Syr Bryn Terfel a Gregory Porter i serennu mewn cyfres o gyngherddau i ddathlu pen-blwydd Eisteddfod Ryngwladol yn 70

Fe fydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn dathlu ei phen-blwydd yn 70 gyda chyfres o gyngherddau arbennig sy’n cynnwys perfformiadau gan y bas-bariton Syr Bryn Terfel, y canwr Jazz, Soul a Gospel eiconig Gregory Porter, grŵp harmoni lleisiol The Overtones ac Academi Only Boys Aloud – ynghyd â gwledd o dalent gerddorol a dawnswyr rhyngwladol.

Fe fydd ticedi ar gyfer yr ŵyl, sy’n rhedeg o ddydd Llun 3ydd Gorffennaf tan ddydd Sul 9fed Gorffennaf 2017, ar gael i berchnogion ticedi tymor a Ffrindiau’r Eisteddfod o 9:00yb heddiw [Dydd Mawrth 24ain Ionawr]. I aelodau’r cyhoedd, bydd y ticedi yn mynd ar werth am 9:00yb dydd Iau 9fed Chwefror ac ar gael o www.international-eisteddfod.co.uk neu trwy ffonio’r swyddfa docynnau ar 01978 862001.

Gall unrhyw un sy’n ymaelodi â Ffrindiau’r Eisteddfod yn ystod y pythefnos nesaf hefyd gael blaenoriaeth i’r tocynnau cynnar.

Fe fydd dathliadau 2017 yn cael eu lawnsio gyda chyngerdd agoriadol mawreddog ar ddydd Llun 3ydd Gorffennaf, lle bydd modd clywed rhai o emynau enwocaf Cymru, corws operatig pwerus a ffefrynnau clasurol.  O dan arweiniad Owain Arwel Hughes CBE, fe fydd enillydd cystadleuaeth Llais y Dyfodol 2015 Meinir Wyn Roberts a’r chwaraewr ewffoniwm David Childs yn ymuno â’r band pres byd enwog Cory Brass Band a chorau meibion Canoldir, Dyffryn Colne, Froncysyllte a Rhosllanerchrugog i roi blas o’r safon y gellir ei ddisgwyl trwy’r wythnos.

Ar ddydd Mawrth 4ydd Gorffennaf, dychwela’r bas-bariton Syr Bryn Terfel i lwyfan yr Eisteddfod i berfformio fersiwn gyngerdd o waith Puccini, Tosca, sy’n stori ddramatig o gariad, chwant, marwolaeth a gwleidyddiaeth. Fe fydd y perfformiad unigryw hwn yn cael ei gefnogi gan Gerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, gydag artistiaid rhyngwladol eraill i’w cyhoeddi yn y dyfodol agos.

Yr enillydd Grammy a’r cyfansoddwr cerddoriaeth gemau fideo Christopher Tin fydd yn camu i’r llwyfan ar 5ed Gorffennaf, yng nghwmni Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru a’r soprano Elin Manahan Thomas, i gyflwyno gwledd gorawl a cherddorfaol tra gwahanol. Bydd hanner cyntaf y noson yn cynnwys ystod eang o gerddoriaeth glasurol ar y themau ‘adnewyddu’ ac ‘undod’. Yn yr ail hanner, cawn berfformiad arbennig o gylch caneuon gan Christopher Tin, Calling All Dawns, sy’n cynnwys y darn eiconig Baba Yetu – y gerddoriaeth i’r gêm fideo enwog Civilisation IV. Ar ben hyn i gyd, bydd cantorion lleol o Gorws Dathlu Llangollen yn dychwelyd i’r llwyfan i ymuno â gweddill yr artistiaid nodedig.

Yn y Dathliad Rhyngwladol ar ddydd Iau 6ed Gorffennaf, fe fydd Academi Only Boys Aloud yn westai arbennig ac yn ymuno â chystadleuwyr i ffurfio côr estynedig rhyngwladol o dan arweiniad Tim Rhys Evans. Fe fydd y perfformiad hwn yn ddiweddglo mawreddog i’r gyngerdd, fydd hefyd yn cynnwys y Neges Heddwch – uchafbwynt rheolaidd i’r ŵyl – a gyflwynir gan Only Boys Aloud: Côr y Gogledd ar ôl Gormymdaith Rhyngwladol y Cenhedloedd. Bydd y digwyddid hefyd yn rhoi llwyfan i rai o gystadleuwyr mwyaf addawol cystadleuaeth Llais y Dyfodol, sy’n cael ei gefnogi gan Pendine Park a Sefydliad Bryn Terfel.

Y cyfansoddwr, actor a’r canwr Jazz, Soul a Gospel Gregory Porter fydd yn meddiannu’r llwyfan ar ddydd Gwener 7fed Gorffennaf, ar gyfer Noson yng Nghwmni Gregory Porter. Mae’n argoeli i fod yn noson hudolus o synau esmwyth a chynnes, lle bydd y cerddor yn perfformio darnau o’i albwm diweddaraf Take me to the Alley a chlasuron eraill.

