‘Côr mwyaf amlieithog Prydain’ yn dathlu 70ain mlynedd ers sefydlu Eisteddfod Ryngwladol

Ymarferion olaf cyn perfformiad amlieithog yn cael eu cynnal ar ben-blwydd swyddogol Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen [dydd Sadwrn 11eg Mehefin].

Fe all côr o 80 o gantorion amatur fod y ‘côr mwyaf amlieithog ym Mhrydain’ wedi iddyn nhw ddysgu darnau mewn wyth iaith wahanol o fewn dim ond 10 ymarfer.

Fe fydd y ‘Corws Dathlu’ yn perfformio gwaith uchelgeisiol Calling All Dawns gan y cyfansoddwr cerddoriaeth gemau fideo enwog Christopher Tin, mewn cyngerdd yn nathliadau 70ain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar nos Fercher, 5ed Mehefin 2017.

Mae’r gwaith yn cynnwys deuddeg cân mewn ieithoedd sy’n cynnwys Farsi, Sansgrit, Swahili, Japaneaidd, Gwyddeleg a Maori, gyda’r côr amatur talentog yn canu wyth ohonynt.

Dyma’r tro cyntaf erioed i’r gwaith gael ei berfformio yn fyw o dan arweiniad Tin ac fe fydd y gynulleidfa hefyd yn clywed y gerddoriaeth i’r gêm fideo Civilisation IV, Baba Yetu – y gân fideo gyntaf i ennill gwobr Grammy.

Dywedodd cyfarwydd cerdd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Eilir Owen Griffiths: “Mewn cwta ddeg ymarfer – sy’n tua 30 awr – mae’r Corws Dathlu wedi cyflawni rhywbeth anhygoel.

“Yn ychwanegol i’w swyddi, astudiaethau a’u teuluoedd, maen nhw wedi medru meistroli nid yn unig y gerddoriaeth a’r geiriau ond y lliw, y donyddiaeth a’r ynganiad er mwyn cyfleu negeseuon y caneuon.

“Mae’n anodd credu eu bod nhw’n grŵp o bobl ddiarth ychydig wythnosau yn ôl a’u bod bellach yn gôr cyflawn. Rydym hefyd yn ffyddiog mai dyma gôr mwyaf amlieithog Prydain – os nad y byd!”

Crëwyd y côr fel rhan o ddathliadau 70ain yr ŵyl ddiwylliannol ryngwladol, sy’n dathlu ei phen-blwydd yn swyddogol ar ddydd Sul 11eg Mehefin. Cafodd yr Eisteddfod ei chynnal am y tro cyntaf yn 1947 er mwyn lleddfu effeithiau’r Ail Ryfel Byd a dod a phobl at ei gilydd trwy gerddoriaeth a dawns.

Saith deg mlynedd yn ddiweddarach, mae tua 4,000 o berfformwyr a 50,000 o ymwelwyr yn mynychu’r ŵyl i brofi’r cyfuniad unigryw o gystadlaethau a pherfformiadau ac i fwynhau’r ysbryd heddychlon a chyfeillgar.

Ychwanegodd Christopher Tin: “Mae gan neges yr Eisteddfod o heddwch ac undod gysylltiad amlwg gyda fy ngwaith Calling All Dawns, sy’n hybu’r syniad o undod rhwng pob hil, diwylliant a chrefydd”.

Trefn Rhaglen Calling All Dawns

Baba Yetu  – Swahili

Mado Kara Mieru – Japaneaidd

Dao Zai Fan Ye – Mandarin (i’w berfformio gan gôr gwadd)

Se É Pra Vir Que Venha – Portiwgeaidd (i’w berfformio gan gôr gwadd)

Rassemblons-Nous – Ffrengig

Lux Aeterna – Lladin (i’w berfformio gan gôr gwadd)

Caoineadh – Gwyddelig

Hymn Do Trójcy Świętej – Pwyleg

Hayom Kadosh – Hebreig (i’w berfformio gan gôr gwadd)

Hamsáfár – Farsi

Sukla-Krsne – Sansgrit

Kia Hora Te Marino – Maori

Eleni, mae’r Eisteddfod Ryngwladol yn cynnwys enwau mor amrywiol â Gregory Porter, Manic Street Preachers, The Overtones, Syr Bryn Terfel, Kristine Opolais a Kristian Benedikt yn Tosca, Reverend and The Makers a’r DJ BBC Radio 1 Huw Stephens, yn ogystal â miloedd o berfformwyr proffesiynol ac amatur eraill.

Am docynnau a mwy o wybodaeth am Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, cliciwch yma.