nodi 75 mlynedd ers y digwyddiad. (rhagor…)

Gwobr fawr yn denu cantorion ifanc gorau’r byd i ogledd Cymru

Bydd pedwar ar hugain o gantorion ifanc gorau’r byd yn cystadlu am wobr ryngwladol fawreddog mewn gŵyl arbennig yng ngogledd Cymru.

Bydd cystadleuwyr o bedwar ban byd gan gynnwys Tsieina, America, Sbaen, Latfia ac Estonia yn brwydro am wobr Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. (rhagor…)

Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen – Tocynnau 2022

Mynediad i’r Maes

Tocynnau Diwrnod y Pafiliwn/Cystadlaethau

Cyngerdd gydag Anoushka Shankar a Manu Delago

Côr y Byd, Pencampwyr Dawns a Llais y Dyfodol 2022

Yn ôl Mewn Harmoni: Aled Jones a Russell Watson

Ymweliad Ysgol

Competition Syllabus

 

Croeso! Welcome!

Following a two-year hiatus from live competitions, I am delighted to announce that applications to take part in the ‘Llangollen International Musical Eisteddfod’, which takes place from Thursday 7th July – Sunday 10th July 2022, are now open!

Download 2022 Syllabus here

Visit Llangollen International Musical Eisteddfod Participants’ Website  for more competition information. (rhagor…)

Helo gan y Cynhyrchydd Gweithredol – Rydyn ni nôl – Cyhoeddi Cyngherddau 2022!

Helo gan ein Cynhyrchydd Gweithredol newydd!

Annwyl Gyfeillion,

Mae’n bleser enfawr i mi ysgrifennu fy nghylchlythyr cyntaf atoch chi i gyd gyda’r newyddion rhagorol y byddwn yn dychwelyd i greu cerddoriaeth yn fyw ym mis Gorffennaf 2022.

Ers ymuno â’r Eisteddfod ar ddechrau mis Tachwedd mae’r tîm a minnau wedi bod yn gweithio’n ddiflino i ddod â dathliad i chi sy’n deilwng o’n 75 mlynedd o fodolaeth. Er y bydd yr ŵyl ychydig yn fyrrach, ac yn cael ei chynnal ar y maes ac yn y Pafiliwn heb yr estyniad arferol er mwyn sicrhau diogelwch ein holl gynulleidfaoedd tra bo cyfyngiadau Covid yn dal i fodoli, rwy’n gobeithio y cytunwch â mi ein bod wedi dal y gorau o bopeth sydd gan Langollen i’w gynnig. (rhagor…)

Penodi Cynhyrchydd Gweithredol newydd ar gyfer Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen

Mae’n bleser gan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gyhoeddi penodiad Camilla King fel ein Cynhyrchydd Gweithredol.

Mae Camilla King yn ymuno ag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen fel Cynhyrchydd Gweithredol o’i rôl fel Pennaeth Rhaglennu yng Ngŵyl Gerdd Cheltenham. Yn brofiadol fel rhaglennydd cerddoriaeth glasurol, a rheolwr prosiect a digwyddiadau gyda gyrfa 20 mlynedd yn y sectorau celfyddydau ac elusennol, astudiodd Camilla Gerddoriaeth yng Ngholeg King’s Llundain cyn gweithio fel rheolwr artistiaid i Ingpen & Williams. Dilynwyd hyn gyda chyfnod yn yr adran gastio yn English National Opera, yn rhedeg cynllun addysg gorawl ar gyfer Consort a Chwaraewyr Gabrieli, a chyfnod byr yn codi arian gyda Freedom from Torture, elusen a ddatblygodd o Amnest. (rhagor…)

Llyfr Nodiadau Dylan Thomas Llangollen 1953

Ysgrifenna’r Athro Chris Adams, Y Pwyllgor Archifau:

Un o’r straeon o 75 mlynedd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen sy’n cyffroi cefnogwyr fwyaf yw’r un am ymweliad Dylan Thomas â’r ŵyl ym mis Gorffennaf 1953. Disgrifiodd ei ymweliad ychydig wythnosau’n ddiweddarach mewn darllediad 15 munud ar gyfer Gwasanaeth Cartref y BBC, a lluniodd ddelweddau llafar o’r Eisteddfod gynnar sydd yr un mor bwerus heddiw. Nid oes unrhyw recordiadau hysbys o’r darllediad, ac felly bu’n rhaid i ni wneud y tro â’r testun, a argraffwyd yng nghasgliad 1953 “Quite Early One Morning”, er bod sawl rhaglen deledu am yr ŵyl wedi defnyddio geiriau Thomas, wedi’u lleisio gan actorion o Gymru.

(rhagor…)

Eisteddfod Llangollen yn Galw – Ewch Ati i Bwytho!

