Annog cefnogwyr i brynu eu ticedi mewn da bryd, yn dilyn gwerthiant uchel ar docynnau i berfformiad y canwr jazz a gospel enwog yn Eisteddfod Llangollen yr haf hwn.
Mae cefnogwyr y canwr jazz, soul a gospel byd enwog Gregory Porter yn cael eu hannog i archebu ticedi ar gyfer ei gig yn Eisteddfod Llangollen, wedi iddo gadarnhau mae dyma fydd ei unig berfformiad yng Ngogledd Cymru a’r Gogledd Orllewin eleni.
Dyma fydd ymddangosiad cyntaf yr enillydd Grammy yng Ngogledd Cymru, ac mae gwerthiant y ticedi wedi bod yn uchel iawn ers y cychwyn. Ond mae’r newydd mai hwn fydd ei unig berfformiad yng ngogledd orllewin Prydain yn 2017 wedi achosi hwb ychwanegol yn y gwerthiant.
Bydd y canwr a’r cyfansoddwr byd enwog yn camu i’r llwyfan ar 7fed Gorffennaf, fel rhan o ddathliadau 70ain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Ar y noson, sy’n cael ei noddi gan gwmni Linguassist, fe fydd Porter a’i fand talentog yn perfformio traciau o’i albwm diweddaraf Take Me to the Alley yn ogystal â hen ffefrynnau.
Dywedodd Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Llangollen: “Mae’n dipyn o anrhydedd i lwyfannu unig berfformiad Gregory yn y gogledd orllewin eleni. Ers i’r tocynnau fynd ar werth, maen nhw wedi bod yn gwerthu’n andros o dda ac mae’r cyhoeddiad hwn wedi ennyn hyd yn oed mwy o ddiddordeb.
“Bydd ei ymddangosiad yn yr Eisteddfod, sef ei ymddangosiad cyntaf erioed yng ngogledd Cymru, yn brawf o ba mor amrywiol yw rhaglen yr wythnos a sut mae’r Eisteddfod yn medru denu artistiaid penigamp o bob genre i’w llwyfan.
“Mi fydd yn berfformiad hudolus mewn lleoliad godidog, ac rydym yn annog cefnogwyr i archebu eu tocynnau ar frys”.
Ychwanegodd Michelle Edwards o gwmni Linguassist, sy’n noddi’r noson: “Fel noddwyr newydd i’r Eisteddfod, mae’n bleser bod ynghlwm ag un o gyngherddau fwyaf poblogaidd yr ŵyl eleni.
“Rydym yn falch iawn i fod yn rhan o gymuned Llangollen ac mae’r cyfle hwn i noddi yn adeiladu ar ein cefnogaeth o ddigwyddiadau lleol, fel y Llangollen Fringe. Allwn ni ddim meddwl am ffordd well o ddathlu pen-blwydd 70ain yr Eisteddfod na mewn noson gyda’r anhygoel Gregory Porter.”
Disgwylir i’r noson arddangos cymysgedd o synnau jazz a soul pwerus, gyda chaneuon sy’n llawn mynegiant ac ystyr ar drefniannau cerddorol deallus. Bydd hefyd yn dangos gallu Porter i gyfuno cryfder, calon, awdurdod a bregusrwydd yn ei berfformiadau arbennig.
Fe fydd y gyngerdd nos Wener yn dilyn wythnos o gerddoriaeth, dawns, dathliadau a hwyl teuluol – gyda pherfformiadau gan Syr Bryn Terfel, Kristine Opolais a Kristian Benedikt yn Tosca; Christopher Tin a Chorws Dathlu Llangollen yn hanner cyntaf yr wythnos; a’r Overtones; Manic Street Preachers; Reverend and The Makers a’r DJ BBC Radio 1 Huw Stephens yn cloi.
Hefyd ar y cae, fe fydd gweithgareddau teuluol o ‘Adrodd Straeon Chwedlonol’, sgiliau syrcas a gweithdai swigod i grefftau ac offerynnau cerddorol mewn dwy ‘Babell Blant’.
Am fwy o wybodaeth neu i brynu ticedi i ddathliadau 70ain yr Eisteddfod, gan gynnwys Llanfest, cliciwch yma.