Sêl bendith brenhinol wrth i’r Tywysog barhau fel Noddwr gŵyl enwog

Mae Tywysog Cymru wedi cytuno i barhau fel Noddwr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen am dymor arall.

Mae’n parhau’r berthynas hir rhwng Tywysog Cymru a’r ŵyl eiconig y mae wedi ymweld â hi dair gwaith – yn fwyaf diweddar y llynedd, pan ymwelodd â’r Eisteddfod yng nghwmni Duges Cernyw.

Prince Charles visit to Llangollen International Musical Eisteddfod

Prince Charles visit to Llangollen International Musical Eisteddfod

Bryd hynny cafodd ei ddenu i ddawns fyrfyfyr gydag aelodau o grŵp bhangra Punjabi o Nottingham, sef dawnswyr Sheerer Punjabi, wrth iddo nodi cychwyn Gorymdaith y Cenhedloedd.

Y tro cyntaf i Dywysog Cymru fod yn bresennol yn yr Eisteddfod oedd yn 1985, pan ddaeth yma yng nghwmni Diana, Tywysoges Cymru ac yna dychwelodd yn 2006, gyda Duges Cernyw, ond mae’r ŵyl, a sefydlwyd yn 1947 i hyrwyddo heddwch a chytgord rhyngwladol, wedi hen arfer ag ymweliadau brenhinol.

Yn 1953 roedd ymweld â Llangollen yn un o ymrwymiadau swyddogol cyntaf y Frenhines Elisabeth newydd ar ôl iddi olynu ei thad, George VI, ar yr orsedd, ac mi ddychwelodd wedyn yn 1992 er mwyn agor y Pafiliwn Brenhinol Rhyngwladol, ac ymysg yr ymwelwyr Brenhinol eraill a fu yn Eisteddfod Llangollen y mae’r Dywysoges Margaret a’r Dywysoges Frenhinol.

Dywedodd Cadeirydd Eisteddfod Dr Rhys Davies: “Yn naturiol, rydym yn falch iawn bod y Tywysog yn aros fel Noddwr i’r digwyddiad gwych yma ac rydym yn gobeithio y bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd lawer i ddod.

“Mae’n cynnal ein cysylltiad Brenhinol ac mae’n newyddion rhagorol ar ôl 70ain Eisteddfod lwyddiannus iawn a welodd nifer uwch o ymwelwyr, tri chyngerdd lle gwerthwyd pob tocyn, cynnydd mewn grwpiau o dramor a rhagolygon ariannol calonogol.

“Rydym ar y trywydd iawn i o leiaf adennill costau sy’n bod y rhagolygon ariannol yn llawer mwy cadarnhaol i ni wrth i ni nesáu at ein pen-blwydd yn 70 oed yn 2017.”

Dechreuodd digwyddiad eleni mewn ffordd gofiadwy iawn gyda chyngerdd Carmen ar y noson agoriadol, pan gamodd y seren soprano Americanaidd Kate Aldrich i’r adwy yn gampus yn dilyn absenoldeb Katherine Jenkins, a oedd wedi ei tharo’n wael gan firws.

Roedd y pafiliwn unwaith eto bron dan ei sang i glywed bas bariton mawr Cymru Bryn Terfel a’r tenor Joseph Calleja o Malta yn ymuno mewn cyngerdd gyda’i gilydd, cyn i Jools Hollan

Prince Charles visit to Llangollen International Musical Eisteddfod dances with Sheerer Punjabi Dancers

Prince Charles visit to Llangollen International Musical Eisteddfod dances with Sheerer Punjabi Dancers

d a’i Gerddorfa Rhythm a Blues godi’r to ar nos Sul.

Cafodd y penderfyniad i symud Gorymdaith y Cenhedloedd o’r diwrnod agoriadol i’r dydd Gwener hefyd ei gyfiawnhau gan y cynnydd mawr yn nifer y cystadleuwyr a gymerodd ran a’r 7,000 oedd ar y strydoedd gan gynnwys y rhai oedd yn rhan o’r orymdaith.

Ychwanegodd Dr Davies: “Roedd y cyngerdd Carmen gyda’r nos yn hollol wych ac roedd Bryn Terfel a Joseph Calleja ar y nos Iau hefyd yn wirioneddol gofiadwy ac roedd yn bleser mawr gen i weld un o fy ffefrynnau personol, Jools Holland, yn dychwelyd i lwyfan yr Eisteddfod ar gyfer cyngerdd gwych ar y dydd Sul.

“Roedd safon y cystadlaethau unwaith eto yn hynod o uchel ac mae nifer y bobl o dramor sy’n cymryd rhan – eleni daeth cystadleuwyr o 27 o wledydd – yn dal i dyfu.

“Cafodd y penderfyniad i symud gorymdaith draddodiadol yr Eisteddfod o ddydd Mawrth i ddydd Gwener ei gyfiawnhau gan y ffaith bod dros 1,000 wedi cymryd rhan, wedi eu gwylio gan dorf enfawr oedd gyda’r mwyaf ers blynyddoedd.

“Roedd gŵyl eleni drwyddi draw yn llawer mwy ac yn fwy lliwgar nag yn ddiweddar ond fedrwn ni ddim fforddio gorffwys ar ein rhwyfau ac mae’n rhaid i ni barhau i adeiladu ar ein hanes o lwyddiant.”