Mae’r seren opera byd-enwog Bryn Terfel wedi bod yn canu mewn cytgord â phobl ifanc drwy gael hwyl gyda cherddoriaeth yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.
Gan gymryd seibiant o’r ymarferion ar gyfer Cyngerdd Gala Clasurol yr Eisteddfod, talodd Bryn ymweliad sydyn â’r babell lle’r oedd sefydliad gofal nodedig Parc Pendine yn cynnal bore o weithdai cerddorol fel rhan o weithgareddau Diwrnod y Plant yr ŵyl.
Ymunodd pobl ifanc o sawl ysgol oedd ar ymweliad â’r ŵyl gyda 15 o breswylwyr cartref gofal Parc Pendine yn Wrecsam mewn ymarferion cynhesu symud a chanu, curo dwylo a siglo i’r gerddoriaeth a churo allan rhythm gan ddefnyddio maracas a thamborîns.
Yn arwain y sesiynau oedd Jenny Pearson, sy’n gantores a thiwtor ar ei liwt ei hun, a’r pianydd Annette Bryn Parri, sydd ill dwy wedi gweithio gydag Opera Cenedlaethol Cymru.
Roedd y gweithdai yn rhan o raglen cyfoethogi arloesol Pedine, sy’n gwella profiad y preswylwyr a hefyd sy’n chwarae rhan allweddol mewn hyfforddi personol a datblygu staff.
Roedd tua 20 o staff Pendine wrth law i wneud yn siŵr bod y bore yn rhedeg yn esmwyth.
Hanner ffordd drwy un o’r sesiynau llithrodd Bryn a’i gariad, y cyn delynores Frenhinol Hannah Stone, yn ddistaw i mewn i gefn y babell.
Ond, ynghyd â pherchennog Pendine Mario Kreft, ni fu Bryn yn hir cyn mynd i ysbryd pethau drwy ymuno yn yr ymarferion ac ar un adeg ychwanegodd ei lais bas-bariton cyfoethog i ganu Cân y Banana.
Roedd Mario hefyd wrth ei fodd o weld disgyblion o’i hen ysgol, Ysgol Trefnant yn Ninbych, yn cael eu hebrwng i mewn i’r babell i ymuno â’r sesiwn.
Yn ddiweddarach, dywedodd Bryn: “Fel arfer pan fyddaf i’n dod i’r Eisteddfod does gen i ddim llawer o amser i weld beth sy’n digwydd o gwmpas y cae, ond gan nad yw fy ymarfer cyngerdd yn dechrau tan ychydig yn ddiweddarach roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n taro heibio i’r babell a gweld beth oedd yn digwydd.
“Rwy’n falch fy mod i wedi gwneud oherwydd mae gweithdai fel hyn yn gonglfaen bwysig o therapi cerdd.
“Roedd fy mam yn gweithio mewn ysgol arbennig yng Nghaernarfon, felly mae’r math yma o amgylchedd bob amser wedi bod yn rhan o fy mywyd.”
Ymhlith y rhai oedd yn mwynhau’r sesiwn oedd Christine Jones, 72 oed, un o breswylwyr Parc Pendine, a fu’n curo dwylo a chanu’n frwd gyda’r gerddoriaeth.
Dywedodd: “Rwyf wedi bod i’r gweithdai hyn mewn blynyddoedd blaenorol, ac rwyf bob tro’n edrych ymlaen yn arw.
“Maen nhw’n gymaint o hwyl ac rwy’n caru bod yma gyda’r plant gan fod gennyf ŵyr ac ŵyres fy hun.”
Hefyd yn mwynhau pob munud o’r sesiwn oedd ei chyd-breswylydd yn Parc Pendine, Bill Evans, 91 oed, cyn-filwr a fu’n rhan o frwydr Normandi yn yr Ail Ryfel Byd.
Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd yn gwylio’r plant yn cael hwyl a gallu ymuno gyda nhw i ganu.
“Roeddwn i’n arfer byw ychydig i fyny’r ffordd yn Nhrefor felly roeddwn yn mynd i’r Eisteddfod yn eithaf aml, gan gynnwys yr amser pan ddaeth y Tywysog Charles a’r Dywysoges Diana yma.”
Ar ben arall yr ystod oedran, roedd Megan Grace, wyth oed, o Ysgol Trefnant hefyd yn mwyhau pob munud o’r profiad.
Dywedodd Megan, sy’n dod o Ddinbych: “Rwyf wedi bod yn ymuno yn y canu a’r symudiadau a chael llawer o hwyl.
“Dw i ddim wedi bod i’r Eisteddfod o’r blaen, felly rwy’n edrych ymlaen at fynd o gwmpas y cae i weld y pethau eraill yn digwydd yn nes ymlaen.”
Yn ymweld o Ysgol Gynradd Meadows yng Nghroesoswallt oedd Lewis Jennings, naw oed, a ddywedodd: “Mi ddes i yma flwyddyn ddiwethaf ac roedd yn dda iawn, felly roeddwn i eisiau dod yn ôl eto.
“Mae’n wych gallu ymuno yn y canu a’r ymarferion gyda’r plant eraill ac rwy’n mwynhau yn fawr.”
Dywedodd Sarah Edwards, artist preswyl Parc Pendine a helpodd i drefnu’r gweithdai: “Mae yna lawer iawn o ddiddordeb bob amser gan yr ysgolion a’r preswylwyr, sy’n dweud wrthyf wedyn gymaint y maen nhw’n eu mwynhau.
“Mae rhaglen lawn o weithgareddau yn digwydd ym mhabell Pendine ar hyd yr wythnos fel rhan o’n rhaglen gyfoethogi, gan gynnwys ein salon iechyd a harddwch dros dro a’n tafarn dros dro sy’n gweini Pwnsh Pendine a moctêls.
“Byddwn hefyd yn yn cael datganiad ar y delyn gan y delynores Nia Davies Williams.
“Mae’n hyfryd gweld y ffordd y mae’r plant a’r bobl hŷn yn rhyngweithio.”
Dywedodd Mario Kreft: “Elfen allweddol o’r hyn rydym yn ei wneud ym Mharc Pendine yw dod â phlant a phobl hŷn â demensia at ei gilydd
“Mae’r gweithdai yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth nad yw henaint yn ddim byd i’w ofni a deall sut y gall y celfyddydau a cherddoriaeth helpu i newid bywydau pobl er gwell.
“Rydym wrth ein bodd i fod yn gysylltiedig â’r Eisteddfod oherwydd ei hethos o heddwch a dealltwriaeth ac mae’r sesiynau hyn yn estyniad o hynny.”