Eisteddfod ryngwladol yn blaguro ar ôl derbyn 8,000 o flodau gan gwmni o Lerpwl

Siop flodau yn Lerpwl fu’n brysur yn paratoi blodau ar gyfer yr arddangosfa enwog llwyfan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen

Mae siop flodau ar Edge Lane, Lerpwl wedi darparu Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gyda 8,000 o flodau ar gyfer creu’r arddangosfa lwyfan i gyngherddau’r ŵyl, sydd eleni’n dathlu 70ain mlynedd ers sefydlu.

Rhoddodd F & H Flowers, sydd wedi’i leoli ym Marchnad Flodau Lerpwl ar Edge Lane, y planhigion i bwyllgor blodau’r Eisteddfod ar ddydd Sadwrn 1af Gorffennaf. Ar ôl cael eu casglu, cafodd y blodau eu gosod gan dîm o wirfoddolwyr a fu’n gweithio drwy’r penwythnos i osod pob coesyn yn ei le.

Cychwynnodd yr arferiad o addurno prif lwyfan yr Eisteddfod Ryngwladol gyda blodau yn yr ŵyl gyntaf un yn 1947. Bryd hynny, rhoddwyd ychydig o flodau mewn jariau jam er mwyn cuddio polion y babell. Dros y 70 mlynedd ddiwethaf, mae’r arferiad – a nifer y blodau – wedi tyfu, gyda’r arddangosfa yr un mor enwog â’r ŵyl erbyn hyn.

Mae’r dasg anferth o lunio’r arddangosfa yn cychwyn gyda thorri a chasglu gwyrddni o goed pinwydd thwia. Yna, mae strwythur yr arddangosfa’n cael ei godi ar y llwyfan a’r blychau yn cael eu llenwi â dŵr. Y cam olaf yw rhoi cyfrifoldeb i bob gwirfoddolwr dros ddarn penodol o’r arddangosfa.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor blodau, Jane Williams: “Mi wnaethon ni gael ein dargyfeirio wrth gasglu’r blodau ddydd Sadwrn yn sgil twll mawr yn ffordd Edge Lane – ond wnaeth hynny ddim ein rhwystro ni rhag dod a phob un o’r 8,000 o flodau yn ôl i Langollen mewn trelar.

“Mae hi wedi bod yn benwythnos prysur i’r tîm o wirfoddolwyr ymroddgar ac mae’r arddangosfa yn edrych yn hyfryd. Allwn ni ddim disgwyl i’w dangos nos Lun.”

Bydd y blodau yn cael eu harddangos am y tro cyntaf ar nos Lun 3ydd Gorffennaf yng nghyngerdd agoriadol dathliadau 70ain yr Eisteddfod. Mi fydd yr arddangosfa yn gefndir arbennig i gyngerdd gan gorau meibion Dyffryn Colne, Froncysyllte (Fron), Rhosllanerchrugog (Rhos) a Chanoldir; y band pres llwyddiannus Cory Brass Band; yr arweinydd Owain Arwel Hughes CBE; yr unawdydd ewffoniwm David Childs; ac enillydd Llais y Dyfodol 2015 Meinir Wyn Roberts.

Drwy gydol yr wythnos, fe fydd y blodau hefyd yn rhannu llwyfan gydag artistiaid byd-enwog fel Syr Bryn Terfel yn opera Puccini, Tosca; y canwr jazz a soul Gregory Porter; y grŵp harmoni The Overtones; a’r cyfansoddwr Americanaidd, Christopher Tin.

Am docynnau a mwy o wybodaeth am Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, cliciwch yma.