
Ar ddiwrnod cyntaf 70ain Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen hanesyddol, dadorchuddiodd ei lywydd, sef yr ymgyrchydd heddwch nodedig, Terry Waite blac ar y maes lle cynhaliwyd yr ŵyl am y tro cyntaf.
Llwyfannwyd Eisteddfod 1947 ar beth yw cae chwarae Ysgol Dinas Brân yn Llangollen erbyn hyn. Ei nod oedd helpu lleddfu creithiau’r Ail Ryfel Byd a orffennodd dim ond ddwy flynedd yng nghynt.
Cafodd ei gynnal yno am y degawd nesaf hyd nes i’r ŵyl haf flynyddol symud i’r Pafiliwn Rhyngwladol hynod fodern newydd a gafodd ei godi’n arbennig ym Mhenddol gerllaw.
Er mwyn nodi pen-blwydd yr ŵyl, sy’n rhedeg drwy’r wythnos tan ddydd Sul, yn 70 oed, dadorchuddiwyd plac coffau ar yr hen safle gan Mr Waite.
Yng ngwir ysbryd y ddealltwriaeth ryngwladol y mae’r Eisteddfod yn enwog amdani, cafodd ei helpu gan y llysgennad heddwch o Albania, Fitim Mimari, oedd yn gwneud ymweliad arbennig â’r ŵyl.
Ac er mawr syndod, croesawyd y cysylltiadau agos gydag Ysgol Dinas Brân, pan alwodd Mr Waite ar un o’i disgyblion ieuengaf i roi help llaw wrth dynnu’r faner genedlaethol oddi ar y plac newydd.
Rhoddwyd y darn o lechen Gymreig hardd yn dwyn yr arysgrif yn arbennig gan Ogofau Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog. Saif ar blinth o dywodfaen Rhosymedre a wnaeth un tro ffurfio rhan o waliau Ysbyty Bwthyn newydd ei ddymchwel Llangollen. Rhoddwyd hwnnw ar y cyd gan gwmnïau Cynfen o Ddinbych a K&C Construction o Fae Cinmel, sy’n adeiladu tai cymdeithasol ar y safle.
Gan fod prosiect y plac wedi cael cymorth ariannol gan Gyngor Tref Llangollen, roedd y Maer lleol Mike Adams ymhlith y cynulliad mawr o bobl bwysig iawn a wyliodd y seremoni ochr yn ochr â channoedd o blant yn chwifio baneri o Ysgol Dinas Brân a dwy ysgol gynradd y dref, Ysgol y Gwernant ac Ysgol Bryn Collen.
Dywedodd Dr Rhys Davies, cadeirydd yr Eisteddfod: “Syniad y seremoni heddiw yw nid yn unig cofio’r ffaith fod Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol gyntaf Llangollen wedi’i chynnal yma ar y cae hwn, ond hefyd er mwyn codi ymwybyddiaeth o arwyddocâd y safle, yn enwedig i ddisgyblion Ysgol Dinas Brân a fydd yn pasio’r plac hwn ddwywaith y dydd ar eu ffordd i’r bws ysgol.”

Cychwynnwyd y seremoni dadorchuddio gyda ffanffer dyrchafol gan ensemble pres yr ysgol ei hun a chafwyd rhagor o gerddoriaeth gan ferched côr Bishop Anstey High School o Port of Spain yn Nhrinidad a ganodd ddwy gân fel rhagarweiniad i’w hymddangosiad yng nghystadlaethau cerddorol yr Eisteddfod yn nes ymlaen yn yr wythnos.
Cyn dadorchuddio’r plac, dywedodd Terry Waite a dreuliodd bedair blynedd fel gwystl grŵp o frawychwyr o’r Dwyrain Canol: “Rydym wedi bod yn cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf a Brwydr y Somme eleni, lle cafodd bron i 20,000 o filwyr Prydain a’r Gymanwlad eu lladd mewn un diwrnod yn unig.
“Dyna gost rhyfela, ond mae rhyfeloedd yn parhau i ddinistrio bywydau, eiddo a heddwch hyd heddiw.
