![](https://international-eisteddfod.co.uk/wp-content/uploads/2016/07/Ysgol-Gynradd-Nantgaredig-600x400.jpg)
Fe gafwyd perfformiad rhagorol gan blant Ysgol Gynradd Nantgaredig o Sir Gaerfyrddin wrth gystadlu mewn gŵyl gerddoriaeth ryngwladol nodedig.
Dan arweiniad yr arweinyddion Mair Jones ac Ina Morgan, cymerodd y côr ran yng nghystadleuaeth y Côr Plant Iau yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.
Ac er na wnaethon nhw i gipio’r brif wobr mi wnaeth y plant yn ardderchog mewn cystadleuaeth anodd iawn gan gystadlu yn erbyn corau o bob cwr o Gymru a Lloegr.
Dywedodd Eilir Owen Griffiths, cyfarwyddwr cerdd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen: “Mae safon y cystadleuwyr yn Llangollen bob amser yn uchel ond eleni roedd yn rhyfeddol gyda rhai perfformiadau cwbl syfrdanol.
“Roedd y beirniaid, fel y gynulleidfa fawr, wedi mwynhau perfformiad Ysgol Gynradd Nantgaredig yn arw ac rwyf wir yn gobeithio y gallwn groesawu’r côr yn ôl i Ogledd Cymru yn 2017.”