Mae Eisteddfod Llangollen yn dathlu naw blynedd o’i Phrosiect Cynhwysiad drwy gomisiynu darn newydd i’w berfformio ac enwebiad am Wobr fawreddog Celfyddydau a Busnes Cymru.
Bydd y prosiect, sy’n hyrwyddo undod, amrywiaeth a hygyrchedd i bawb, yn dychwelyd i brif lwyfan yr ŵyl ddydd Mercher 5ed o Orffennaf gyda darn newydd, wedi’i gomisiynu’n arbennig o’r enw Creu Tonnau.
Yn cael ei berfformio gan The KIM Choir o Dreffynnon, SCOPE Flamenco Group o Gaer, WISP Dance Club o’r Wyddgrug ac Amigos y Gymuned o Wrecsam, mae Creu Tonnau yn canolbwyntio ar emosiwn rhydd y môr a sut y gallai gysylltu pobl o wahanol gefndiroedd o lan i lan. Fe’i hysgrifennwyd gan y bardd Aled Lewis Evans gyda mewnbwn gan aelodau o’r pedwar grŵp.
Mae’r grwpiau’n cynrychioli cymysgedd amrywiol o’r gymuned leol ac ni fyddent fel arfer yn cael y cyfle i berfformio mewn digwyddiad fel yr Eisteddfod. Mae’r grwpiau i gyd wedi goresgyn heriau gwahanol i fod yn rhan o’r prosiect, fel dysgu i ganu mewn côr am y tro cyntaf, canu mewn ail iaith ac mae gan aelodau amrywiaeth o anableddau corfforol, anghenion dysgu arbennig a materion iechyd meddwl, a bydd myfyrwyr o Brifysgol Caer yn ymuno â nhw fel cynorthwywyr dawns yn ogystal â phedwarawd llinynnol o Brifysgol Bangor.
Wedi ymrwymo i hyrwyddo cynhwysiad ac amrywiaeth yn y celfyddydau perfformio, mae ScottishPower Foundation, a ariannodd prosiect Fel Un y llynedd, wedi’u cynnwys ar y rhestr fer yn y categori Cymunedol yng Ngwobrau Celfyddydau a Busnes Cymru, sy’n cael eu cynnal ddydd Gwener 23 Mehefin – dau ddiwrnod yn unig cyn ymarfer terfynol y prosiect cyfredol.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cerddorol Eisteddfod Llangollen, Eilir Owen Griffiths: “Mae hyrwyddo cyfleoedd i bawb a lleihau anghydraddoldeb o ran cyfleoedd yn graidd i ethos yr Eisteddfod Ryngwladol, yn ogystal â bod yn rhywbeth rwyf yn hynod angerddol amdano. Dyna pam mae’r Prosiect Cynhwysiad mor agos at fy nghalon.
“Diolch i gefnogaeth ac arian parhaol ScottishPower Foundation mae’r Prosiect Cynhwysiad wedi gallu parhau ei waith da a galluogi pobl o bob llwybr bywyd i berfformio ar lwyfan yr Eisteddfod.
“Bob blwyddyn rydym yn gweithio gyda phobl angerddol, gweithgar a thalentog ac mae ein henwebiad am y wobr yn destament i hyn. O ystyried yr ymarfer diweddar, sef y tro cyntaf i’r grwpiau i gyd ddod ynghyd; nid yw eleni’n eithriad i’r rheol honno.
“Mae enwi ScottishPower Foundation ar restr fer Gwobr Gymunedol Celfyddydau a Busnes Cymru yn fraint anhygoel i Eisteddfod Llangollen.”
Ychwanegodd Ann McKechin Swyddog Gweithredol ac Ymddiriedolwr ScottishPower Foundation: “Mae ScottishPower Foundation wedi ymrwymo i gefnogi’r Celfyddydau a Diwylliant ac ar ddathliad pen-blwydd 70 Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen rydym yn falch iawn o ariannu Creu Tonnau.
