Llwyfannodd dau o fawrion y byd opera ornest hynod ddiddan ym Mhafiliwn Rhyngwladol Brenhinol Llangollen ac roedd y tŷ bron dan ei sang wrth eu bodd o’r dechrau i’r diwedd.
Cafodd prif seren canu Cymru, Bryn Terfel, ei gyplysu gyda’r tenor o Malta, Joseph Calleja a chreodd y cyfuniad o’r ddau ar y cyd â grym nerthol cerddorfa’r sinffonia Gymreig noson i’w chofio.
Rhoesant wledd i’r gynulleidfa gydag ambell i ddarn operatig poblogaidd ar ffurf O Sole Mio gyda llais tenor uchel Calleja yn gwneud cyfiawnder llawn â’r clasur a wnaed yn enwog gan Luciano Pavarotti, seren arall oedd â chysylltiadau â Llangollen.
Yn ogystal, cadwodd yr Eisteddfod Ryngwladol ei haddewid i gantores ifanc arall ar ffurf y soprano o Drimsaran, Eirlys Myfanwy Davies, enillydd Llais y Dyfodol yn 2014, a ddangosodd ei dawn gynyddol trwy ddwy gân hyfryd.
Rhagorodd Bryn a Joseph yn unigol ac ar y cyd ac maen nhw’n amlwg yn mwynhau cyfeillgarwch agos ond nid aeth hynny byth yn y ffordd o’u perfformiadau mawreddog.
Erbyn y diwedd, gwelwyd Bryn ar ei fwyaf direidus yn If I Were A Rich Man o Fiddler On The Roof a daeth y ddau at ei gilydd yn hynod effeithiol i ganu Anything You Can Do, o Annie Get Your Gun.
Anogodd hynny’r Calleja llond ei got i honni’n gyfiawn ei fod bron yn sicr mai ef oedd yr ‘Annie’ mwyaf i ymddangos ar lwyfan erioed.
Creodd y cyfan sioe wych, a ddygwyd i lwyfan y Pafiliwn gan y noddwyr Pendine Park, ac a ddangosodd allu parhaus yr Eisteddfod i ddod â rhai o artistiaid gorau’r byd i dref fach yng Ngogledd Cymru.