Ysgolion

Profiad Amlddiwylliannol Heb Ei Ail Ar Stepen eich Drws!
Mwynhewch liwiau Asia, dawnsio i rythmau De America, neidio i synau Affrica a dathlu treftadaeth ddiwylliannol Ewrop a’r cyfan heb orfod talu drwy’ch trwyn.

Ysgolion Cynradd Ysgolion Uwchradd

Croesawn filoedd o ddisgyblion i’r Eisteddfod bob blwyddyn, sy’n rhoi cyfle addysgol perffaith iddynt brofi amrywiaeth ddiwylliannol a rhyngweithio rhyngwladol.

“Mi wnaethon ni fynd â 50 o blant i’r Eisteddfod fel trip ysgol. Roedd gan y maes ddigon o stondinau ac arddangosiadau i’w difyrru drwy’r dydd, roedd pobl yno mewn gwisgoedd hardd o bob cwr o’r byd yn cerdded ar hyd y maes ac mi wnaethon ni hyd yn oed lwyddo i gael llun gyda’r anhygoel Bryn Terfel!! Y tu mewn i’r babell cawsom weld a chlywed corau a grwpiau dawns anhygoel. Mi wnaethon ni dreulio drwy’r dydd yno, ac fe wnaeth yr amser wibio heibio. Byddwn yn argymell hyn fel profiad cyfoethog bythgofiadwy, gyda lliwiau, synau, ac arogleuon y bwyd a’r bobl amrywiol… lle anhygoel, gwych a chyfeillgar.” (Athrawes, 2017)

Bob blwyddyn mae miloedd o bobl yn heidio trwy byrth Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Wrth grwydro o gwmpas y maes, cânt eu swyno drwy weld ymwelwyr rhyngwladol yn eu gwisgoedd cenedlaethol lliwgar, eu diddanu gan grwpiau yn perfformio ar un o’r tri llwyfan allanol (gan ymuno yn y dawnsio a’r canu yn aml), a’u bwydo gan lawer o siopau bwyd rhyngwladol sy’n gosod eu stondin yma am yr wythnos.

Gall y rhai sy’n dymuno, dreulio ychydig o amser yn eistedd yn y pafiliwn yn gwrando ar berfformiadau gan gorau blaenllaw neu unawdwyr lleisiol ac offerynnol rhagorol, neu wylio coreograffi rhyfeddol dawnswyr o bob cwr o’r byd mewn gwisg genedlaethol i gyfeiliant offerynnau anarferol.

Mae’r ŵyl wedi ei chynllunio ar gyfer pob oedran, ac mae’n gwbl gynhwysol, yn llythrennol mae yma ‘rhywbeth i bawb’, felly mae’n bleser mawr gennym wahodd ysgolion i fanteisio ar ein cynnig arbennig i ysgolion a dod â llond bws o blant a phobl ifanc i brofi’r achlysur cwbl unigryw yma. Cynigir hyn i gyd am ddim ond £6 y disgybl i ymweld ar dydd Mawrth 2, dydd Mercher 3,  dydd Iau 4 a dydd Gwener 5 Gorffennaf 2024. 

Efallai eich bod yn chwilio am ffordd o wobrwyo disgyblion sydd wedi cyflawni rhywbeth arbennig yn ystod y flwyddyn, neu’n methu wynebu taith arall i barc thema; efallai bod angen i chi wella eich ymwneud ag ADCDF neu’n dymuno codi ymwybyddiaeth eich disgyblion am bobl o ddiwylliannau eraill. Efallai eich bod eisiau i’ch disgyblion brofi’r ffordd y mae cerddoriaeth a dawns yn cyfoethogi cymaint o fywydau. Beth bynnag yw’r rheswm gallwn warantu diwrnod o hwyl i chi hyd yn oed os yw’n glawio!

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r swyddfa ar 01978 862 001.

Gallwch hefyd ein dilyn ar Facebook (Llangollen International Musical Eisteddfod), Twitter (@llangollen_Eist), Instagram (llangollen_eisteddfod) neu ddod o hyd i ni ar YouTube (Llangollen1947).