Mae Cymru’n dal i feddwl yn rhyngwladol er gwaethaf Brexit, meddai Ysgrifennydd yr Economi yn yr Eisteddfod

Er bod Prydain wedi pleidleisio i adael Ewrop, mae Cymru’n parhau i fod yn wlad groesawus a chydwladol.

Dyna’r neges oddi wrth Ken Skates AC, sydd wedi ei benodi’n ddiweddar gan Lywodraeth Cymru fel Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith. Roedd ar ymweliad ag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ddoe (dydd Iau).

Mr Skates sy’n cynrychioli etholaeth De Clwyd, lle mae canolfan yr Eisteddfod, ac mae wedi arfer ers blynyddoedd ymweld â’r ŵyl ac yn gwasanaethau fel un o’r Is-Lywyddion.

Ar ôl bod yn Ddirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth am tua dwy flynedd, cafodd Ken gyfrifoldebau ehangach o lawer fel gweinidog ar ôl yr etholiadau yn ddiweddar i’r Cynulliad.

Yn yr Eisteddfod, aeth am daith o gwmpas y maes, ac wedyn dywedodd: “Fel rhywun o’r ardal hon, rydw i wedi ymweld yn rheolaidd â’r eisteddfod yn Llangollen am lawer o flynyddoedd. Cymaint o flynyddoedd nes nad ydw i’n gallu cofio faint, ond mae’n 20 mlynedd o leiaf.

“O ran fy mhortffolio newydd, mae’r Eisteddfod yn amlwg yn dod â budd economaidd i’r rhanbarth, yn enwedig i Ddyffryn Dyfrdwy, yn ogystal â budd diwylliannol sylweddol.

“Mae’r ŵyl eleni’n arbennig o bwysig o gofio bod angen i ni roi’r neges eglur bod Cymru, er gwaethaf Brexit, yn parhau’n wlad groesawus a gwirioneddol gydwladol.”

Wrth sôn am ei Eisteddfod ddiweddaraf, dywedodd hefyd: “Ar ôl cerdded o gwmpas y maes mae’r newidiadau bychan sydd wedi digwydd ac wedi gwella’r profiad i ymwelwyr wedi gwneud argraff arnaf.

“Er enghraifft, rydw i wedi sylwi bod rhai o’r pebyll mawr wedi cael eu symud a bod y brandio’n well, gyda’r cyfan o hyn yn cyfrannu ar fywiogrwydd cyffredinol maes yr Eisteddfod.

“Mae’n bleser bod yma eto.”

Wedyn rhoddodd Mr Skates glod i ansawdd rhaglen yr ŵyl eleni. Mae wedi cynnwys ymddangosiadau hynod lwyddiannus mewn cyngherddau min nos gan y sêr opera Bryn Terfel, Noah Stewart a Kate Aldrich, ynghyd â sêr miwsig poblogaidd fel Jules Holland a Collabro a llu o gystadlaethau miwsig a diwylliant o safon fyd-eang.

Dywedodd: “Mae’r arlwy o berfformwyr a chystadleuwyr eleni heb ei ail.”

Dywedodd Cadeirydd yr Eisteddfod Rhys Davies: “Mae bob tro’n bleser cael Ken Skates yma yn Llangollen.

“Mae o wedi bod erioed yn gefnogwr brwd i’r ŵyl ac i’n nodau ni o fod yn ddigwyddiad gwirioneddol ryngwladol lle mae Cymru’n croesawu’r byd.”