Enillydd cystadleuaeth Llais Rhyngwladol Sioe Gerdd 2018 Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Mared Williams, yn teithio i Arfordir Aur Awstralia ar gyfer perfformiad mawreddog.
Fel rhan o’i gwobr, cafodd Mared Williams, 21, o Lannefydd gyfle i ymuno â channoedd o artistiaid rhagorol eraill yn sioe Musicale, Eisteddfod yr Arfordir Aur. Mae’r sioe yn ddathliad mawreddog o sioeau cerdd ac yn un o uchafbwyntiau’r ŵyl ddawns a cherddoriaeth saith wythnos o hyd yn Awstralia.
Ar ôl hoelio sylw’r gynulleidfa a’r beirniaid gyda’i pherfformiad ar lwyfan y Pafiliwn Brenhinol Rhyngwladol fis Gorffennaf, fe deithiodd Mared dros 10,000 o filltiroedd i Awstralia ar gyfer y perfformiad unwaith mewn oes.