Bydd tapestri a grëwyd gan ffoadur o Tsiecoslofacia’r 1950au a ddaeth yn wirfoddolwr gydag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn cael ei arddangos yn yr ŵyl y flwyddyn nesaf.
Mae’r lliain bwrdd sydd wedi ei fframio wedi ei haddurno â channoedd o lofnodion gan gyn ymwelwyr a chystadleuwyr i’r Eisteddfod. Mae’r lliain yn Swyddfa’r Wasg yr Ŵyl ar hyn o bryd ond mae Darina Gaffin o Froncysyllte, a oedd yn athrawes iaith cyn iddi ymddeol ac sydd wedi gwirfoddoli ei hun fel un o Dîm Blodau’r Eisteddfod, eisiau gweld gwaith ei mam yn cael ei arddangos yn gyhoeddus.
Ymhlith y llofnodion y mae llofnod y cyn prif weinidogion Harold Wilson a Ted Heath ynghyd â’r dywysoges Anne a’r dywysoges Margaret a’i gŵr ar y pryd, yr arglwydd Snowdon.
Ganwyd Darina, yn Bratislava, a dihangodd o’i chartref yn Tsiecoslofacia gyda’i rhieni, Edmund a Magda Markovits, ar ôl i gomiwnyddion gipio grym.
Symudodd y teulu i Swydd Northampton, lle y treuliodd Magda’r blynyddoedd yn ystod y rhyfel cyn symud yn y pen draw i ogledd Cymru.
Dywedodd Darina: “Ymladdodd fy nhad yn yr Ail Ryfel Byd gyda byddin Tsiec. Danfonwyd ef i’r Rheng Flaen yn Rwsia i ymladd yn erbyn yr Almaenwyr. Ychydig iawn o bobl a ddychwelodd o’r rheng flaen ond fe wnaeth e oroesi, er wnaeth e erioed siarad am ei brofiadau.
“Roedd fy rhieni ym Mhrydain pan ddechreuodd y rhyfel a threuliodd fy mam flynyddoedd y rhyfel yn Swydd Northampton. Ar ôl i’r rhyfel orffen cawsant eu dychwelyd i Tsiecoslofacia gyda fy mrawd hŷn, a anwyd ym Mhrydain.
“Fe wnaethon nhw ddianc i Brydain pan gymrodd y comiwnyddion reolaeth. A dweud y gwir cafodd y fy mrawd ei anfon i Swydd Northampton flwyddyn ynghynt.”
Dywed Darina i’r teulu ymgartrefu yn Swydd Northampton ond symudasant i Froncysyllte ar ôl gweld hysbyseb ar gyfer eiddo y credent y gallent ei droi yn westy bach.
Meddai: “Yn fuan iawn wedi iddynt gyrraedd y gogledd y daethant ynghlwm wrth yr Eisteddfod oherwydd roedd fy nhad yn medru siarad 10 iaith yn rhugl, a fy mam chwech.
“Gweithiodd dad i Monsanto fel llyfrgellydd a chyfieithydd technegol. Cafodd gynnig swydd gyda Phencadlys Cyfathrebu’r Llywodraeth fel cyfieithydd ond dewisodd aros gyda Monsanto.”
“Bryd hynny, ar ddechrau’r 1950au, ychydig iawn o bobl a fedrai siarad ail iaith felly oherwydd roedd fy rhieni yn medru siarad cymaint o ieithoedd roedd galw amdanynt fel cyfieithwyr.
“Roedd fy mam hefyd yn gwirfoddoli mewn lletygarwch ac roeddwn i o hyd yn cael fy ngwisgo yn fy ngwisg genedlaethol Tsiecaidd.
Ychwanegodd: “Cafodd mam y syniad o olrhain llofnodion cystadleuwyr, ymwelwyr a gwesteion Llangollen ar liain bwrdd anferth a gafodd hefyd ei addurno gan artistiaid lleol.
“Fe wnaeth mam a thîm o weithwyr nodwydd frodio’r llofnodion a’r darluniau i greu darn o gelf sy’n wir gofnod o hanes cyfoethog yr ŵyl. Dechreuwyd y prosiect ym 1954 ac ni orffennwyd ef tan 1980.”
Fel ei rhieni, mae ieithoedd wedi chwarae rhan flaenllaw ym mywyd Darina.
Dywedodd: “Rwy’n siarad Ffrangeg, Saesneg ac Almaeneg fel fy ngŵr, George. Rydyn ni’n dau wedi ymddeol fel athrawon iaith. Mae un o’n meibion, John, yn bennaeth yr adran ieithoedd mewn ysgol ramadegol yn Rugby.
“Mae ein mab hynaf, George, yn byw yn Efrog Newydd lle mae’n gweithio fel gwyddonydd TG yn y sector bancio.
“Mae George yn briod â menyw o Rwsia, Lyudmila, y cyfarfu â hi yn Efrog Newydd ac mae ganddynt ddau o blant, Andrew sy’n wyth, a Julia sy’n bump. Mae ein merch, Jenny, yn offeiriad ar Ynys Hayling ger Portsmouth.”
Ychwanegodd: “Rwy’n falch y bydd y tapestri yn cael ei arddangos yn yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf. Mae’n haeddu cael ei weld a’i fwynhau gan gynifer o bobl â phosibl. Mae’n sicr yn rhywbeth rwy’n falch iawn ohono.”
Edmygwyd y tapestri gan Jana Zuplan, 24 oed o Volkertshausen, Baden-Wurttemberg, yr Almaen sy’n gweithio yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar leoliad gwaith pedair wythnos drwy gynllun gan ei phrifysgol yn yr Almaen. Dywedodd ei bod hi’n meddwl ei fod yn hardd iawn.
Dywedodd: “Mae’n rhaid ei fod wedi cymryd llawer iawn o amser i’w gwblhau ac mae’n edrych yn anhygoel. Mae gweld enwau cymaint o bobl o genhedloedd gwahanol yn fy atgoffa o hanfod yr ŵyl.”