Mae’r band indie pop eiconig Kaiser Chiefs wedi cyhoeddi mai nhw fydd yn cloi gŵyl Llanfest eleni, sef dathliad olaf Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2018 ar ddydd Sul 8fed Gorffennaf yn Llangollen, Gogledd Cymru.
Dyma fydd ymddangosiad cyntaf y band yng Nghymru ers bron i ddwy flynedd ac un o’r cyfleoedd cyntaf i gefnogwyr yn y rhanbarth eu gweld yn fyw yn 2018.
Yn ymuno â’r pumawd o Leeds – a brofodd lwyddiant ysgubol gyda chlasuron fel Ruby, Oh My God ac I Predict a Riot o’r albwm Employment – mae’r band pop-roc The Hoosiers a Toploader, un o fandiau fwyaf disglair y nawdegau.
Mae Llanfest yn ddiweddglo egnïol i’r Eisteddfod Ryngwladol, sydd eisoes yn adnabyddus am ei cherddoriaeth gorawl, cyngherddau clasurol ac operatig yn ogystal â pherfformiadau jazz, gwerin, rhythm a blues. Fel un o wyliau mwyaf ysbrydoledig ag amlddiwylliannol y byd, fydd eleni’n rhedeg o 3ydd – 8fed Gorffennaf 2018, mae disgwyl y bydd yn croesawu dros 4,000 o berfformwyr a chystadleuwyr a hyd at 50,000 o ymwelwyr dros yr wythnos.
Lansiwyd Llanfest yn 2011 er mwyn cyflwyno’r Eisteddfod i gynulleidfaoedd newydd o bob cwr o’r wlad a’u denu i Langollen. Mae’r cyhoeddiad am ymddangosiad y Kaiser Chiefs yn dilyn gig wefreiddiol y band Cymreig Manic Street Preachers y llynedd, wnaeth godi to’r pafiliwn rhyngwladol.
Bydd tocynnau yn mynd ar werth i ddeiliad Tocynnau Gŵyl a Ffrindiau’r Eisteddfod am 9yb dydd Mercher, 7fed Mawrth 2018. Bythefnos wedi hynny, fe fydd tocynnau yn mynd ar werth i weddill y cyhoedd ar ddydd Iau 22ain Mawrth. Os yw cefnogwyr eisiau manteisio ar y cyfnod blaenoriaeth archebu, fe ellir gwneud hynny trwy gofrestru i ddod yn Ffrind i’r Eisteddfod nawr neu cyn 22ain Mawrth.
Disgwylir i’r Kaiser Chiefs, wnaeth gyrraedd rhif un yn y siartiau Prydeinig gyda dau albwm gwahanol, gyflwyno diweddglo tanllyd i Llanfest wrth iddyn nhw berfformio clasuron indie fel Every Day I Love You Less and Less a The Angry Mob. Fe fydden nhw hefyd yn rhoi blas i’r gynulleidfa o ganeuon o’u halbwm diweddaraf, Stay Together, a gynhyrchwyd gan Brian Higgins ac a fu eu pumed albwm i gyrraedd y pump uchaf yn y siartiau.
Ar gyfer y digwyddiad, fe fydd seti cefn y pafiliwn yn cael eu symud oddi yno er mwyn cynyddu’r niferoedd i fwy na 5,200 a gwneud lle i un o gyngherddau mwyaf erioed yr ŵyl.
Dywedodd prif leisydd y Kaiser Chiefs, Ricky Wilson, wrth drafod y cyhoeddiad: “Dw i wedi clywed bod Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn enwog am ei pherfformiadau cerddorol amgen sy’n hybu neges o heddwch a chyfeillgarwch rhyngwladol ac yn uno pobl trwy gerddoriaeth – mae’n dipyn o lond ceg, ond allwn ni ddim dadlu â hynny. Mae’n swnio fel y math o beth y dylai’r Kaiser Chiefs fod yn rhan ohono. Yn ysbryd yr ŵyl, fedrwn ni ddim aros i berfformio yn Llanfest ac yn y pafiliwn rhyngwladol yr haf yma.
“Fe fydd ‘na lwyth o berfformwyr eraill yno hefyd, oll yn cefnogi’r ethos o heddwch a chyfeillgarwch rhyngwladol. Efallai ei fod yn dipyn o her i ŵyl, ond mae’n le gwych i ddechrau.”
Ychwanegodd gitarydd Toploader, Dan Hipgrave: “Rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan o raglen anhygoel Llanfest 2018. Mae’r Eisteddfod Ryngwladol yn ddigwyddiad sy’n dod â chymaint o genres cerddorol at ei gilydd ac rydym yn falch o fod yn rhan o’r cyffro.”
Bydd Toploader, sydd fwyaf adnabyddus am eu fersiwn o Dancing In the Moonlight o 2000, yn perfformio caneuon o’u halbwm diweddaraf o 2017 Seeing Stars. Yn ymuno a nhw ar y rhaglen mae The Hoosiers, fydd yn dychwelyd i’r llwyfan ddegawd a mwy ar ôl llwyddiant ysgubol eu halbwm cyntaf, The Trick to Life, oedd yn cynnwys ffefrynnau fel Worried About Ray and Goodbye Mr. A.
Yn ôl cadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Dr Rhys Davies: “Pwrpas gwreiddiol yr Eisteddfod Ryngwladol oedd lleddfu effeithiau’r Ail Ryfel Byd ac uno cymunedau rhyngwladol trwy gerddoriaeth a dawns yn ysbryd cyfeillgarwch a heddwch rhyngwladol.
“Pwrpas Llanfest yw lledaenu’r neges hon i gynulleidfa ehangach wrth ddod a genres cerddorol cyfoes i’r ŵyl, gan barhau i fod yn driw i’r gwerthoedd traddodiadol.
“Nid am eu caneuon indie poblogaidd yn unig mae’r Kaiser Chiefs yn adnabyddus, ond hefyd am eu hysbryd cerddorol anturus a’u gallu i ailddyfeisio – yn fwyaf diweddar gyda’r newid naws ar eu halbwm Stay Together.
“Yn cwblhau’r rhaglen mae dau fand eiconig o’r 2000au sydd wedi llwyddo i gyffwrdd cenhedlaeth gyfan gyda’u caneuon indie-pop. Mae’r digwyddiad yn sicr o uno miloedd o bobl wrth iddyn nhw fwynhau diweddglo egnïol i ŵyl 2018.
Noddwyd Llanfest 2018 gan Knights Construction Group.
I brynu tocynnau cliciwch yma neu cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01978 862001.
I ddod yn Ffrind i’r Eisteddfod a manteisio ar y cyfnod blaenoriaeth archebu tocynnau, ffoniwch 01978 862001.