“Mae’r prosiect wedi dod â grwp ynghyd gydag ystod amrywiol o alluoedd a byddant yn perfformio’r darn a gomisiynwyd yn arbennig, a hynny ar brif lwyfan yr ŵyl.”
Cyfansoddwyd Creu Tonnau gan Owain Llwyd, ac mae’r perfformiad wedi cael ei goreograffu gan Angharad Harrop, gyda Leslie Churchill Ward fel Cyd-lynydd Artistig.
Yn siarad am ei rhan yn y Prosiect Cynhwysiad, dywedodd Leslie: “Rwyf wedi bod yn rhan o’r Prosiect Cynhwysiad ers 2010 pan gefais y fraint o gael fy ngwahodd i gymryd rhan gan Christine Dukes, un o sylfaenwyr y prosiect. Fe wnes syrthio mewn cariad ar unwaith gydag Eisteddfod Llangollen.
“Mae dod â phobl ynghyd drwy gerddoriaeth a’r celfyddydau perfformio’n rhywbeth rwyf yn teimlo’n angerddol iawn amdano ac mae gweithio gyda chymaint o grwpiau talentog ac ysbrydoledig bob amser yn uchafbwynt pendant i fy mlwyddyn.
“Gyda chymorth gan yr Eisteddfod Ryngwladol a ScottishPower Foundation, mae’r prosiect wedi tyfu’n fwy bob blwyddyn.
“Eleni, yn ogystal â gallu comisiynu cerddoriaeth ar gyfer ein perfformwyr, rydym hefyd wedi gallu croesawu cerddorion byw ar y llwyfan i gyfeilio i ni. Rwyf yn edrych ymlaen yn arw i weld ymateb y gynulleidfa i berfformiadau teimladwy ein cyfranogwyr – rwyf yn gwybod y byddant dan deimlad.”
Dewch i gyfarfod Perfformwyr Prosiect Cynhwysiad 2017…
KIM Choir
Mae’r KIM Choir yn rhan o sefydliad gwirfoddol KIM, sy’n cynnig gweithgareddau grwp i ferched sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi gydag iechyd meddwl gwael. Mae’r sefydliad yn annog ei aelodau i gydnabod eu sgiliau a’u cryfderau drwy gefnogaeth gadarnhaol a pharhaus, ac yn helpu unigolion i wella o amrywiaeth o faterion iechyd meddwl ac yn eu helpu i ail-integreiddio i’w cymunedau.
SCOPE Flamenco Group
Mae’r SCOPE Flamenco Group yn grwp o oedolion gydag amrywiaeth o anableddau sy’n cyfarfod yn wythnosol yn Blacon yng Nghaer i ddawnsio’r Flamenco a chwarae rhythmau Flamenco, gan ddod â grwp amrywiol o bobl at ei gilydd.
WISP Dance Club
Mae WISP Dance Club yn cyfarfod yn wythnosol yn yr Wyddgrug i fwynhau dawns a symud gyda ffrindiau ac i amlygu sgiliau pob un o’i aelodau. Gan weithio gyda phobl ifanc gydag amrywiaeth o anghenion dysgu arbennig neu anawsterau dysgu, mae WISP Dance Club yn creu ac yn perfformio dawnsfeydd ar draws Gogledd Orllewin a gogledd Cymru.
Amigos y Gymuned
Gan weithio’n agos gyda’r gymuned Portiwgaleg yn Wrecsam ac aelodau o Hafal, sefydliad sy’n gweithio gydag unigolion sy’n gwella o faterion iechyd meddwl difrifol a’u teuluoedd, nod Amigos y Gymuned yw integreiddio ei aelodau’n llawn gyda’r gymuned leol drwy ddysgu’r iaith Gymraeg, gweithgareddau cymdeithasol a sgiliau bywyd.
Am ragor o wybodaeth neu i brynu tocyn ar gyfer 70ain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, gan gynnwys y perfformiad cyntaf erioed o Creu Tonnau, cliciwch yma.