Fe gafodd cannoedd o blant ysgol gyfle i weld perfformiad cerddorol unigryw yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eleni, gan hefyd ddysgu sut i ddiogelu eu hunain.
Camodd masgot yr elusen blant blaenllaw NSPCC, y deinosor ‘Pantosaurus’, ar y prif lwyfan ddydd Mawrth (3ydd Gorffennaf) i hyrwyddo ymgyrch ‘PANTS’ i ddisgyblion o tua 45 o ysgolion.
Ers lansio pedair blynedd yn ôl, mae’r ymgyrch wedi galluogi mwy na 400,000 o rieni ledled Prydain i drafod camdriniaeth rywiol gyda’u plant. Pwrpas PANTS yw dysgu plant bod eu corff yn eiddo iddyn nhw, bod ganddyn nhw’r hawl i ddweud ‘na’ ac i beidio bod ag ofn dweud wrth rywun maen nhw’n ymddiried ynddynt os ydyn nhw’n poeni am rywbeth.
Yn Saesneg, mae’r gair PANTS yn golygu:
P – Privates are private
A – Always remember your body belongs to you
N – No means no
T – Talk about secrets that upset you
S – Speak up, someone can help
Mae Pantosaurus yn ymddangos mewn animeiddiad ffilm Cymraeg a Saesneg gan Aardman – y cwmni tu ôl i raglenni Morph, Wallace & Gromit a Shaun the Sheep – sydd ar gael ar wefan yr NSPCC, lle gellir hefyd ddarganfod a lawrlwytho adnoddau i rieni.
Fe wnaeth y deinosor hoffus berfformio can ‘PANTS’ ar Lwyfan y Byd yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ddydd Mawrth, o flaen tua 2,700 o blant oedd yn ymweld â’r ŵyl ar gyfer Diwrnod y Plant, a noddwyd gan NSPCC Cymru.
Diwrnod y Plant yw diwrnod cyntaf Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, lle cynhelir ddiwrnod o weithgareddau hwylus i bobl ifanc, gan gynnwys cyflwyniad y Neges Heddwch, oedd eleni yn nodi canrif ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Yn ogystal â pherfformio a dysgu can PANTS ar y llwyfan, fe wnaeth yr NSPCC gynnal gweithdai ar y thema oedd yn cynnwys creu lein ddillad ar draws y llwyfan o ddillad isaf wedi’u creu gan blant. Cafodd y gweithdai eu cefnogi gan grŵp o fyfyrwyr Gofal Plant o Goleg Cambria, wedi i’r coleg Cymreig ddewis yr NSPCC fel elusen i gefnogi yn 2017- 2018.
Yn ôl Alan Peterson, Cadeirydd Bwrdd Apêl Cymru’r NSPCC:
“Mae’n hanfodol bod ein plant yn gwybod sut i aros yn ddiogel. Ac mae’n fonws os ydyn nhw’n medru cael hwyl wth ddysgu sut.
“Rydym yn ddiolchgar i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen am roi cyfle i ni berfformio ar y prif lwyfan o flaen gymaint o blant ar Ddiwrnod y Plant, a noddir gan NSPCC Cymru.
“Fe grëwyd ymgyrch PANTS gan yr NSPCC er mwyn gwneud trafod y pwnc anodd hwn yn llai brawychus ac anghyffyrddus i deuluoedd, ac i gyrraedd gymaint o bobl ag sy’n bosib. Mae’r elusen yn parhau i ddatblygu ffyrdd newydd i Pantosaurus helpu pobl ifanc i ddiogelu eu hunain rhag camdriniaeth.”
Ychwanegodd Cadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Rhys Davies: “Roeddem yn falch iawn o groesawu Pantosaurus i Langollen ar gyfer Diwrnod y Plant ar ddydd Mawrth, Gorffennaf 3ydd. Yn ogystal â chynnig gweithdy hwylus i bobol ifanc, mae ymgyrch yr NSPCC yn gyfle gwych i addysgu plant am beryglon camdriniaeth rywiol.
“Mae’r Eisteddfod Ryngwladol yn hyrwyddo trafodaethau o bynciau pwysig fel hyn, yn ogystal â helpu pobl ifanc i fyw yn fwy diogel yn y gymdeithas.”
Atgyfnerthir pwysigrwydd ymgyrch PANTS gan ymchwil gan yr NSPCC, sydd wedi datgelu bod disgwyl i un ym mhob 20 o blant ysgol ddioddef o ryw ffurf o gamdriniaeth rywiol.
Ac fe wnaeth arolwg diweddar gan YouGov, a gomisiynwyd gan yr NSPCC, ddangos bod 92% o rieni i blant rhwng pedair ag wyth oed yn meddwl ei bod yn bwysig siarad gyda’u merched a’u meibion am gamdriniaeth rywiol.
Ar ol cyflwyno PANTS i gannoedd o blant ar ddiwrnod agoriadol yr Eisteddfod Gerddorol, fe fydd NSPCC Cymru hefyd yn ymddangos yng Nghanolfan Harmoni’r ŵyl ddydd Sadwrn (7fed Gorffennaf) ar gyfer Diwrnod y Teulu. Yno, bydd yr elusen yn dosbarthu pecynnau gweithgaredd a gwybodaeth i rieni.
Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cael ei chynnal bob blwyddyn yn ystod wythnos gyntaf mis Gorffennaf, yn nhref brydferth Llangollen, gogledd Cymru. Mae’n cynnig chwe diwrnod o gerddoriaeth a dawnsio gwerin gorau’r byd, mewn cyfuniad unigryw o gystadlaethau, perfformiadau, heddwch a chyfeillgarwch rhyngwladol. Eleni, roedd y lein-yp ardderchog yn cynnwys perfformiadau gan Kaiser Chiefs, Van Morrison ac Alfie Boe.