Cafwyd cyngerdd mawreddog i gloi Eisteddfod Gerddorol Llangollen gyda’r arwr boogie-woogie, Jools Holland, a ddisgrifiodd yr ŵyl fel “yr ŵyl orau yn y byd”.
Sêr y cyngerdd i gloi’r ŵyl eleni oedd cyn bianydd ac arweinydd y band Squeeze, yr awdur, y cyflwynydd teledu a radio a’i Gerddorfa Rhythm a Blues.
Hefyd yn perfformio yn y cyngerdd roedd y cantorion Ruby Turner a Louise Marshall a chafodd ei noddi gan un o gefnogwyr sefydledig yr ŵyl, Village Bakery. (rhagor…)