Yn dilyn wythnos o gystadlu brwd, bu i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2019 goroni Côr John’s Boys yn Gôr y Byd a Loughgiel Folk Dancers yn Bencampwyr Dawns y Byd mewn seremoni ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 6ed.
Mewn ffeinal gyffrous, cafodd Gor John’s Boys o Rosllannerchrugog eu henwi yn Gôr y Byd a’r grŵp dawns Loughgiel Folk Dancers o Ogledd Iwerddon yn Bencampwyr Dawns y Byd. Ffrwydrodd y Pafiliwn wrth i’r Gadeirydd, Dr Rhys Davies, gyhoeddi’r enillwyr.
Roedd y grŵp dawns a’u cefnogwyr wedi gwirioni o dderbyn y teitl, a bu i’r Pafiliwn cyfan ffrwydro mewn llawenydd wrth i’r cantorion lleol neidio allan o’u seddi er mwyn casglu Tarian Pavarotti, gan ddathlu a gweiddi’n uchel ynghyd ag aelodau’r gynulleidfa a chystadleuwyr eraill. Dyma’r trydydd tro yn unig i gôr Cymreig ennill y teitl.
Dywedodd Aled Phillips o Gôr John’s Boys: “Wedi misoedd o ymarfer, rydym wrth ein bodd yn derbyn y wobr fawreddog yma. Roedd yn brofiad bythgofiadwy cael perfformio mewn gŵyl mor eiconig ochr yn ochr â thalent o’r fath.
“Rydym wedi mwynhau bob eiliad o’n hamser yn Llangollen, yn perfformio ar lwyfan rhyngwladol a hefyd yn cyfarfod unigolion ysbrydoledig o bedwar ban byd. Mae awyrgylch yr Eisteddfod Ryngwladol yn annisgrifiadwy; wnawn ni fyth anghofio’r profiad o gael eich amgylchynu gan heddwch, cyfeillgarwch ac ewyllys da.
“Fe fyddwn ni’n dychwelyd gydag nid un ond dwy darian!”
Yn ystod y seremoni wobrwyo, cyflwynwyd Gwobr Jayne Davies i Mr Ramon Lijauco, Jr, o Bangkok am fod yr arweinydd fwyaf eithriadol, gwobr sy’n cael ei chyflwyno bob blwyddyn i un o arweinyddion yr holl gorau yn ffeinal Côr y Byd.
Y delynores Gymreig adnabyddus a chyn-gyfansoddwraig i Dywysog Cymru, Is-lywydd yr Eisteddfod, Catrin Finch yw un o delynorion fwyaf dawnus ac amryddawn ei chenhedlaeth, ac fe berfformiodd ar lwyfan y Pafiliwn fel rhan o adloniant y noson.
Fel perfformiwr rhyngwladol, sy’n enwog am ei chwarae gosgeiddig, fe wnaeth ymddangosiad Catrin lonni cynulleidfa’r Pafiliwn Brenhinol wrth iddi gyflwyno cerddoriaeth glasurol, a dod ag wythnos o gystadlu brwd i ben.
I gloi’r noson, fe ddaeth pawb yn y Pafiliwn ynghyd i afael dwylo a chanu Auld Lang Syne, fel sy’n draddodiadol bob blwyddyn, gan ddod a chystadlu Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2019 i ben.
Wrth siarad ar ôl y cystadlu, dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd yr ŵyl Edward-Rhys Harry, oedd wrth y llyw am y tro cyntaf eleni: “Dyma oedd cystadleuaeth syfrdanol a noson ysbrydoledig gan ein cystadleuwyr corawl.
“Yn dilyn perfformiadau hynod safonol wnaeth adael ein cynulleidfa mewn edmygedd llwyr, roedd hi’n amlwg bod gan y beirniaid ddewis anodd o’u blaenau.
“Profiad emosiynol iawn oedd gweld canlyniad misoedd o waith caled yn dwyn ffrwyth ar lwyfan y Pafiliwn Brenhinol. Roedd hi’n ddewis anodd, ond roedd gan yr enillwyr rywbeth arbennig iawn, wrth iddyn nhw arddangos emosiwn ac angerdd ym mhob nodyn a symudiad.”
Ychwanegodd Edward: “Hoffwn estyn diolch i bob un o’r grwpiau oedd yn rhan o’r gystadleuaeth eleni am eu cyfraniad eithriadol i’r ŵyl, a llongyfarch yr enillwyr ar eu buddugoliaeth.
“Mae’r Eisteddfod Ryngwladol yn denu corau safonol o bedwar ban byd i Langollen bob blwyddyn, heb eithriad eleni. Roedd y perfformiadau gan Gôr John’s Boys yn gyfareddol!”