Corff yn cael ei enwebu am Wobr Heddwch Rhyngwladol y Rotari, sy’n cydnabod mentrau heddwch Prydeinig a rhyngwladol
Mae corff a sefydlwyd i gefnogi a gwarchod ffoaduriaid yng Nghymru wedi cael ei enwebu am wobr heddwch rhyngwladol.
Yn sgil ei waith i hybu goddefgarwch a pharch tuag at ffoaduriaid, mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi ei enwebu am Wobr Heddwch Rhyngwladol y Rotari. Mae’r corff hefyd yn rhoi pwyslais ar rymuso ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ail-adeiladu eu bywydau yng Nghymru.
Fe fydd enillydd y wobr yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen – enillydd y wobr gyntaf un y llynedd – ar ddydd Llun 3ydd Gorffennaf yn ystod Cyngerdd Agoriadol dathliadau 70ain yr ŵyl.
Hefyd wedi’i enwebu mae canolfan y British Ironworks gyda’r prosiect Save a Life, Surrender Your Knife sy’n hybu parch a goddefgarwch tuag at ffoaduriaid; Sefydliad Heddwch Tim Parry Johnathan Ball; a Médecins Sans Frontières am ei bolisi témoignage – sy’n annog codi llais er mwyn lleihau dioddefaint a gwarchod bywyd dynol.
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Salah Mohamed: “Rydym wedi bod yn siarad ar ran y rhai sy’n ffoi rhag erledigaeth, gwrthdaro a gorthrwm am fwy na 25 mlynedd ac yn gweithio yn galed i greu cymdeithas lle mae parch a chydraddoldeb yn cael ei ddangos tuag at bawb.
“Rydym yn falch iawn o gael ein henwebu ar gyfer y wobr hon ac yn edrych ymlaen yn arw at y seremoni’r mis nesaf”.
Y beirniaid eleni fydd y cyflwynydd teledu a llysgennad y Groes Goch, Konnie Huq; Richard Hazlehurst o Ganolfan Heddwch Bradford a Llywydd yr Eisteddfod Ryngwladol, Terry Waite.
Cafodd y Wobr Heddwch gyntaf gan y Rotari ei chyflwyno yn 2016 i Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen – dathliad blynyddol o gerddoriaeth, dawns a heddwch a sefydlwyd yn 1947 fel modd o leddfu effeithiau’r Ail Ryfel Byd.
O’r flwyddyn yma ymlaen, fe fydd y wobr yn cael ei chyflwyno ar lwyfan yr ŵyl a bydd yr Eisteddfod yn cyd-weithio gyda sefydliad y Rotari i sicrhau bod y wobr yn cael cydnabyddiaeth a bri rhyngwladol.
Gan fod mentrau heddwch yn dod mewn sawl ffurf wahanol, y prif agweddau fydd yn cael eu hystyried gan y panel beirniadu yw budd cyhoeddus y prosiect, enw da a hirhoedledd y sefydliad ac effaith ei waith.
Yn ôl Terry Waite, Llywydd yr Eisteddfod Ryngwladol: “Mae cydnabod unigolion a sefydliadau sy’n gweithio’n ddiflino i hybu heddwch a dealltwriaeth yn fwy pwysig nag erioed.
“Mae neges yr ŵyl yn hefyd yn fwy perthnasol a phwysig nag erioed gan ei fod yn hybu heddwch rhyngwladol trwy arddangos y mwynhad a ddaw o ganu a dathlu bywyd gyda’n gilydd.
“Fe ddylai bod pwyslais rhyngwladol ar undod rhyngwladol, sef un o brif negeseuon yr Eisteddfod. Yn yr ŵyl mae diwylliant, gwleidyddiaeth a chrefydd yn cymryd sedd gefn ac mae cerddoriaeth a dawns yn dod a phobl at ei gilydd yn ysbryd cyfeillgarwch”.
Ychwanegodd Molly Youd o Rotari Rhyngwladol: “Rydym yn croesawu’r bartneriaeth newydd gyda’r Eisteddfod Ryngwladol a’r sefydliadau uchel ei bri sydd wedi cael eu henwebu.
“Mae uno proffil dyngarol a rhyngwladol y Rotari gyda neges heddychlon yr ŵyl a’r enwebeion eithriadol ar y rhestr fer eleni yn golygu y byddwn yn medru sicrhau dyfodol llewyrchus i’r wobr.”
Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a Gwobr Heddwch Rhyngwladol y Rotari, cliciwch yma