Cantores Gymraeg yn syfrdanu yn Awstralia

Enillydd cystadleuaeth Llais Rhyngwladol Sioe Gerdd 2018 Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Mared Williams, yn teithio i Arfordir Aur Awstralia ar gyfer perfformiad mawreddog. 

Fel rhan o’i gwobr, cafodd Mared Williams, 21, o Lannefydd gyfle i ymuno â channoedd o artistiaid rhagorol eraill yn sioe Musicale, Eisteddfod yr Arfordir Aur. Mae’r sioe yn ddathliad mawreddog o sioeau cerdd ac yn un o uchafbwyntiau’r ŵyl ddawns a cherddoriaeth saith wythnos o hyd yn Awstralia.

Ar ôl hoelio sylw’r gynulleidfa a’r beirniaid gyda’i pherfformiad ar lwyfan y Pafiliwn Brenhinol Rhyngwladol fis Gorffennaf, fe deithiodd Mared dros 10,000 o filltiroedd i Awstralia ar gyfer y perfformiad unwaith mewn oes.

Ers ennill cystadleuaeth Llais Rhyngwladol Sioe Gerdd, nid yn unig y mae’r gantores dalentog wedi bod yn teithio’r byd, mae hi hefyd wedi cychwyn gradd Meistri mewn Sioe Gerdd yn Academi Gerdd Frenhinol Llundain.

“Rwyf wastad wedi bod yn gefnogwr brwd o Eisteddfod Llangollen, yn enwedig gan i mi gael fy magu yng Ngogledd Cymru a chael cyfle i ymweld â’r Eisteddfod bob blwyddyn fel disgybl yn Ysgol Llannefydd ac Ysgol Glan Clwyd.

“Roedd hi’n uchelgais gennyf i ennill cystadleuaeth Llais Rhyngwladol Sioe Gerdd a pherfformio ar lwyfan arbennig yr Eisteddfod. Ac roedd cael cynrychioli Cymru a pherfformio ochr arall y byd, mewn rhywle mor hardd â’r Arfordir Aur, yn brofiad swreal ac yn rhywbeth wna i fyth anghofio.

“Rwy’n wirioneddol ddiolchgar i Eisteddfod Llangollen am agor gymaint o ddrysau i mi fel perfformiwr ac am ddarparu platform gwych i berfformwyr ifanc o bob cwr o’r byd.

“Buaswn yn annog unrhyw un sy’n mwynhau cerddoriaeth a pherfformio i roi tro ar gystadlu yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a mynd yno gyda’r bwriad o gael diwrnod bendigedig, yn dathlu amrywiaeth y gwahanol ddiwylliannau a chreu cysylltiadau ar draws y byd – oll wrth wneud yr hyn maen nhw’n ei garu.

“Roedd teithio i Awstralia a chael croeso mor gynnes gan drefnwyr yr Eisteddfod yn gysylltiad wna i’w drysori am byth, ac yn gyfrifol am y cyfan oedd cariad pur tuag at ganu!”

Mae Eisteddfod yr Arfordir Aur yn rhoi llwyfan i dros 70,000 o gantorion a dawnswyr, 330 o fandiau a cherddorfeydd, bron i 1,500 o grwpiau dawns a dros 3,000 o ddawnswyr unigol.

Cafodd cost taith Mared i’r ŵyl fawreddog yn Awstralia ei dalu yn llawn gan Eisteddfod yr Arfordir Aur – gwobr fydd yn cael ei gynnig unwaith eto’r flwyddyn nesaf yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2019.

Dywedodd Rheolwr Cyffredinol Eisteddfod yr Arfordir Aur, Judith Ferber: “Pleser mawr oedd croesawu Mared i’r Arfordir Aur eleni, fe gawsom ni oll ein syfrdanu gan ei pherfformiad anhygoel a’i llais melfedaidd yn ystod y Musicale. Mae ein partneriaeth gydag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn ein galluogi i ddathlu talent gerddorol ar draws y byd, oll yn ysbryd cyfeillgarwch ac angerdd at gerddoriaeth a pherfformio.

“Am y rheswm hwnnw, fe fyddwn ni’n paru gyda’r ŵyl unwaith eto yn 2019 ac yn rhoi’r cyfle i enillydd cystadleuaeth Llais Rhyngwladol Sioe Gerdd berfformio yn Eisteddfod yr Arfordir Aur 2019.”

Ychwanegodd Rheolwr Interim Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Edward-Rhys Harry: “Mae cydweithio gydag Eisteddfod yr Arfordir Aur yn fodd i ni godi ein proffil rhyngwladol hyd yn oed ymhellach, gan agor drysau i unawdwyr newydd a chyffrous, a rhoi hwb i yrfaoedd cerddorol addawol.

“Hoffem ddiolch i Judith a’r tîm am groesawu Mared, enillydd 2018, ac am unwaith eto gynnig y wobr arbennig yma i enillydd 2019.”

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eisoes wedi dechrau cymryd enwau ar gyfer categorïau grŵp 2019. Y dyddiad olaf i gofrestru ar gyfer categorïau corawl, ensemble a dawns yw dydd Gwener 23ain Tachwedd 2018. Bydd y categorïau unigol yn agor ym mis Rhagfyr 2018. Am fwy o wybodaeth, am y cystadlaethau, ewch i: www.eisteddfodcompetitions.co.uk