Yr AS Jo Cox yn ysbrydoli neges heddwch draddodiadol yr Eisteddfod

Roedd geiriau’r AS Jo Fox, a gafodd ei llofruddio, yn ganolbwynt i’r Neges Heddwch a gyflwynwyd gan fyfyrwyr o grŵp theatr y Rhos cyn i’r cystadlu ddechrau yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Bu aelodau Theatr yr Ifanc Rhos, grŵp theatr ieuenctid sydd â mwy na 60 o aelodau, yn perfformio ar y llwyfan yn y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol ddydd Mercher yn cyflwyno’r neges draddodiadol yn gofyn i’r gynulleidfa ifanc werthfawrogi safbwyntiau pobl eraill a dathlu eu gwahaniaethau.

Cafodd y gynulleidfa eu hatgoffa gan Berwyn Jones, 19 oed, o’r Rhos, o eiriau AS Llafur Batley a Spen a gafodd ei llofruddio’r mis diwethaf yn ei hetholaeth a ddywedodd ‘Mae gennym lawer mwy yn gyffredin fel pobl na’r pethau sy’n ein gwahanu ni,.

Ar ôl gadael y llwyfan, dywedodd Berwyn: “Roedd yn fraint ac yn anrhydedd cael cyflwyno’r Neges Heddwch draddodiadol i gynulleidfa Llangollen.

“Roedd yn teimlo fel rhywbeth llawer pwysicach na dim ond darllen geiriau, roeddwn yn teimlo fy mod yn dweud rhywbeth perthnasol a phwysig, yn arbennig o ystyried beth sy’n digwydd o amgylch y byd heddiw.

“Roeddwn yn teimlo’n arbennig bod geiriau’r AS Jo Cox yn berthnasol oherwydd mae gennym lawer mwy yn gyffredin gyda holl ddinasyddion y byd na’r hyn sy’n amlwg.”

0607LIME-193

Ychwanegodd: “Roedd holl aelodau Theatr yr Ifanc Rhos a gymerodd ran wrth eu boddau eu bod wedi derbyn gwahoddiad i gyflwyno’r Neges Heddwch. Roedd yn brofiad gwerthfawr a byddwn yn ei gofio am amser maith.”

Cadeirydd Theatr yr Ifanc Rhos yw Christine Dukes, sydd wedi ymddeol yn ddiweddar fel Cydlynydd Cynorthwyol Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, ac sy’n parhau i wirfoddoli yn Llangollen.

Dywedodd ei bod wrth ei bodd bod 20 o fyfyrwyr y grŵp wedi helpu i gyflwyno’r Neges Heddwch.

Meddai: “Rydym wedi mwynhau cyfnod prysur iawn yn ein blwyddyn jiwbilî arian ac roedd derbyn cais i ysgrifennu a chyflwyno’r Neges Heddwch yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn anrhydedd mawr.

“Rwy’n falch iawn o bob un o’n myfyrwyr, ac am eu perfformiad gwych. Roedd y gynulleidfa, a oedd yn blant yn bennaf, yn gwrando’n astud arnynt, ac rwy’n falch iawn o bob un o’n myfyrwyr.

“Roedd 20 o fyfyrwyr Theatr yr Ifanc Rhos yma yn cyflwyno’r Neges Heddwch, ond ar y noson Wener yng nghyngerdd Calon Llangollen, bydd 60 o’n myfyrwyr yn cymryd rhan, sy’n anrhydedd mawr arall i ni.

“Yn y cyngerdd hwnnw byddwn yn cyflwyno ein Neges Heddwch unwaith eto, mewn digwyddiad a pharti gwych yn Llangollen.

I gael gwybodaeth bellach am Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, ewch i www.international-eisteddfod.co.uk