Mae Eisteddfod Llangollen yn gwahodd pobl i ddathlu lansiad ei hymgyrch codi arian #EichLlangollen fel rhan o Wythnos Genedlaethol Codi Arian (20fed – 24ain o Fai) gyda digwyddiad am ddim yn Sgwâr Canmlwyddiant y dref ar ddydd Sadwrn 25ain o Fai rhwng 11yb-4yp.
Nod #EichLlangollen yw codi ymwybyddiaeth o statws elusennol yr Eisteddfod Ryngwladol a pha mor hanfodol yw rhoddion i gynnal yr ŵyl unigryw hon ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Gall ymwelwyr ymuno yn yr hwyl am ddim ar Sgwâr Canmlwyddiant, a fydd yn cynnwys adloniant gan amrywiaeth o berfformwyr, fel grŵp drymio egniol Karamba Samba o Gaer, canwr-cyfansoddwr Leonie Anne Kirby, ac artistiaid geiriau llafar, Voicebox. Gallant hefyd brynu tocynnau raffl er mwyn ceisio ennill gwobrau arbennig sydd wedi’u cyfrannu’n hael gan fusnesau lleol, ac sy’n cynnwys profiadau glampio, sba a bwyta allan gyda’r bwriad o gefnogi nod y digwyddiad o godi arian ar gyfer yr Eisteddfod.
Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, a sefydlwyd yn 1947, yn denu rhai o artistiaid a cherddorion mwyaf blaenllaw’r byd i’r dref hardd yng ngogledd Cymru am wythnos o ddathliad. Mae Eisteddfod Llangollen, sydd wedi’i gwreiddio’n gadarn yn y gymuned leol, yn elusen sydd â neges unigryw o annog harmoni ac ewyllys da rhyngwladol drwy’r celfyddydau creadigol.
Dywedodd Cadeirydd yr Eisteddfod, Dr Rhys Davies, “Rydym yn croesawu’r byd i Gymru bob blwyddyn ac rydym yn gwybod bod holl gymuned Llangollen yn falch eithriadol o’r Eisteddfod Ryngwladol. Fel gyda phob elusen, rydym yn dibynnu’n drwm ar roddion elusennol ac rydym yn lansio ymgyrch codi arian #EichLlangollen i godi arian pwysig tra hefyd yn tynnu sylw at berfformwyr anhygoel ein gŵyl yn 2019.
“Yn y digwyddiad ar Sgwâr Canmlwyddiant ar y dydd Sadwrn, gall ymwelwyr fwynhau perfformiadau am ddim, prynu tocynnau i’r ŵyl, a rhoi cyfraniad ariannol yn hwylus.”
Gan ddechrau ar ddydd Llun yr 20fed o Fai, nod Wythnos Codi Arian y Trydydd Sector yw amlygu pwysigrwydd codi arian i elusennau a sefydliadau dielw. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Eisteddfod Llangollen wedi dibynnu’n gynyddol ar gefnogaeth gwirfoddolwyr, nawdd a rhoddion er mwyn llwyfannu’r digwyddiad o safon ryngwladol yma.
Gall pobl nad ydynt yn gallu mynychu digwyddiad #EichLlangollen ar ddydd Sadwrn y 25ain o Fai barhau i ddangos eu cefnogaeth trwy wneud cyfraniad ariannol:
Bydd negeseuon testun yn costio swm y rhodd a ddewiswyd ynghyd â chost un neges cyfradd rhwydwaith safonol. Bydd y tâl hwn yn cael ei gymryd o’ch credyd Talu wrth Fynd neu’n cael ei ychwanegu at eich bil ffôn symudol misol.
Gellir prynu tocynnau ar gyfer gŵyl eleni ar-lein yn www.llangollen.net neu drwy’r swyddfa docynnau ar 01978 862001.