Mae arweinydd cymuned Portiwgeaidd yn Wrecsam wedi bod yn cynorthwyo i ailgynnau cysylltiadau diwylliannol rhwng Portiwgal ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.
Roedd côr merched o Oporto ymysg y cystadleuwyr yn yr ŵyl gyntaf yn 1947.#
Wedyn, ddwy flynedd yn ôl, roedd côr o Bortiwgal yn un o uchafbwyntiau ffair haf hosbis yng nghanol tref Wrecsam. Cafodd aelodau’r côr eu llongyfarch gan Lywydd yr Eisteddfod, Terry Waite, a ddywedodd y byddai’n falch o weld mwy o gystadleuwyr ac ymwelwyr o’r wlad honno yn yr ŵyl.
Rhoddodd hynny syniad i Iolanda Banu, sy’n gynghorydd ar gyfer y gymuned o 2,000 o bobl Portiwgalaidd yn Wrecsam, ac fe arweiniodd at gynrychiolwyr allweddol o’r wlad honno’n derbyn gwahoddiad i ddod i’r 70ain Eisteddfod eleni.
Daeth dirprwyaeth o 11 o bobl, dan arweiniad Carlos de Souza Amaro, y Prif Gonswl o’i ganolfan ym Manceinion, a chael eu croesawu gan swyddogion yr ŵyl.
Roedd Iolanda Banu wedi dod i Wrecsam o Bortiwgal 15 mlynedd yn ôl, a bydd yn rhannu ei hamser rhwng bod yn gyfieithydd a gweithio i Gyngor Hil Cymru. Meddai Iolanda: “Yn 2014 cafodd un o’n corau prifysgol, Gestrintuna, o Gondomar ger Oporto, wahoddiad i berfformio yn ffair haf Nightingale House yn Sgwâr y Frenhines, Wrecsam.
“Roedd Terry Waite yn yr Eisteddfod ar yr adeg honno, a chafodd ef a Maer Wrecsam wahoddiad i ddod yno. Ar ôl gweld y côr aeth i’w llongyfarch ar eu perfformiad a dweud y dylent ystyried ymddangos yn Llangollen.
“Yn yr un flwyddyn, daeth gwahoddiad i mi weld yr Eisteddfod ac roedd yn drawiadol iawn i mi.
“Roedd hynny, a beth ddywedodd Terry wrth y côr, yn gwneud i mi feddwl y dylem ni geisio meithrin cysylltiad gyda’r ŵyl, fyddai o fudd mawr i bawb.
“Felly mi wnes i drefnu i ddirprwyaeth Bortiwgalaidd ymweld â’r Eisteddfod, mynd o gwmpas y maes a chael mwynhau’r cyngerdd gyda’r hwyr.”
Ychwanegodd y Prif Gonswl, Mr de Souza Amaro: “Mi wnes i fwynhau fy ymweliad â Llangollen yn fawr iawn a chael bod yn rhan o’r awyrgylch, yn enwedig ar ôl clywed gymaint amdani ymlaen llaw.
“Roedd yn brofiad arbennig o gyffrous i fod yma ar gyfer yr Eisteddfod pan mae’n dathlu 70 mlynedd, i gynorthwyo i feithrin cysylltiadau rhwng Portiwgal a’r ŵyl.
“Rwy’n gobeithio y gall Portiwgal gyfrannu at ryw fath o bresenoldeb yn yr
Eisteddfod dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Rwy’n sicr yn gobeithio annog pobl i ddod yma yn y dyfodol i gymryd rhan, ac am wneud apêl arbennig ar gyfer hyn, ym Mhortiwgal ac ymysg cymunedau Portiwgalaidd yn y Deyrnas Unedig.
Ychwanegodd hefyd: “Rwy’n credu bod yna rywbeth yn chwithig yn y ffaith fy mod i’n dod yma i Gymru yn yr union wythnos pan mae tîm fy ngwlad wedi trechi tîm Cymru. Ond rhaid i mi ddweud bod perfformiad Cymru yng nghystadleuaeth Ewro 2016 yn wirioneddol ffantastig ac fy mod yn eithaf siomedig i’w gweld yn colli i Bortiwgal.”
Mae gwaith wedi bod ym mynd ymlaen trwy’r haf i gael hanes y côr merched o Bortiwgal fu’n cystadlu yn Eisteddfod gyntaf Llangollen, yn ôl yn 1947.
Ychwanegodd Iolanda: “Ar ôl gwneud dipyn o ymchwil cefais wybod bod y cô
Grupo Musical Feminio o Oporto wedi cystadlu yn yr Eisteddfod gyntaf yn 1947.
“Gan ein bod yn dathlu’r 70ain Eisteddfod eleni roeddwn yn meddwl y byddai’n wych gallu canfod rhai o aelodau’r côr neu eu teuluoedd ac o bosibl eu gwahodd i ymweld eto â’r ŵyl, efallai y flwyddyn nesaf.
“Mae swyddfa’r Eisteddfod wedi bod yn fy helpu wrth chwilio am unrhyw fanylion, ac ym Mhortiwgal mae’r llywodraeth wedi cytuno i weld a allan nhw gael gwybod rhywbeth am y merched hynny.
“Hyd yma, does dim wedi dod i’r golwg, ond byddwn yn parhau i chwilio.”
Roedd Llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite, wedi bod yn bresennol i groesawu’r ddirprwyaeth. Dyma beth ddywedodd ef: “Roedd yn wirioneddol dda eu cael nhw yma, gan fod cystadleuwyr o Bortiwgal ymysg y rhai cyntaf i ddod i Langollen yn 1947, ac wrth gwrs y wlad honno ydi cynghreiriad hynaf Prydain.
“Mae hon yn enghraifft berffaith gan fod y perthnasau wedi’u ffurfio gan yr Eisteddfod trwy gerddoriaeth, sy’n gallu dod â harmoni i’r enaid ac i fyd cythryblus.”