Mae’r artist rhyngwladol Luke Jerram yn bwriadu defnyddio ffabrig i weddnewid pont Llangollen – yn y llun rhoddir syniad o sut y bydd y gwaith celf yn edrych ar ôl ei gwblhau.

Mae Eisteddfod Llangollen yn galw am bobl i roi help llaw i drawsnewid Pont nodedig Llangollen yn waith celf enfawr er mwyn lansio gŵyl eleni.

Mae’r Eisteddfod wedi comisiynu’r artist rhyngwladol o fri Luke Jerram i greu’r gwaith celf newydd. Mae’n bwriadu lapio’r bont 60 metr o hyd mewn clytwaith anferth sy’n adlewyrchu crefftau a diwylliannau Cymru ynghyd â’r cenhedloedd sy’n cymryd rhan yn yr ŵyl. Er y bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar-lein yn bennaf eleni, gobeithiwn y bydd y bont drawiadol hefyd yn denu pobl i ymweld â’r dref yr haf hwn.

Bydd gwaith celf newydd Luke Jerram ar y bont yn cysylltu ac yn ymestyn creadigrwydd yr Eisteddfod allan o’r maes, i’r dref, gan drawsnewid a bywiogi Llangollen i’r byd i gyd ei weld.

Rydym yn cynnig cyfle i chi gymryd rhan, trwy ofyn i chi wneud eich sgwariau ffabrig 1m x 1m eich hun a fydd yn cael eu pwytho gyda’i gilydd a’u hongian dros y bont. Yn ddelfrydol dylai’r clytweithiau fod yn drawiadol eu dyluniad, fel eu bod yn sefyll allan wrth eu gweld o bell.

Er mwyn i’ch darn clytwaith gael ei gynnwys ar y bont, mae angen iddo gael ei ddanfon i fynedfa Penddol ger safle Eisteddfod Llangollen erbyn 30 Mehefin 2021.

Y cyfeiriad ar gyfer y rhai sy’n dymuno postio eu darn clytwaith yw: Swyddfa Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol, Ffordd yr Abaty, Llangollen LL20 8SW
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ffoniwch 01978 862000 neu anfonwch e-bost at info@llangollen.net.

Esiamplau o ddarnau clytwaith:

 

 

Dywedodd yr artist Luke Jerram, sy’n adnabyddus am weithiau celf gyhoeddus ledled y byd:

“Pan welais i Bont Llangollen am y tro cyntaf, mi wnes i syrthio mewn cariad yn syth. Mae mor eiconig ac wrth galon y dref. Ar draws y byd, mae pontydd bob amser wedi cael eu defnyddio fel ffyrdd corfforol a symbolaidd i gysylltu pobl – sy’n cyd-fynd yn berffaith â nodau ac uchelgeisiau’r Eisteddfod. Fedra i ddim aros i weld y darnau clytwaith y mae pobl greadigol y gymuned leol yn mynd i’w hanfon i mewn, er mwyn troi’r bont yn waith celf.”

Dywedodd Betsan Moses, Prif Swyddog Gweithredol Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen:

“Mae gan yr Eisteddfod hanes hir a chyfoethog o weithio gyda gwahanol gymunedau a chenhedloedd ledled y byd i ddod â phobl at ei gilydd i rannu eu creadigrwydd a neges heddwch. Mae cymuned Llangollen mor bwysig i’r ŵyl, gyda channoedd o bobl leol yn gwirfoddoli bob blwyddyn. Felly rydym yn gobeithio y bydd creu a rhannu darnau clytwaith ar gyfer gwaith celf y bont yn ffordd o’u helpu i gysylltu â’r ŵyl ar-lein yr haf hwn, yn ogystal â denu ymwelwyr i’r dref.”

Telerau ac amodau

Mae angen i’ch clytwaith gael ei wneud o ffabrig ac o faint 1m x 1m. Caniateir unrhyw liwiau ac rydym yn chwilio am ddelweddau sy’n drawiadol ac yn gryf o ran eu geometreg. Ni ddylai eich dyluniad gynnwys ysgrifennu na negeseuon gwleidyddol.*

*Rydym yn cadw’r hawl, i beidio â chynnwys eich clytwaith os bernir ei fod yn amhriodol.

Gwybodaeth am Luke Jerram

Mae arfer amlddisgyblaethol Luke Jerram yn cynnwys creu cerfluniau, gosodiadau a phrosiectau celf byw. Mae Jerram yn byw ym Mryste, yn y Deyrnas Unedig ond mae’n gweithio’n rhyngwladol, ac wedi creu nifer o brosiectau celf anghyffredin dros y 24 mlynedd diwethaf sydd wedi cyffroi ac ysbrydoli pobl ledled y byd.

www.lukejerram.com