“Efallai y bydd rhai’n dweud ein bod ni bellach yn rhan o drydydd rhyfel byd ond un o fath gwahanol lle gall gweithredoedd terfysgol ddigwydd mewn unrhyw ran o’r byd gan achosi anhrefn llwyr i fywydau’r bobl sy’n cael eu heffeithio ganddynt.
“Cofiwn yn y seremoni hon am bobl Llangollen a oedd yn benderfynol, yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, i ddefnyddio pa bynnag roddion oedd ganddynt i hyrwyddo heddwch a dealltwriaeth ymhlith pobl o wahanol ddiwylliannau a chrefyddau.
“Dros y blynyddoedd, mae cerddoriaeth wedi dod â phobl at ei gilydd ac wedi cael effaith ddofn ymhell y tu hwnt i ffiniau Llangollen.
Ychwanegodd: “Fy neges i i’r bobl ifanc fan hyn yw credu mewn heddwch a pheidio â chredu nad oes dim y gallwch ei wneud i’w gyflawni.
“Mae’r bobl o’r ardal gymharol fach hon o Gymru wedi cael effaith o gwmpas y byd.”
Chwiliodd Mr Waite am un o’r plant ysgol ieuengaf oedd yn gwylio ac fe’i gwahoddwyd i ymuno yn y dadorchuddio.
Yn ddiweddarach, dywedodd y ferch a ddewiswyd, sef Alyssa Nash, 11 oed o’r Waun, sydd ym mlwyddyn chwech yn Ysgol Dinas Brân: “Cefais sioc ei fod wedi fy newis i o flaen y lleill.

“Roedd hi ychydig yn frawychus cael fy enw wedi’i alw allan o flaen pawb ond mae’n rhywbeth na fydda i fyth yn anghofio.”
Ymhlith y dorf oedd yn gwylio oedd Les Potts, 84 oed o Langollen a oedd yn yr Eisteddfod gyntaf ym 1947 fel gwirfoddolwr ifanc.
Dywedodd: “Roedd hi’n wych gweld y plac yn cael ei ddadorchuddio.
“Roeddwn i yn yr Eisteddfod gyntaf honno gyda’m tad, Robert, a oedd hefyd yn un o’r gwirfoddolwyr cyntaf.
“Roeddwn i’n gweithio fel rhyw fath o was bach, yn mynd â negeseuon o gwmpas y maes gan nad oedd unrhyw ffonau i’w cael bryd hynny.
“Gweithiais ar y gât allanol hefyd. Roeddem yn defnyddio stamp rwber i farcio breichiau’r bobl oedd yn mynd i mewn ac allan. Roedd hynny cyn i rai o’r gwragedd gwyno fod yr inc yn dod i ffwrdd ar eu ffrogiau a bu’n rhaid i ni ddechrau cyhoeddi tocynnau ystafell gotiau yn lle hynny.
Yn ogystal, roedd Mavis Evans o Langollen yno, sydd heb golli Eisteddfod ers iddi fynychu’n ferch ysgol 15 oed ym 1947. Dywedodd: “Roedd hi mor gyffrous bryd hynny i weld y coetsis a’r siarabangau’n cyrraedd a’r trenau dan eu sang o gantorion a dawnswyr.
Rydw i wedi byw yn Llangollen erioed ac felly rydw i wedi bod yn rhan o bethau erioed ac roedd fy nhad yn warantwr i’r Eisteddfod gyntaf rhag ofn y byddai’n methu ond diolch byth, wnaeth hi ddim ac mae wedi mynd o nerth i nerth.
“Roedd hi dipyn yn llai bryd hynny ond roedd hi’r un mor gyffrous ac rydym yn dal mor frwdfrydig ag erioed. Tyfodd fy nheulu i fyny gydag ef ac mae pob un ohonom wedi bod yn wirfoddolwyr ac rwy’n dal i gael fy nhocynnau bob blwyddyn.
“Rwy’n dal i gofio’r Eisteddfod gyntaf a chôr o Awstria’n canu’r Blue Danube ac ar ôl hynny rwy’n cofio’r côr plant Almaeneg a’r Happy Wanderer a Dylan Thomas yn eu galw’n ‘angylion gyda phlethi’.”