Fe fydd cystadlu’r Eisteddfod Ryngwladol yn cyrraedd penllanw dydd Sadwrn 8fed Gorffennaf gyda pherfformiad gan y gwestai arbennig The Overtones, sef grŵp harmoni lleisiol fwyaf llwyddiannus Prydain. Fe fydd enillwyr categorïau’r corau oedolion yn cystadlu am deitl Côr y Byd 2017 a Tharian Pavarotti, a bydd enillydd Pencampwr Dawnsio’r Byd ac enillwyr y categorïau dawnsio gwerin yn cael eu cyhoeddi.

Ar ddydd Sul 9fed Gorffennaf, fe fydd yr ŵyl yn tynnu at ei therfyn gyda Llanfest 2017, gwledd o gerddoriaeth gyfoes fydd yn cychwyn am 2:00yp ac yn dod i ben gyda pherfformiad gan y Manic Street Preachers ac artistiaid eraill sydd i’w cyhoeddi’n fuan. Gellir archebu tocynnau o wefan yr Eisteddfod Ryngwladol www.international-eisteddfod.co.uk.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cerddorol yr ŵyl, Eilir Griffiths: “Dw i ddim yn credu y byddai modd i ni fod yn fwy cynhyrfus am amserlen gŵyl 2017. Am y 70 mlynedd ddiwethaf mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi dod a phobl ynghyd o bedwar ban byd mewn dathliad angerddol o gerddoriaeth, dawns, diwylliant ac amrywiaeth, gan arddangos ein gwerthoedd o heddwch ac undod.

“Eleni fe fydd yr ŵyl yn ddathliad o’n hanes a’n gwerthoedd ac o’n dyfodol hefyd, wrth i ni groesawu artistiaid o gefndiroedd gwahanol sy’n mynd tu hwnt i’r hyn y byddai rhai yn ystyried i fod yn draddodiadol i’r Eisteddfod.

“Rydym yn falch bod rhaglen yr ŵyl eleni yn cwmpasu arddulliau a chenedlaethau ac yn croesi ffiniau oed, diwylliant a chredoau. Fe fydd rhywbeth at ddant pawb yn Llangollen 2017.

Dywedodd Terry Waite CBE, Llywydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen: “Ystyr y gair Eisteddfod yw ‘man cyfarfod’ a dyna’n union beth yw’r Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol.

“Bob blwyddyn ers diwedd yr Ail Ryfel Byd, mae cerddorion ac artistiaid wedi ymgasglu o bob cwr o’r byd i gystadlu a diddanu. Yr hyn sy’n gwneud yr Eisteddfod hon yn unigryw yw’r bwriad i hybu heddwch a harmoni gan ddefnyddio cerddoriaeth fel y cyfrwng i wneud hynny.

“Rwy’n aml yn dweud bod cerddoriaeth yn galluogi i harmoni dreiddio i mewn i’r enaid a heddiw, yn y byd cythryblus sydd ohoni, mae angen hynny’n fwy nag erioed. Eleni, fe fydd miloedd o bobl yn teithio unwaith eto i Langollen ar gyfer y dathliadau pen-blwydd 70ain.

“Fe fydd yr artist byd enwog Syr Bryn Terfel yn dychwelyd i ddiddanu a llawenhau ei gynulleidfa, fel y bydd Only Boys Aloud, Gregory Porter, Manic Street Preachers a gweddill y perfformwyr eclectig yn ei wneud. Mae’n argoeli i fod yn wythnos i’w chofio.

“Fy ngobaith pennaf ar gyfer y dathliad eleni yw y bydd yn ein hannog i gyd i barhau i gyflwyno harmoni a heddwch i fyd sydd ei wir angen.”

Trwy gydol yr wythnos fe fydd perfformiadau byw gan fandiau, cerddorion a pherfformwyr stryd addawol o wahanol rannau o’r byd a digonedd o weithgareddau i ddiddanu plant, yn ogystal â stondinau bwyd a diod lleol.

Gall y rhai sy’n berchen ar docyn tymor neu’n Ffrind i’r Eisteddfod archebu tocynnau o heddiw ymlaen trwy lenwi ffurflen archebu arbennig. Bydd ticedi’n mynd ar werth i’r cyhoedd am 9:00yb dydd Iau 9fed Chwefror ar www.international-eisteddfod.co.uk  neu trwy gysylltu â’r swyddfa docynnau.

I ddod yn Ffrind i’r Eisteddfod ac i dderbyn tocynnau blaenoriaeth, ewch i www.international-eisteddfod.co.uk/get-involved/become-a-friend.

Am wybodaeth a diweddariadau ar yr Eisteddfod, dilynwch @llangollen_Eist ar Twitter neu ewch i’n tudalen Facebook Llangollen International Musical Eisteddfod.