Cafwyd cyngerdd mawreddog i gloi Eisteddfod Gerddorol Llangollen gyda’r arwr boogie-woogie, Jools Holland, a ddisgrifiodd yr ŵyl fel “yr ŵyl orau yn y byd”.
Sêr y cyngerdd i gloi’r ŵyl eleni oedd cyn bianydd ac arweinydd y band Squeeze, yr awdur, y cyflwynydd teledu a radio a’i Gerddorfa Rhythm a Blues.
Hefyd yn perfformio yn y cyngerdd roedd y cantorion Ruby Turner a Louise Marshall a chafodd ei noddi gan un o gefnogwyr sefydledig yr ŵyl, Village Bakery.
Dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr Robin Jones: “Roedd yn bleser gennym noddi Eisteddfod Llangollen unwaith eto eleni, yn arbennig oherwydd bod yr ŵyl yn dathlu ei 70ain pen-blwydd.
“Roedd Jools a’i fand yn aruthrol, ac roedd yn noson gwbl wych a fydd yn byw yn y cof am amser maith iawn.
“Roedd yr awyrgylch yn drydanol ac roedd pobl yn dawnsio yn yr eiliau. Roedd yn ddiweddglo perffaith i wythnos wych yn Llangollen.
Dechreuodd Jools, a gafodd ei eni yn Llundain, chwarae yn nhafarndai dociau’r East End fel ‘greaser’ yn ei arddegau cyn arwain ei Gerddorfa Rhythm a Blues ymhen hir a hwyr a gwerthu miliynau o recordiau.
Derbyniodd OBE yn 2003 am ei wasanaethau i ddiwydiant cerddoriaeth Prydain.
Roedd Jools wedi addo y byddai’n dychwelyd i Langollen yn dilyn ei berfformiad cyntaf yn yr ŵyl dair blynedd yn ôl, ac ar ôl derbyn ei benodiad yn ddirprwy lywydd.
Meddai: “Roedd yn bleser ac yn anrhydedd derbyn gwahoddiad i fod yn ddirprwy lywydd yr ŵyl ryfeddol hon. Hon yw’r ŵyl orau yn y byd.
“Cawsom amser gwych y tro diwethaf i ni berfformio yn Llangollen, sy’n dref fach mor hardd. Roeddwn wrth fy modd gyda’r awyrgylch, y blodau, y gynulleidfa werthfawrogol a chawsom gyfle i gwrdd â phobl anhygoel. Roedd yn anrhydedd bod yn rhan o’r ŵyl.
“Cafodd yr ŵyl ei sefydlu i hybu heddwch a harmoni rhwng pob gwlad ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, ac rwy’n credu bod hynny’n wych.
“Mae safon y cerddorion a’r dawnswyr ifanc sy’n teithio o bob rhan o’r byd i gystadlu yn Llangollen yn brawf o waith caled y trefnwyr a’r gwirfoddolwyr i gynnal yr ŵyl.”
Roedd cyfarwyddwr cerddorol yr ŵyl, Eilir Owen Griffiths, yn falch iawn ei fod wedi sicrhau ail ymddangosiad Jools Holland a’i Gerddorfa Rhythm a Blues yn Llangollen.
Meddai: “Mae Jools Holland nid yn unig yn chwaraewr allweddellau a phiano ac yn ganwr gwych, mae’n berfformiwr anhygoel.
“Roedd ei berfformiad ddwy flynedd yn ôl i gloi’r ŵyl wythnos yn gwbl wych ac roedd cymaint o bobl, cefnogwyr rheolaidd yr Eisteddfod, yn holi pryd y byddem yn eu gwahodd i ddychwelyd. “Roedd hyn yn ddathliad arbennig iawn oherwydd bod yr ŵyl yn dathlu ei phen-blwydd yn 70 oed eleni…
“Roedd y gynulleidfa ar eu traed ar gyfer y caneuon olaf a chafwyd encôr a chymeradwyaeth frwd. Roedd yn noson wych.”