Mae crys rygbi Cymru wedi ei lofnodi gan yr hen rocars Status Quo wedi mynd am £350 mewn arwerthiant er budd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.
Roedd yr ocsiwn yn rhan o noson gerddorol yn Neuadd y Dref Llangollen yng nghwmni’r côr lleol Stage 2 Stage ac roedd y gynulleidfa gref ar eu traed mewn cymeradwyaeth erbyn y diwedd, cyn rhoi eu dwylo yn eu pocedi a chodi dros £1,700 i’r ŵyl eiconig.
Cafwyd cynigion brwd am y crys Quo ac am gartŵn wedi ei lofnodi gan y canwr-gyfansoddwr nodedig Burt Bacharach o’i gân enwog Raindrops Keep Falling On My Head a werthwyd am £210.
Roedd y cyngerdd, dan arweiniad un o hoelion wyth yr Eisteddfod Christine Dukes a dan gyfarwyddyd cerddorol Elen Mair Roberts, yn cynnwys rhaglen dwy set gan y côr lleol Stage 2 Stage a fu’n perfformio detholiad o ganeuon ffilmiau a sioeau cerdd, megis Guys & Dolls, Chicago, Evita a Breakfast at Tiffany’s.
Ar ddiwedd y perfformiad cododd y gynulleidfa ar eu traed er mwyn rhoi cymeradwyaeth wresog iddynt.
Yn yr arwerthiant ar ol y cyngerdd a oedd dan ofal Ian Lebbon, Cadeirydd Pwyllgor Marchnata’r Eisteddfod, roedd 19 eitem yn mynd o dan y morthwyl, gan gynnwys darnau o gelf oedd yn gysylltiedig â’r ŵyl ac eitemau a lofnodwyd gan berfformwyr sydd wedi serennu yn yr ŵyl yn ddiweddar fel Rufus Wainwright a Jonathan Antoine.
Mae Eisteddfod eleni, a fydd yn cychwyn ar ddydd Mawrth, 5 Gorffennaf, yn cael ei hagor gan y soprano ddawnus Katherine Jenkins, a fydd yn rhoi cychwyn gwych i’r cyngherddau nos trwy ganu Carmen gan Bizet.
Mae’r uchafbwyntiau eraill yn cynnwys y digymar Bryn Terfel yn serennu yng Nghyngerdd Gala y 70ain Eisteddfod ar y nos Iau tra bydd dydd Sadwrn yn cael ei neilltuo i’r prif gorau a bydd yn cloi gyda chystadleuaeth Côr y Byd am Dlws Pavarotti, cyn i’r Eisteddfod ymlacio’n llwyr yn y Llanfest ar y dydd Sul cyn y cyngerdd terfynol cofiadwy.