Fe fydd ymwelwyr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn medru derbyn gwybodaeth hanfodol am yr ŵyl trwy ap ffôn symudol newydd o’r enw ‘Llangollen’.
Wedi’i greu gan asiantaeth greadigol o Gaernarfon, Galactig, mae’r ap rhad ac am ddim yn cynnwys gwybodaeth yn Gymraeg a Saesneg ac ar gael i ddyfeisiadau Apple ac Android.
Fe fydd hefyd yn cynnwys fideos o’r holl gystadleuthau a gynhelir ar lwyfan y Pafiliwn Rhyngwladol, amserlen o’r prif weithgareddau ar faes yr Eisteddfod, gwybodaeth am gyngherddau a map rhyngweithiol o’r maes.
Dywedodd Sian Eagar, Prif Swyddog Gweithrediadau Eisteddfod Ryngwladol: “Fe fydd wi-fi ar y maes eleni ac fe fydd yr ap newydd yn galluogi i ymwelwyr dderbyn gwybodaeth am gystadlaethau a chyngherddau’r wythnos yn gyflym a hawdd.”
“Rydym yn siŵr y bydd cystadleuwyr ac ymwelwyr yn gweld budd mawr o gael y wybodaeth yma ar flaenau eu bysedd.”
Ychwanegodd Derick Murdoch, Cyfarwyddwr Creadigol gyda Galatig – sy’n rhan o Grŵp Rondo Media: “Mae wedi bod yn fraint cael creu’r ap yma ar gyfer dathliadau 70ain Eisteddfod Llangollen ac rydym yn gobeithio y bydd yn dod yn rhan annatod o’r Eisteddfod eleni ac yn y dyfodol.”.
I lawrlwytho’r ap, chwiliwch am ‘Llangollen’ yn y Play Store ar ffonau Apple neu Android.
Am dicedi a gwybodaeth am Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, cliciwch yma.